BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Tafod Elai
Llun Senedd Ewropeaidd Chwifio'r faner ym Mrwsel
Mehefin 2006
Ar un o'r ychydig foreau braf ym mis Mai eleni, cychwynnodd 27 o Ferched y Wawr am Frwsel.
Trefnwyd y daith i ymweld â'r Senedd Ewropeaidd gan bwyllgor Cangen y Garth ac yn ogystal â'r dwsin o aelodau o Gangen y Garth daeth ffrindiau o ganghennau eraill a rhai o swyddogion cenedlaethol y mudiad.

Cawsom daith hwylus gyda Gareth o gwmni Edwards yn yrrwr gofalus ohonom a pharod ei gymwynas. Treuliwyd y ddwy noson yng ngwlad Belg yn nhref brydferth Bruges (neu Brugge yn yr iaith Fflemeg) ac ar ddydd Mercher Mai l0fed dim ond taith awr oedd gyda ni i ddinas Brwsel. Gwenodd yr haul a chawsom fore hyfryd o grwydro o amgylch canol hynafol yr hen ddinas...ac efallai mai "crwydro" oedd y gair gorau i ddisgrifio hanes hanner dwsin o'r merched - bu bron i'r bws orfod gadael am y Senedd hebddynt am iddyn nhw gamddeall lleoliad y man cyfarfod. Ond a ninnau ar bigau'r drain heb wybod beth i'w wneud, dyma nhw yn rhuthro a'u gwynt yn eu dwrn i fyny'r rhiw am yr Eglwys Gadeiriol. Roedden nhw wedi anelu am eglwys arall!

Yn griw cyflawn, hapus unwaith eto, cyrhaeddom y Senedd ac wedi mynd trwy rigmarol diogelwch aethom i mewn i'r cyntedd ac yno i gwrdd â ni yr oedd Jill Evans, Aelod Plaid Cymru yn Senedd Ewrop ynghyd â Haf Elgar a Sara sydd yn rhedeg ei swyddfa. Bu Jill yn ein hannerch am ryw hanner awr mewn ystafell seminar gan egluro beth yw gwaith ASE, pa fath o bwyllgorau y mae hi' n eistedd arnynt a sut yr oedd yn rhannu ei gwaith rhwng Cymru a Brwsel.

Mae teithio yn rhan annatod o'r swydd gan ei bod yn cynrychioli Cymru gyfan ac yn teithio ledled Cymru pan fydd hi adre yn ogystal â theithio'n wythnosol i Frwsel ac yn ôl. Ar ben hyn, mae'r Senedd yn cyfarfod unwaith y mis yn Strasbourg a rhaid codi pac a mynd â'r holl bapurau, pamffledi ayyb i lawr yno. Eglurodd Jill bod yr holl aelodau o Senedd Ewrop am newid y drefn hon ond gan ei fod yn ysgrifenedig yn y cytundeb gwreiddiol bod 12 cyfarfod y flwyddyn i fod yn Ffrainc, nid yw llywodraeth Ffrainc am ildio er bod yr Undeb Ewropeaidd wedi newid cryn dipyn ers y dyddiau cynnar.

Yn dilyn anerchiad Jill, cawsom gyfle i'w holi ac yr oedd y llu cwestiynau yn dangos y diddordeb mawr yn y Sefydliad ac yng ngwaith Jill. Yn wir, gymaint oedd y nifer y cwestiynau, bu raid i ni ddod â'r cyfarfod i ben wedi awr a chwarter gan fod cyfarfod arall gyda Jill ac yr oedd wedi trefnu ffotograffydd i dynnu ein llun ni gyda hi. Dilynwyd hyn gan sesiwn gydag un o'r swyddogion Saesneg a aeth â ni i weld y Siambr a diddorol oedd gweld yr holl flychau ar gyfer y cyfieithwyr, ond trist yw nodi nad yw'r Gymraeg eto yn iaith gydnabyddedig yn Senedd Ewrop. Y mae Prif Weinidog Sbaen newydd sicrhau bod Catalaneg, Basgeg a Galisieg yn cael eu cyfrif yn ieithoedd swyddogol gyda chyfieithwyr wrth law i gyfieithu unrhyw araith yn yr ieithoedd hynny.

Ond oni wnaiff ein Prif¬ Weinidog ni newid ei gân a phledio achos y Gymraeg, ni fydd y Gymraeg yn cael ei chydnabod yn y Siambr. Yn ôl Jill, pan gododd hi'r mater gydag ef, wfftio a wnaeth a thrin ei chwestiwn fel jôc.

Un pwynt arall a godwyd oedd cysylltiad y pedwar Aelod o Gymru â'i gilydd a siom fawr i ni oedd sylweddoli nad ydynt yn cyfarfod fel grŵp Cymraeg trawsbleidiol i godi llais dros Gymru a sicrhau bod sylw yn cael ei roi i Gymru ar wahân i Loegr. Yr ydym fel cangen yn golygu ysgrifennu atynt i bwyso arnynt i roi eu hymlyniad at blaid yn ail i'w hymlyniad dros bledio achos Cymru yn Ewrop.

Wedi prynhawn o ddysgu a thrafod, roedd yn braf cael ymlacio yn nhawelwch camlesi Bruges a mwynhau swper blasus yn un o'r bwytai bach yn y strydoedd hynafol. A chyn ymadael am adre y bore canlynol, rhaid oedd cael un trip bach arall i siopa neu i fynd yn hamddenol mewn cwch ar hyd y camlesi o dan awyr ddigwmwl.

Aeth y tri diwrnod heibio yn rhy gyflym - gwelsom gymaint ag fe wnaethom ddysgu cymaint a mwynhau mas draw ... a sylweddoli hefyd mor agos yw tir mawr Ewrop wedi'r cyfan wrth inni gael brecwast yng Nghaerdydd a swper ym Mruges, ac mor bwysig yw hi i ni ddysgu mwy am Ewrop a'i sefydliadau sydd yn cael cymaint o ddylanwad ar y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy