BBC HomeExplore the BBC

IAU
31ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwaraeon
Neil Jenkins
Neil Jenkins

Ganwyd: 8 Gorffennaf 1972

Magwyd: Gartholwg


Un o sêr mawr y byd rygbi

Wyddech chi? : Does na'r un o gêmau Jenkins yn gyflawn heb gyfraniad ei frawd-yng-nghyfraith yn gwisgo gwallt gosod coch a chlustiau plastig, yn cicio dafad blastig dros y postyn.

Un o gewri mawr y byd rygbi, mae Neil Jenkins wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol ond dydy o ddim yn rhoi'r gorau i'r gêm yn llwyr.

Adnabyddir ef gan sawl enw megis 'Ginger Monster', 'Maestro' neu 'Magician' gan ennill y mwyaf o gapiau Cymru ac ef sy'n dal y record am y cyfanswm mwyaf o bwyntiau rhyngwladol gyda 1,049 o bwyntiau dros Gymru a 41 arall mewn pedwar prawf i'r Llewod.

Mae Jenkins wedi bod yn ffigwr parhaol yn nhîm Cymru ers ei ymddangosiad cyntaf yn 1991 er iddo gael ei feirniadu ar un adeg a'i ollwng am iddo fethu llenwi'r crys gystal â rhai eraill yn y crys 10.

Ond mae ei nerth a'i benderfyniad wedi tyfu'n symbolau o dîmau Cymru yn ystod y ddegawd ddiwethaf ac mae'r tîm heb Jenkins bron fel dychmygu Pobol y Cwm heb Kath Jones.

Fe chwaraeodd Jenkins ran flaenllaw yn llwyddiant Pontypridd yng nghanol 1990 gan helpu'r tîm o'r cymoedd i ennill teitl y gynghrair a chwpan y Principality.

Wrth chwilio am fwy o sialens fe symudodd i Gaerdydd, er yn ystod ei gyfnod yn y brif ddinas fel gafodd lawer o anafiadau.

Am ei fod yn methu ennill ei le yn y tîm, symudodd Jenkins yn ôl i Ffordd Sardis er mwyn cryfhau achos Pontypridd mewn cystadlaethau adref ac yn Ewrop.

Ym mis Mai 2003 fe gyhoeddodd ei ymddeoliad o'r gêm ryngwladol, ond dywed ei fod yn awyddus i adael y gêm mewn steil gyda blwyddyn dda o rygbi rhanbarthol cyn rhoi'r gorau iddi'n llwyr.

Ei funud fawr : Wrth chwarae dros y Llewod yn Ne Affrig yn 1997, fe newidiodd Jenkins ei safle i'r cefn a chicio'r Llewod i fuddugoliaeth 2-1 yn y gyfres gofiadwy.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy