BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Tafod Elai
Graham Worley Teyrnged i Graham Worley
Hydref 2004
Ar brynhawn Gwener y trydydd o Fedi fe laddwyd Graham Worley un o brif ddawnswyr Nantgarw mewn damwain erchyll ar gefn ei foto beic.

Roedd wedi bod yn y banc ar stad Treforest pan fu mewn gwrthdrawiad â char. Fe'i lladdwyd yn y fan a'r lle. Mae'r golled yma i'w deulu (Ian, Sarah a Jay; Maria Kieron a Bethany) a Dawnswyr Nantgarw yn enfawr. Roedd Graham wedi bod yn aelod ers ffurfio Nantgarw yn 1979 a'i wyneb rhadlon e sy'n cael ei gysylltu â'r grŵp bob amser.

Fe gwrddais i Graham gyntaf yn neuadd ysgol Heol y Celyn. Roedd staff yr ysgol wedi gwneud tîm dawnsio gwerin am hwyl yng nghyngerdd yr ysgol er mwyn trio perswadio rhai o'r bechgyn i ddawnsio ac wedi mwynhau gymaint fe benderfynwyd dechrau tîm dawns yn ardal Rhydyfelin. Fe ofynnodd Eirlys i'r plant 'If any of your parents would like to dance tell them to come up to the school on Monday night.'

Aeth Ian Worley adre' a dweud wrth ei dad - You've got to go up the school on Monday to do some dancing' 'DANCING!! Who else is going?' oedd cwestiwn Graham. "All the parents" dwedodd Ian a chyrhaeddodd Graham yr ymarfer gyda phâr o esgidiau newydd yn sgleinio fel swllt - yr unig riant i wneud hynny!! Dyna oedd y noson gyntaf i Graham o bum mlynedd ar hugain o ddawnsio dros y byd i gyd yn rhoi pleser i bobol gyda'i wên a'i bresenoldeb hyfryd.

Fe gymerodd at y grefft yn naturiol achos roedd Graham yn ddawnsiwr naturiol achos ymateb wna ef i'r gerddoriaeth yn reddfol a byddai'n gwneud hynny gyda'i holl galon a'i ysbryd. Gwerin, roc, pop does dim ots beth oedd y gerddoriaeth fe allai Graham ddawnsio iddo. Doedd e fyth yn siŵr o enwau'r dawnsfeydd - "Reit Lumps of Pudding nesaf" gweiddai Eirlys ' "I don't know that one coach" meddai Graham' "Yes you do you've been dancing it for the last twenty years" "How does it go?" ac wedi clywed dau neu dri bar gwenai a dweud "Oh you mean Spuds' Pam Spuds?"Does neb yn gwybod a doedd Graham ei hun ddim yn gwybod chwaith - fe deimlai fel dawns ddylai gael ei henwi'n 'Spuds' siwr o fod.

Gymaint o weithiau byddai pobol yn gofyn i mi yn y gwaith wedi cystadleuaeth ar y teledu - pwy oedd y bachgen yn y ffrynt oedd yn gwenu, allwn i ddim cymryd fy llygaid oddi arno. A'r ateb bob tro - Graham Worley. Ac mi roedd o'n mwynhau - yn mwynhau cwrdd â phobol a'u diddanu. Fe fyddai'n dawnsio bob dawns ym mhob twmpath y byddem yn ei wneud nes y byddai'n chwys diferu ac yn dawnsio'r dawnsfeydd fel petai'n eu dawnsio am y tro cyntaf. Anghofiai fyth mohono yn ein parti priodas fis Gorffennaf eleni yn dawnsio disgo fel dyn gwyllt tan y diwedd ac yn gadael gyda'i grys yn wlyb diferol.

Bob blwyddyn ar ôl y Genedlaethol fe fyddai'n dweud - "That's my last one now coach - we've got to let the youngsters do it next time" a byddai Eirlys yn dweud wrtho - "You say that every year Grah." "Yeah but I mean it this time coach - I'm getting too old". Ag ateb Eirlys bob tro fyddai "Yes but they don't do as well as you Grah, you're the true spirit of Nantgarw". Ac mae hwnnw'n wir i chi.

Fe oedd ysbryd y tîm - fe oedd yr ardal. Trwyddo fe roedd y gorffennol yn dod i'r grŵp - fel Graham yr oedd dynion yr hen ffeiriau yn ardal Nantgarw'n dawnsio a bob blwyddyn fe fyddai yno ar y llwyfan yn gwenu ac yn dal calon y gynulleidfa ac yn aml iawn yn ein gorfodi ni i wenu a chwerthin gyda fe.

Dwi'n cofio pan wnaethon ni Ffair y Bala yng Ngŵyl Gerdd Dant Dolgellau ac yn yr intro Eirlys yn dweud wrtha'i am ddod i mewn a chyfarch y dynion eraill yn fy acen Bala - 'Sumai wa' - gofyn wedyn i'r bechgyn eraill ymateb. Dyma fi'n cerdded i mewn ac yn dweud yn fy Mala gorau 'Sumai wa' a'r ateb ges i wnaeth i bawb rowlio chwerthin "Allright butt?" Graham Worley! "They don't say that in Bala'!" gweiddodd coach "No, I know that coach but they do in Ponty".

Os oedd angen rhywbeth arnom yna Graham oedd y person cyntaf y troem ato - 'We need to do something about this Fari's mouth - a'r wythnos ganlynol fe fyddai wedi sortio'r geg allan. Os oedd angen cario, llwytho, dadlwytho, rhannu baich - y cyntaf yno wastad oedd Graham.

Mae yna gannoedd o storïau gennym am yr hwyl gawson ni yng nghwmni Graham - dros Gymru ben baladr a dros y byd i gyd yn Sbaen, Mallorca, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Hwngari, China ac rydym wrthi'n trefnu nawr mynd eto i Mallorca a Prague flwyddyn nesaf. Fydd hi ddim yr un fath heb i Graham fod allan drwy'r nos - yn trio cuddio hynny rhag ei annwyl 'Coach' a hithau'n gwybod yn iawn - ond ddim yn dweud dim.

Chawsom ni erioed aelod ffyddlonach - roedd yno am 7.30 bob nos Iau hyd yn oed yn y cyfnod pan oedd wedi brifo'i gefn a'i ben-glin. Roedd y cymdeithasu yr un mor bwysig iddo fe a rhoi'r gefnogaeth i ni fel arweinwyr. Roedd wrth ei fodd yn gwylio'r bobol ifanc yn y grŵp yn clocsio ac yn syfrdanu wrth iddynt wneud y stepiau cymhleth, cyflym.

Roedd ei gyfraniad i ddawnsio gwerin a stepio gwerin yn aruthrol ond gyda'r gwyleidd-dra mwyaf 'roedd yn falch iawn o'r triawdau clocsio 'Y Chwarelwyr' a'r triawd 'Clocsio Cerdd Dant' y bu'n rhan ohonynt gyda fi ac Ellis i ddechrau ac yn hwyrach gyda Gavin.

Beth mae Graham yn ei adael ar ôl? Coffadwriaeth o lawenydd a chwerthin. Ble bynnag yr â fe ddilynai hwyl a chyfeillgarwch. Mae'n gadael dau o blant sy'n arddel y Gymraeg ac sydd erbyn hyn yn anfon eu plant hwythau i ysgolion Cymraeg yr ardal. Roedd yn Gymro i'r carn - a dyna pam y dewiswyd emyn Pontypridd 'Hen Wlad fy Nhadau' yn un o'r emynau ganwyd yn ei angladd.

Nid ydoedd yn nodedig - yn y dorf,
Ond yn daer annelwig.
Gwr gwylaidd na ddaliai ddig,
Addfwyn oedd o fonheddig.
Elwyn Edwards

Oes rhaid dweud mwy? Mae yna gwestiynau wedi bod yn mynd trwy feddyliau pawb ers y ddamwain erchyll yma sydd wedi cipio un o'r eneidiau mwyaf hoffus wnewch chi fyth gyfarfod ar y ddaear yma. Yr unig ateb y gallai ddod o hyd iddo ydy fod yna rhywun yn rhywle angen 'dyn un' - a chredwch chi fi maen nhw wedi cael y gorau yn y busnes. Heddwch i'w lwch!

Cliff Jones


Cyfrannwch

Jay Worley o Rhydfelen, perthyn i fy nhadcu Graham
MAE fy'n nhad-cu wedi bod yn ffrind dda i mi ers i mi cael fy ngeni. Rwyf wedi cymryd ei le yn dawnsio yn Nantgarw nawr ond mae'n wir, dydy'r lle na ddim mor frwdfrydig na oedd o efo fy nhad cu ond mae'r dawnswyr yn gwneud llawer i'w cofio ac oddi wrth fy nheulu i gyd, rwyf eisiau dweud diolch yn fawr am popeth. Diolch 'bampi'!

Ian Worley Mab Graham,Maria Randal Gwaudd Graham,J
Diolch yn Fawr iawn Cliff am y geiriau sy'n cynhesu fy nghalon.
Oedd fy nhad 'da ffrindiau ym mhobman ond doedd e ddim yn credu yno.
Diolch yn fawr iawn am bopeth, a diolch i bawb yn Dawnswyr Nantgarw.
Rwy'n symud ymlaen efo calon trwm, ond ffrindiau fel ti yn gwneud e'n hawddach.
Diolch eto ..
Ian.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy