BBC HomeExplore the BBC

GWENER
8fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Gwyn A. Williams
Gwyn Alf Williams

Ganwyd: 1925

Magwyd: Dowlais, Merthyr Tudful

Addysg: Ysgol Cyfarthfa, Merthyr Tudful, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth


Hanesydd, Sosialydd a Chenedlaetholwr

Hanesydd a darlledwr oedd Gwyn A. Williams, un a wnaeth gyfraniad nodedig i'n dealltwriaeth o hanes y Gymru ddiwydiannol a radicalaidd.

Ysgrifennai fel y siaradai, yn lliwgar ac yn gynhyrfus, gyda llif o gyfeiriadau a adlewyrchai ei ysgolheictod eang a'i gymeriad di-flino.

Dyn bychan ei gorff ydoedd, ac yn siaradwr cyhoeddus huawdl gyda rhywfaint o atal-ddweud a wnaeth ei lefaru'n tipyn mwy dramatig.

Perthynai i'r Chwith, ac erbyn diwedd ei oes roedd yn aelod blaenllaw o Blaid Cymru, ond nid oedd yn wirioneddol hapus yn rhengoedd unrhyw blaid.

Magwraeth ym Merthyr

Brodor o Ddowlais, Merthyr Tudful, oedd Gwyn Alfred Williams (neu Gwyn Alf fel y'i adwaenir), a addysgwyd yn Ysgol Cyfarthfa, hen gartref y teulu Crawshay, meistri haearn y dref.

Aeth ymlaen i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle penodwyd ef yn ddarlithydd yn Adran Hanes Cymru ym 1954.

Fe'i dyrchafwyd yn Darllenydd ac wedyn yn Athro Hanes yng Nghaerefrog ym 1965 ond dychwelodd i Gymru ym 1974 fel Athro Hanes yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac yno yr arhosodd nes iddo ymddeol ym 1983.

Roedd Gwyn A. Williams yn awdurdod ar Sosialaeth a Marcsiaeth, a'i brif maes ymchwil oedd hanes trefol y De yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Radicaliaeth Lloegr a thramor

Mae ei lyfrau'n adlewyrchu ei wreiddiau ym Merthyr - y dref ddiwydiannol gyntaf yng Nghymru a chrud radicaliaeth politicaidd heb ei ail. Serch hynny, ei waith cyntaf oedd Medieval London: from Commune to Capital (1963), sy'n cael ei gyfrif yn un o'r llyfrau gorau a gyhoeddwyd am Lundain erioed.

Fe'i dilynwyd gan Artisans and Sansculottes (1968), Proletarian Order: Antonio Gramsci, Factory Councils and the Origins of Communism in Italy 1911-1921 (1975), a Goya and the Impossible Revolution (1976).

Gyda'r llyfrau hyn ennillodd fri tu allan i Gymru fel hanesydd treiddgar ac awdurdodol.

Ymddiddori yng Nghymru

Trodd wedyn at hanes ei wlad ei hun. Ffrwyth cyntaf ei ymchwil oedd The Merthyr Rising (1978), astudiaeth o gefndir a prif gymeriadau yn yr hyn a ddigwyddodd yn yr hen dref ym 1831.

Yn Madoc: the Making of a Myth (1979) archwiliodd y chwedl am ddargynfyddiad honedig America gan y tywysog Cymreig, er bod y llyfr yn llawer mewy na hynny yn ei ddadansoddiad o Gymru a Lloegr yr oes.

Mae The Search for Beulah Land (1980) yn delio â cheisiadau diweddarach i sefydlu gwladfeydd Cymreig yng ngogledd America megis un gan Morgan John Rhys.

Hanes tipyn mwy uniongred sydd yn The Welsh in their History (1982).

Darlledwr o fri

Yn ystod yr wyth degau, ar ôl i Gwyn A. Williams adael ei swydd yng Nghaerdydd - roedd yn hoff iawn o gyfeirio ato ei hun fel 'redundant historian' - daeth yn darlledwr poblogaidd iawn.

Seiliwyd y gyfres o raglenni teledu The Dragon Has Two Tongues, rhyw fath o ymgom rhyngddo ef a Wynford Vaughan-Thomas, hanesydd llawer mwy ceidwadol a phwyllog, ar ei gyfrol When Was Wales? (1985).

Ymhlith ei rhaglenni cofiadwy eraill mae Excalibur: the Search for Arthur, The Delegate for Africa, sef David Ivon Jones (1883-1924), a rhai am Saunders Lewis a Iolo Morganwg, lle datblygodd ei ddull unigryw o annerch y gwyliwr a'r gwrthych mewn ffordd agos-atoch, emosiynol a dadlennol.

Bu farw Gwyn A.Williams ym 1995. Ar ôl ei farwolaeth ymddangosodd Fishers of Men: Stories towards an Autobiography (1996), sef atgofion am ei febyd ym Merthyr a'r amser a dreuliodd yn y Fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Meic Stephens

Cyfrannwch

Richard Morse o Gwmbran
Ces i'r pleser o wylio rhaglenni Gwyn Alf yn ystod yr 80au. Roedd ganddo ddawn o wneud hanes yn fyw. Mae'n biti nad oes detholiad ohonynt ar gael ar DVD.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy