BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Tafod Elai
Cychwyn Taith Gerdded Clwb y Dwrlyn o Aberporth Taith Gerdded Clwb y Dwrlyn
Medi 2009
Fel arfer gorffennodd tymor y Clwb gyda phenwythnos gerdded gan fynd yn ôl unwaith eto i'r gorllewin i ddilyn llwybr y glannau.
Lletywyd yng Ngwestŷ'r Cliff gyda'r rhan fwyaf o'r cerddwyr yn cyrraedd nos Wener gan sicrhau dwy noson o gyfeillachu a sgwrsio tra'n mwynhau'r golygfeydd bendigedig.

Y bwriad ddydd Sadwrn oedd cerdded o Aberporth i'r Mwnt. 'Roedd y dynion tywydd yn darogan stormydd erchyll ond er mawr ryddhad i bawb, yn arbennig y trefnwyr, Gill a Peter Griffiths, ni welwyd glaw o gwbl tan ddiwedd y prynhawn.

Cyrhaeddwyd y Mwnt yn sych ond yn chwyslyd wedi picnic ganol y daith yng ngolwg nifer o forloi chwilfrydig. Gwyrth yn wir! Daeth y glaw yn hwyrach ond erbyn hynny 'roedd pawb yn saff yn y bar.

Bore wedyn wedi brecwast hamddenol manteisiodd nifer ar y tywydd braf i fynd i Warchodfa Natur Corsydd Teifi sydd i fyny'r afon o dre Aberteifi.

Cafwyd cyfle i weld y cyfoeth o adar gwyllt sy'n treulio amser yn y Warchodfa yn ogystal â syllu ar y byfflos sy'n cartrefu yno. Mae'n llecyn hyfryd gyda chanolfan wybodaeth ddiddorol a lle i gael pryd bach o fwyd blasus hefyd!

Diolch yn fawr iawn i Gill a Peter am drefnu'r rhaglen ac yn arbennig am gael y gorau ar y dynion tywydd. Penwythnos arall gwerth chweil yn goron ar weithgareddau'r flwyddyn.

Diolch i Peter a'r pwyllgor am eu gwaith.

Pob dymuniad da i gadeirydd newydd y Clwb, Huw Llywelyn Davies, ac i'r pwyllgor.

Mae croeso mawr i aelodau newydd.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy