BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Amgueddfa Adnabod ardal - Y Rhondda
Ardal sydd wedi gweld twf a dirywiad mewn diwydiant, a dirywiad a thwf yn y Gymraeg yw Cwm Rhondda. Mae John Evans yn ein harwain drwy gwm enwocaf y Cymoedd.

Yn hanesyddol, 'Y Gloran' yw'r enw ar yr ardal hon o Gwm Rhondda.

Serch hynny, 'does gan yr enw hwn, er mawr syndod efallai, ddim o gwbwl i'w wneud â glo. Daw'r teitl o ynganiad pobl yr ardal o'r gair "cloren" sef "cynffon".

Arferwyd y gair i ddisgrifio plwyf Ystradyfodwg, (a gynhwysai'r rhan fwyaf o Gymoedd y Rhondda Fawr a'r Rhondda Fach) oherwydd i ffiniau'r plwyf hwnnw, ar un adeg, ymestyn draw i'r Hirwaun yng Nghwm Cynon, ac felly roedd yn ffinio â phlwyf Penderyn, Sir Frycheiniog. Ar fap roedd hyn yn ymddangos fel 'cynffon' Sir Forgannwg a ymwthiai i Sir Frycheiniog.

Yn yr Oesoedd Canol roedd yr ymadrodd "Ymswynwch rhag gŵr y Gloran" ar dafod leferydd pobol Morgannwg a Sir Frycheiniog.

Wrth gwrs nid yw'r ymadrodd hwn yn dal yn fyw heddiw ac yn sicr, erbyn hyn does dim eisiau i neb groesi eu hunan i osgoi "anwareidd-dra" pobol Cymoedd y Rhondda.

Ffynnon FairYn wir, yr unig gysylltiad â'r Oesoedd Canol erbyn hyn yw'r Ffynnon Fair (yn ogystal â dyrnaid o ffermydd) sydd wedi'u lleoli islaw ystad dai Penrhys ar lethrau Mynydd Pen-rhiw-gwynt.

Fe fu'r ffynnon yn enwocach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel ffynhonnell dŵr ar gyfer gwella anhwylder y stumog, yn arbennig ymysg y glowyr a ddaeth yn llu i'r cymoedd hyn yn 60au a 70au'r ganrif honno na man gwyrth eilun o'r Forwyn Fair yn syrthio o'r nefoedd.

Sefydlu pentrefi'r cymoedd
Yn y cyfnod hwn y sefydlwyd y trefi a'r pentrefi, Y Gelli, Ton Pentre, Y Pentre, Treorci, Cwmparc, Treherbert, Blaenrhondda a Blaen-y-cwm (sef Blaenau' Rhondda Fawr - dalgylch papur bro Y Gloran ).

Newidiodd hyn natur y Cwm yn gyfan gwbwl gyda choedwigoedd helaeth yn diflannu a hysbysebion yn y papurau newyddion fel yr un am werthu 480 derwen a oedd yn tyfu ar Ben-rhiw-gwynt i'r llynges a gweithfeydd eraill yn mynd yn ddim ond atgof mewn byr o dro.

Gwelir pa mor gyflym y sefydlwyd y trefi a grybwyllir uchod a pha mor ddwys oedd y boblogaeth wrth ystyried twf poblogaeth Cymoedd y Rhondda.

Ym 1801 roedd 542 yn byw yma, erbyn 1871 roedd y nifer wedi codi i 16,914, ac erbyn 1891 roedd wedi cyrraedd 88,351, - rhyw 2,000 yn fwy na phoblogaeth Ceredigion yn y cyfnod.

Dal i gynyddu tan y dirwasgiad wnaeth poblogaeth y Rhondda, gan gyrraedd 169,000 ym 1924. Erbyn hyn mae'r boblogaeth wedi crebachu i tua 70,000.

Dirywiad yn y Gymraeg
Tai y RhonddaYn ôl Cyfrifiad 2001 tua 11% o'r boblogaeth sy'n Gymry Cymraeg. Mae'r canran hwn yn dangos maint y dirywiad a ddigwyddodd i'r iaith trwy gydol yr ugeinfed ganrif, oherwydd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf roedd mwy na 50% o boblogaeth y Rhondda yn Gymry Cymraeg.

Un o'r rhesymau am y dirywiad hwn oedd tuedd rhieni Cymraeg i fagu'u plant yn Saeson uniaith. Dyma, yn bennaf, sydd i gyfrif am ddiflaniad llwyr yr iaith yn rhai o strydoedd Treorci tra ym 1891 roedd mwy na 95% o'r boblogaeth yn Gymry Cymraeg.

Er nad oedd gan y mwyafrif o Gymry yr awydd i ddysgu'r iaith i'w plant, roedd bywyd diwylliannol y Cwm yn yr iaith yn ffynnu, nid yn unig y capeli a fu'n ganolfannau pwysig iawn - roedd seddau i 85,000 o bobol yng nghapeli'r Cwm ar ddechrau'r ugeinfed ganrif - ond hefyd yn y gymdeithas yn gyffredinol.

Ben Bowen y bardd
Tŷ Ben BowenMae hyn yn cael ei adlewyrchu yn hanes bywyd y bardd-löwr Ben Bowen (1878 -1903) o Dreorci.

Dechreuodd, fel y rhan fwyaf o'i gyfoedion, weithio yn y lofa yn 12 oed. Ymhen pum mlynedd enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Penrhiwceibr a hyd yn hyn, ef yw'r ieuengaf i ennill yr anrhydedd.

Wedi hyn, a chyfnod o astudio yn Academi Pontypridd, aeth i Goleg Prifysgol Caerdydd lle y meistrolodd yr ieithoedd clasurol yn ogystal â'r Almaeneg.

Yn anffodus, bregus iawn oedd ei iechyd ac ym 1901 aeth i Dde Affrica i weld a fyddai hinsawdd y wlad honno yn llesol i'w iechyd. Talwyd iddo fynd yno gan ymdrechion codi arian ei gyn-gydweithwyr a phobol ei dref enedigol.

Ym mhen blwyddyn dychwelodd i Gymru ac aeth ati i ysgrifennu cyfres o erthyglau diwinyddol. Ond yn ôl arweinwyr ei enwad, roedd y syniadau yn y rhain yn anuniongred. O ganlyniad cafodd ei ddiarddel o'i gapel, sef Moriah, Y Pentre. Bu farw yn ddyn ifanc yn 25 oed.

Mae hanes Ben Bowen yn dangos cymaint oedd grym capeli ei gyfnod a hefyd yr afael oedd ganddyn nhw ar y gymdeithas. Erbyn heddiw mae capeli'r Cwm, Cymraeg a Saesneg eu cyfrwng, naill ai wedi'u cau neu'n gwegian dan bwysau seddau gweigion.

Kitch
Doedd sefyllfa'r capeli ddim mor argyfyngus â hyn ond roedd sefyllfa economaidd y Cwm mewn cyflwr gwaeth pan ddaeth y bardd-wleidydd James Kitchener Davies i ddysgu yma o gefn gwlad Ceredigion ym mlwyddyn y Streic Gyffredinol, 1926.

Carreg goffa KitchenerMae dau ddarn o waith 'Kitch' yn arbennig, yn adlewyrchu ei farn am sefyllfa Cwm Rhondda yn y 30au hyd y 50au, sef ei ddrama Cwm Glo a'i bryddest Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu.

Mae'r gweithiau hyn yn bwysig nid yn unig oherwydd eu gwerth artistig ond hefyd am eu bod yn cynnwys sylwebaeth gwladwr o Gymro twymgalon ar ffawd disgynyddion y miloedd a bentyrrodd, mewn cyfnod cynharach, i Gwm Rhondda o gefn gwlad.

Un o'r bobol hynny oedd y bardd a'r cynhyrchydd teledu, Rhydwen Williams, a gafodd ei eni yn Y Pentre ym 1916. Hyd heddiw mae'r cof amdano'n fyw ymysg y to hŷn.

Mae ei gefnder, Tom Williams, yn ei gofio fel un a oedd yn eiddgar iawn i gadw cysylltiad agos â'i deulu yn y Cwm. Gŵr yw Tom nad yw'n gallu siarad Cymraeg er mai Cymry Cymraeg oedd ei rieni, a'i dad yn eisteddfodwr brwd - enillodd y wobr gyntaf am draethawd ar y testun 'Profiadau Glöwr' yn Eisteddfod Caerffili.

Yn Eisteddfod Caerffili hefyd yr enillodd Rhydwen y Goron am ei gerdd Y Ffynhonnau - cerdd sy'n dathlu ail sefydlu'r Gymraeg yn y Cwm trwy gyfrwng yr ysgolion Cymraeg.

Yn sicr, fe fyddai Rhydwen yn falch iawn o'r ffaith bod rhyw draean o blant y Cwm yn mynychu'r ysgolion hyn erbyn heddiw.

Er bod y Gymraeg wedi bod ar drai yn y Cwm, erbyn hyn gellir dweud i sicrwydd bod yr iaith ar gynnydd ac yn sicr nid yw'r ymwybyddiaeth o hunaniaeth Gymreig, hyd yn oed yn nofelau awduron Cymreig megis Gwyn Thomas, un arall a aned i rieni Cymraeg eu hiaith, erioed wedi diflannu.

John Evans



Cyfrannwch

Trehafod
Parc Treftadaeth y Rhondda


Oes gennych chi sylw am hanes yr ardal hon, neu oes gennych hanes lleol arall i'w rannu? Rhowch wybod inni!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy