BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
29ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Clochdar
Lois Arnold, Dysgwr y flwyddyn Dysgwr y Flwyddyn
Tachwedd 2004
Lois Arnold, Dysgwr y Flwyddyn yn 2004 yn sôn am y profiad o gystadlu ac ennill y teitl yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd eleni, yn ei milltir sgwâr.
Roedd Eisteddfod Genedlaethol 2004 yn un gyffrous iawn i fi. Yn un peth, ro'n i, fel llawer o bobl leol eraill, wedi bod yn gweithio'n galed ers bron i ddwy flynedd, yn codi arian a cheisio hybu'r Brifwyl yn lleol.

Ro'n i mor falch pan gyrhaeddais i'r Maes bendigedig o'r diwedd a gweld y bobl yn llifo i mewn a mwynhau'u hunain yn y tywydd braf. Ond do'n i ddim wedi bwriadu cystadlu eleni - dim tan i mi gael fy mherswadio i roi cynnig ar gystadleuaeth "Dysgwr y Flwyddyn".

Mae ITV Wales yn gwneud rhaglen am y gystadleuaeth a ro'n i wedi gwylio'r rhaglen bob blwyddyn ers i mi ddechrau dysgu Cymraeg. Weithiau ro'n i wedi breuddwydio am gymryd rhan yn y gystadleuaeth - ac yn ennill! Ond do'n i ddim wedi meddwl o ddifrif am y peth.

Ond pan ddaeth yr Eisteddfod i Gasnewydd sylweddolais ei bod hi'n bwysig i bobl leol gystadlu. Efallai nad oes llawer o bobl sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf yn yr ardal yma, ond mae miloedd yn dysgu. Ro'n ni eisiau i bobl weld bod y Gymraeg yn bwysig i ni yma. Felly pan gynigiodd rhywun fy enwebu ar gyfer y gystadleuaeth, penderfynais fynd amdani. Ro'n i'n teimlo'n swil ac yn nerfus, ond yn benderfynol o fwynhau'r profiad a chael hwyl.

Yn y rownd gyntaf roedd rhaid i ni fynd i Dŷ Tredegar am ddiwrnod cyfan o gyfweliadau a gweithgareddau. Daeth dysgwyr eraill o bob rhan o Gymru ac roedd hi'n hyfryd cwrdd a siarad â nhw. Roedd pawb yn nerfus, ond roedd y tri beirniad yn gyfeillgar ac yn gefnogol. Ar ôl mynd adre roedd rhaid aros i glywed a o'n i wedi cyrraedd y pedwar olaf. Faswn i ddim wedi synnu o gwbl taswn i ddim wedi cael fy newis, gan fod safon Cymraeg y cystadleuwyr eraill mor dda. Ond ro'n i wrth fy modd pan glywais fy mod i wedi cyrraedd y ffeinal.

Roedd pethau'n gyffrous iawn wedyn. Daeth criw teledu i fy ffilmio i ar gyfer y rhaglen. Cymerodd hyn ddiwrnod cyfan, gan fod y Cynhyrchydd yn awyddus i gael golygfeydd 'action' diddorol, yn ogystal â'r cyfweliad gyda Nia Parry. I fi roedd hyn yn golygu cael fy ffilmio'n canu'r ffliwt yng nghanol y dre a marchogaeth. (Doedd y ceffyl druan ddim yn hapus iawn am hyn. Roedd ofn' y microffon mawr, blewog arno fe, ond gadawodd i mi'i farchogaeth heibio i'r peth dychrynllyd sawl gwaith, tan i'r criw ffilmio fod yn hapus, chwarae teg iddo!)

Ar ôl hyn roedd rhaid paratoi am y rownd derfynol ar Faes yr Eisteddfod. Ro'n i mewn cysylltiad â'r tri arall oedd yn y ffeinal - Jane, Alison a Nick, ac roedd hyn yn help ac yn gysur wrth i ddiwrnod y gystadleuaeth nesâu. Roedd hi'n boeth iawn ar ddiwrnod y ffeinal a ro'n ni i gyd yn nerfus ac yn chwyslyd iawn! Roedd rhaid i ni siarad ar y llwyfan ym Mhabell y Dysgwyr.

Yna cawson ni ginio ym Mhabell ITV a gweld y ffilm ro'n nhw wedi'i gwneud amdanon ni. Wedyn yn ôl i Babell y Dysgwyr i siarad am ein 'drysorau' (ro'n ni wedi dod â phethau oedd yn bwysig i ni), ac yn olaf, cyfweliadau gyda'r beirniad. Yng nghanol hyn i gyd roedd hefyd yn lansiad fy llyfr i ddysgwyr, 'Cysgod yn y Coed', oedd newydd gael ei gyhoeddi gan Wasg Gomer. Felly roedd hi'n ddiwrnod llawn cyffro! Roedd hi'n braf wedyn cael mynd i fy mhabell ar y Maes Carafannau i orffwys, cyn newid a mynd i'r Noson Wobrwyo.

Roedd hi'n noson hyfryd pan gyrhaeddon ni'r gwesty ac roedd pawb yn ymlacio, yn yfed gwin ac yn mwynhau pawb ond Alison, Jane, Nick a fi! Ond o'r diwedd daeth yr amser i'r beirniaid gyhoeddi pwy oedd wedi cael ei ddewis yn Ddysgwr y Flwyddyn 2004. Roedd hi'n sioc pan glywais fy enw i! Ces i dlws hyfryd a £300 yn wobr a chafodd y pedwar ohonon ni sawl gwobr arall, gan gynnwys aelodaeth o CYD a Merched y Wawr. Dw i'n teimlo bod hi'n fraint ac yn anrhydedd mawr i mi ennill y gystadleuaeth hon. Y diwrnod ar ôl y gystadleuaeth clywais i gan yr Archdderwydd bydda i'n cael gwobr arall yn Eisteddfod 2005 - sef fy urddo i'r Orsedd (y Wisg Werdd). Alla i ddim meddwl am unrhyw anrhydedd fwy na hyn, yn enwedig i rywun fel fi, sy wedi dod o Loegr i wneud fy nghartref yng Nghymru.

Dw i ond yn gobeithio bydda i'n gallu cyfiawnhau ennill teitl 'Dysgwr y Flwyddyn' a'r anrhydeddau sy'n dod yn ei sgil trwy ysbrydoli a chefnogi dysgwyr eraill. Dw i'n ddiolchgar iawn i fy nhiwtoriaid gwych ac i fy nghyd-ddysgwyr dros y blynyddoedd, ac i'r gymuned Gymraeg leol, sy wedi bod mor groesawgar ac mor gefnogol i mi. Dw i'n fodlon iawn dod i siarad â grwpiau, cymdeithasau a dosbarthiadau - cewch gysylltu â fi ar 01873 856624.

Lois Arnold

(Llongyfarchiadau mawr i Lois. Hoffwn ddiolch iddi hefyd am ei chefnogaeth. Robin Davies)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy