Bardd 'Y Storm'
Bardd tra phoblogaidd tua canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Islwyn. Erys y cof amdano'n bennaf ar gyfrif ei gerdd hir 'Y Storm'.
Ni lwyddodd erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, er gwaethaf ei ymdrechion mynych.
Serch hynny, bu'n weithgar fel beirniad eisteddfodol ac roedd yn gyfrannwr cyson i gylchgronau'r dydd.
Ganwyd William Thomas ym 1832 ger Ynys-ddu yn Sir Fynwy, gan gymryd enw mynydd cyfagos fel enw barddol.
Plentyn eiddil ydoedd, yr un ieuengaf o ddeg a anwyd i rieni a oedd yn hen ond yn eithaf cefnog.
Troedigaeth grefyddol
Talwyd iddo gael addysg dda a bwriadwyd iddo fynd yn dirfesurydd.
Ond dan ddylanwad ei frawd-yng-nghyfraith Daniel Jenkins profodd dröedigaeth grefyddol a daeth i ymddiddori'n angerddol mewn barddoniaeth Gymraeg.
Y digwyddiad pwysicaf yn ei fywyd, heb os nac onibai, oedd marwolaeth sydyn Anne Bowen, merch ifanc o Abertawe y bwriadai ei phriodi.
Canlyniad uniongyrchol y profiad hwn fu llunio dwy gerdd hir o dan y teitl 'Y Storm', ac ar y campwaith hwn mae ei enwogrwydd wedi ei seilio ers hynny.
'Rwyf yn mynd at Anne nawr'
Byth wedyn arhosodd Islwyn yn ei fro enedigol, gan wrthod cymryd gofal eglwys ac ymsegru ei hun i farddoniaeth.
Ym 1864 priododd Martha Davies, hithau o Abertawe, ond amharwyd ar eu priodas ddi-blant gan gysgod Anne Bowen; yn y cyfamser, roedd mam Anne wedi priodi tad Martha.
Geiriau olaf Islwyn, yn ôl tyst, oedd, 'Diolch iti, Martha, am y cyfan a wnest i mi. Buost yn garedig iawn, 'Rwyf yn mynd at Anne 'nawr.'
Bu cryn dipyn o dyndra ym mywyd a personoliaeth Islwyn.
Cyfrinydd
Hyd yn oed yn ei ymddangosiad roedd yn drawiadol: roedd ganddo gorff bach a phen anferth.
Cafodd fagwraeth Seisnig ac eto roedd ei ddiddordeb yn gyfangwbl mewn barddoniaeth Gymraeg.
Roedd elfennau prudd a hwyliog yn ei gymeriad.
Cyfriniol oedd nifer mawr o'i gerddi ond roedd ei grefydd yn uniongred dros ben, yn unol â chyffes ffydd y Methodistiaid Calfinaidd.
Fel beirniad anogai ar ei gyd-feirdd rinweddau'r delyneg ond mynnai gyfansoddi cerddi hirfaith yn y dull clasurol.
Dryswyd gwerthfawrogiad 'Y Storm' am gyfnod gan O. M. Edwards a methodd wahaniaethu rhwng y ddau fersiwn yn ei argraffiad o'i waith ym 1897.
Erbyn hyn, diolch i feirniaid megis Gwenallt, Meurig Walters, Saunders Lewis, a W.J.Gruffydd, gwelir godidogrwydd mewn rhannau o'r ddau, er bod y nifer o linellau'n ddigon i ddanto'r darllenydd modern.
Pererindod yr enaid
Disgrifiadau o stormydd, rhai naturiol a rhai ffigurol, sydd yn rhan gyntaf y gerdd a chyfres o fyfyrdoddau metaffisegol sydd yn yr ail.
Pererindod yr enaid a'i fuddugoliaeth dros storm bywyd yw prif thema'r cyfan.
Cymysgedd o ysgrifennu mawreddog yn null y Bardd Newydd a darnau ffres ac uruchel sydd trwyddi draw.
Ar wahân i'r 'Storm', cyhoeddodd Islwyn dwy gyfrol o'i gerddi, sef Barddoniaeth (1854) a Caniadau (1867); wedi hynny ysgrifennodd gerddi mewn cynghanedd ar gyfer eisteddfodau neu farwnadau diawen.
Bu farw Islwyn 1878 ac fe'i claddwyd ym mynwent Y Babell, capel yr Hen Gorff yn Ynys-ddu.
Meic Stephens