Bardd, dramodydd a gwleidydd
Prif orchest J. Kitchener Davies, yn ddiau, oedd ei bryddest 'Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu', a ddarlledwyd gan y BBC pan oedd y bardd ar ei wely angau ym 1952. Ond diolch i M. Wynn Thomas, un o'n beirniaid craffaf, rydym yn dechrau gweld rhinweddau yng ngweddill ei waith ac yn darganfod agweddau newydd ar ei fywyd hefyd.
Fe'i cofir, yn ogystal, fel un o arweinwyr Plaid Cymru yn y Rhondda, ac yn weithiwr diflino dros ysgolion Cymraeg yn y Cwm.
Roedd yn genedlaetholwr o argyhoeddiad dwfn a brwydrodd yn galed yn erbyn y Blaid Lafur a'i chynrychiolwyr lleol.
Er bod y cof am y dyn yn dechrau pylu, mae ei egni, ei ddyfalbarhad a'i bersonoliaeth garismatig wedi mynd yn chwedlonol ymhlith cefnogwyr yr achos cenedlaethol yng nghymoedd y De.
Magwraeth wledig
Fe'i magwyd mewn tyddyn ger Cors Caron yn Sir Aberteifi, lle ganwyd ef ym 1902, a'i addysgu yn Ysgol Sir Tregaron a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Gadawodd marwolaeth ei fam, ac ail briodas ei dad, graith annileadwy ar ei gymeriad.
Ymsefydlodd yn y Rhondda ym 1926 (blwyddyn y Streic Gyffredinol) ac yno treuliodd weddill ei oes yn athro Cymraeg yn ysgolion y Cwm.
Un o'r tair o ferched yw'r awdures Manon Rhys.
Dramodydd beiddgar
Gyda'i ddrama tair-act Cwm Glo, a anfonwyd i'r Eisteddfod Genedlaethol ym 1934, gwelwyd fod dramodydd talentog wedi codi ei ben.
Achosodd y ddrama gryn gynnwrf ar gyfrif ei bortread di-flewyn-ar-dafod o gyflwr materol a moesol cymoedd y De, gan gynnwys rhywioldeb y merched.
Barn y beirniaid oedd nad oedd y ddrama yn addas i'w llwyfannu ac atalwyd y wobr.
Bu cyffro drachefn pan gyhoeddwyd y gwaith a'i berfformio yn Abertawe ac yna ar hyd a lled y De, a pharhaodd y dadlau ynglŷn â'i gywirdeb yn y wasg Saesneg a Chymraeg.
Nid oedd ei waith nesaf, drama fydryddol yn dwyn y teitl Meini Gwagedd (1945), mor dadleuol: rhithau yw'r cymeriadau sydd wedi crwydro o'u beddau yn ardal Llwynpiod ger Tregaron.
Brad ac euogrwydd yw ei themâu a'r teimlad o golled oedd yn debyg i'r un a brofodd yr awdur ar ôl ail briodas pan oedd yn gorfod symud o'r fro.
Ei waith mwyaf
Ond yn anad dim am y bryddest 'Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu' y cofir am J. Kitchener Davies heddiw.
Yn ôl Gwenallt, hon oedd 'un o gerddi mwyaf barddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif'.
Monolog ddramatig yw'r gerdd am bererindod ysbrydol a pholiticaidd y bardd, o ardal amaethyddol ei febyd i anialdir diwydiannol y Rhondda.
Trwyddi draw mae'r gwynt yn cynrychioli'r pwerau dinistriol y bu'r bardd yn ceisio eu gwrthsefyll ar hyd ei oes.
Mae ei grym anghyfforddus yn deillio o onestrwydd chwerw ei hunanymholiad a'i ymchwiliad didostur i'w amcanion ei hun, ac erbyn y diwedd mae'r gwynt yn ei ysgubo, er ei waethaf, at lwybr y sant.
Mae'r bryddest yn datgan ffydd bersonol yn ogystal â'r argyfwng deallusol y teimlodd cenhedlaeth gyfan a wnaeth wleidyddiaeth yn rhan allweddol o'u crefydd.
Cyhoeddwyd Gwaith James Kitchener Davies o dan olygyddiaeth ei weddw Mair ym 1980 a detholiad o'i waith (gol. Manon Rhys ac M. Wynn Thomas) ym 2002.
Ceir plac er cof am J. Kitchener Davies ar y tŷ yn Heol Brithweunydd, Trealaw, lle trigodd gyda'i deulu, ac un arall ar wal y capel yn Llwynpiod.
Meic Stephens