BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
28ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwaraeon
Ryan Giggs
Ryan Giggs

Ganwyd: 9 Tachwedd 1973

Magwyd: Caerdydd


Un o bêl droedwyr mwyaf llwyddiannus Cymru

Un o'r chwaraewyr mwyaf enwog yn y gêm, mae'r asgellwr yma o Manchester United a Chymru wedi ennill bron bob cwpan neu fedal sydd ar gael i'w glwb, adref a thramor.

Wedi ei eni yng Nghaerdydd, symudodd Giggs a'i deulu i Fanceinion pan oedd o'n saith, ond gyda rhieni o Gymru ac yn ffyrnig o ffyddlon i'w wlad enedigol, doedd chwarae dros Loegr ddim yn ddewis iddo.

Pêl-droed oedd yn mynd â bryd Giggs ac yn 9 oed fe'i gwelwyd gan un o sgowtiaid Manchester City ac ar ôl hynny bu'n chwarae'n gyson mewn cystadlaethau lleol. Fe ymddangosai ar y cychwyn cyntaf mai i City y byddai Giggs yn chwarae ond yn 14 oed fe arwyddodd i dîm ieuenctid United.

Ar ôl blynyddoedd o hyfforddi fe wnaeth ei ddebut cyntaf yn 1991 ac mae'n aelod gwerthfawr iawn o dîm llwyddiannus Alex Ferguson.

Dydy o ddim wedi bod mor llwyddiannus yn rhyngwladol ond er hynny mae Giggs yn aelod allweddol o'r tîm. Dan arweiniad ei arwr a'i gyn gyd chwaraewr Mark Hughes, fe fydd Giggs yn allweddol yn nhîm Cymru yn y blynyddoedd nesaf.

Ei funud fawr: ennill y trebl gyda Manchester United yn 1999.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy