BBC HomeExplore the BBC

LLUN
28ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Geiriadur Prifysgol Cymru, y bu T.J.Morgan yn gweithio arno
T. J. Morgan

Ganwyd: 1907

Magwyd: Ynys-y-mwn ym mhentref Y Glais, ger Abertawe

Addysg: Coleg Prifysgol Abertawe a Choleg Prifysgol, Dulyn


Ysgolhaig ac ysgrifwr

Ysgolhaig ac ysgrifwr oedd T. J. Morgan. Ei waith ysgolheigaidd pwysicaf yw ei gyfrol Y Treigladau a'u Cystrawen, a gyhoeddwyd ym 1952, ac sydd erbyn hyn yn lyfr eithaf prin.

Dyma'r astudiaeth fwyaf manwl ac awdurdodol o'r pwnc.

Ar ben hynny, ac ar y cyd â'i fab Prys Morgan, Athro Hanes ym Mhrifysgol Abertawe, cyhoeddodd gyfrol ar gyfenwau Cymreig, sef Welsh Surnames (1985).

Ganwyd Thomas John Morgan yn Ynys-y-mwn ym mhentref Y Glais, ger Abertawe, ym 1907, i deulu o weithwyr diwydiannol.

Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe, a Choleg Prifysgol, Dulyn.

Dechreuodd ei yrfa academaidd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, ac yna, wedi cyfnod yn was sifil yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe'i penodwyd yn Gofrestrydd Prifysgol Cymru ym 1951.

Dychwelodd i Abertawe ym 1961 yn Athro'r Gymraeg, a bu yn y swydd honno nes iddo ymddeol.

Rhodri Morgan, Prif Weinidog Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, yw ei fab arall. Yn Llandeilo Ferwallt mae cartref y teulu.

Gwaith golygyddol

Ym 1946 penodwyd T. J. Morgan yn gyd-olygydd y cylchgrawn Y Llenor, ac yn ddiweddarach yn olygydd.

Ym 1955 golygodd rifyn arbennig er cof am sylfaenydd y cyfnodolyn a oedd wedi marw ym 1954.

Roedd T. J. Morgan yn gyfaill agos i W. J. Gruffydd ac yn gyfarwydd â chymlethdod ei feddwl: cyfrannodd fonograff gwerthfawr ar Gruffydd i'r gyfres Writers of Wales ym 1970.

Y Llenor oedd prif cylchgrawn y cyfnod o 1922 hyd 1955 ac roedd T. J. Morgan yn rhan annatod o'i lwyddiant.

Pwysigrwydd ei wreiddiau

Fel ysgrifwr roedd T. J. Morgan yn hoff iawn o ddychwelyd i Gwm Tawe am ei ddeunydd, ac ymddiddorai yn nhafodiaith, hiwmor a llên gwerin yr ardal.

Mae ei gyfrolau cyntaf o ysgrifau, Dal Llygoden (1937), Trwm ac Ysgafn (1945) a Cynefin (1948), yn gyforiog o'r cyffyrddiadau ysgafn sy'n nodweddu ei waith: dyn â hiwmor ffraeth ydoedd, a welodd ochr eironig popeth.

Aeth ymlaen i gyhoeddi pedair cyfrol bellach: Amryw Flawd (1966), Dydd y Farn (1969), Hirfelyn Tesog (1969) a Diwylliant Gwerin (1972).

Mae'n hen bryd i rywun paratoi detholiad o'i ysgrifau gorau, oblegid ysgrifennodd Gymraeg caboledig dros ben. Cyhoeddodd hefyd gasgliad dan y teitl Ysgrifau Llenyddol (1951), sy'n dangos ei ymwybod eang catholig, ei ddiddordeb byw yn y celfyddydau cain a'r un meddwl gwibiog a oedd yn gallu trafod pethau cartrefol gyda'r un angerdd ag a drafodai pethau esthetig.

Bu farw T. J. Morgan ym 1986. Fe'i coffheir, ymhlith eraill, gan ffynnon ym Mhontardawe.

Meic Stephens

Cyfrannwch

David Williams, Aberystwyth
Mr JDR Thomas, gynt o Wynfe, Sir Gaerfyrddin: Dw'i ddim yn credu, mewn gwirionedd, y byddai unrhyw un sydd yn llinach teulu Cwmcile Fach, ym mhlwyf Llangyfelach, (teulu a chwaraeodd ran mor amlwg yn nherfysgoedd Beca), fel yr oedd Mrs Huana Morgan, yn gwerthfawrogi telegram mawr na bach oddi wrth na brenhines na theyrn o unrhyw fath. Mi ddylech fod wedi ei hadnabod yn well na hynny!

JDR THOMAS, Gresford a Gynt o Gwynfe Sir GAR
TJ a rhoddod y llythyr i mi yn 1947 â'r newydd fod Prifysgol Caerdydd yn bwriadu fy nghalw 'nôl i'r Brifysgol o dan Cynllun Dosbarth B allan o'r fyddin, ac felly na fyddai synwyr i mi ddychwelyd 'nôl i India!

Blin gennym 'nawr glywed am farwolaeth ei briod a hithau wedi cyrraedd yr oedran aeddfed o 99, ond ychydig yn brin o'r TELEGRAM MAWR oddi wrth Y Frenhines. Bendith a chydymdeimlad dwys i'w meibion Rhodri a Prys - y ddau a gofiwn amdanynt yn ddisgyblion Ysgol Sul yn y Tabernal Caerdydd tua 1950.

JDR.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy