Enw mawr yn y sgwâr bocsio ar hyn o bryd
Gwrandewch ar y dyfarnwr bocsio a'r sylwebydd Wynford Jones, yn siarad am fywyd Joe Calzaghe, ar raglen BBC Radio Cymru, Hywel a Nia (19 Chwefror, 2008):
Joe Calzaghe
Dyma un o enwau mawr bocsio, fe frwydrodd Joe Calzaghe i gyrraedd y brig yn 1997 gyda buddugoliaeth mawr yn erbyn Chris Eubank a chyflawni breuddwyd oes.Er iddo gael ei eni yn Llundain, fe fagwyd Joe yng Nghymru a chadarnhawyd mai Cymro ydy o pan enillodd wobr Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru.
Ganwyd ef yn Mawrth 1972 yn Ysbyty Hammersmith, symudodd teulu Joe i Drecelyn pan oedd o'n ddwy oed a symud yn ôl i wlad enedigol ei fam. Dan anogaeth ei dad o Eidalwr Enzo, dangosodd Joe addewid ar y cae pêl-droed a'r cylch bocsio yn ifanc, ond dewisodd focsio ar draul pêl-droed yn ddiweddarach.
Gan i Joe gael ei eni yn Lloegr a'i fagu yng Nghymru, bod ei fam yn Gymraes a'i dad yn Eidalwr, mae'r cwestiwn wedi'i ofyn sawl gwaith am genedligrwydd Joe ac fe atebodd hyn mewn cyfweliad:
"Dw i'n ystyried fy hun yn Brydeiniwr ond mae gen i berthynas arbennig â phobl Cymru gan eu bod wedi fy nghefnogi'n ffyddlon ar hyd fy ngyrfa. Ond er hyn dw i wastad wedi gwerthfawrogi pêl-droed yr Eidal, dw i'n cefnogi Juventus ac yn cefnogi'r Eidal yng nghwpan y byd."
Dan ddylanwad ei dad, fe wisgodd Joe ei fenyg bocsio am y tro cyntaf yn naw oed, er mi ddaliodd Joe ei afael yn ei freuddwydion pêl-droed tan ei arddegau. Er ei fod yn teimlo bod disgyblion yn pigo arno ar sail ei dalent chwaraeon, daliodd ati a mynd ymlaen i gystadlu ac ennill Pencampwriaethau bocsio Bechgyn Ysgol Prydain.
Ar ôl rhyw 120 o ornestau amatur, fe enillodd Joe bedwar teitl ABA ac yna 3 teitl Prydeinig yn olynol o 1991 i 1993. Ef ydy'r ail focsiwr yn unig mewn hanes i sicrhau'r beltiau hyn yn ysgafn, canol ysgafn a chanol trwm.
Gan gadw ei dad fel rheolwr/hyfforddwr, symudodd Joe o focsio amatur i'r adran broffesiynol yn 1993 gan wneud ei ddebut proffesiynol ym Mharc yr Arfau o flaen gornest Lewis-Bruno.
Erbyn Mehefin 1995 roedd Joe wedi ennill naw gornest allan o naw a chydnabyddwyd y fath record gyda gwobr Bocsiwr Ifanc y Flwyddyn gan y Gymdeithas Focsio Broffesiynol. Fe aeth Joe at dîm rheoli Frank Warren yn 1996 a chael ei groesawu gan Warren gyda'r geiriau bocsiwr y mileniwm newydd ac fe ddaeth ei funud fawr yn yr ornest yn erbyn Chris Eubank ar 11 Hydref, 1997 am Goron y Byd.
I Eubank dyma oedd y cyfle olaf ond i Joe ar y llaw arall roedd ei fuddugoliaeth bendant yn arwydd efallai o lwyddiannau i ddod.
Ond fe fu pethau'n anodd i Joe wedyn, er iddo ennill ei ornestau, oherwydd anafiadau i'w ddwylo. Ond fe adenillodd ei safon mewn buddugoliaeth 5 rownd yn erbyn Moar Sheika yn Awst 2000 ac ers hynny y mae wedi amddiffyn ei deitl yn erbyn Will McIntyre, Mario Velt, Richie Woodhall a Tocker Pudwill.
Yn dilyn ail rownd ffrwydrol yn erbyn Byron Mitchel yn Mehefin 2003 aeth Calzaghe yn nes at ornest fawr ei freuddwydion yn erbyn Bernard Hopkins.
Yn Ebrill 2007 daeth Joe Calzaghe yn gyfartal gyda Record Bernard Hopkins a Larry Holmes o 20 Amddiffyniad o Goron Pwysau Uwch Ganol y Byd.
Ac ym mis Tachwedd 2007, coronwyd Calzaghe yn bencampwr WBA, WBC a WBO uwch ganol y byd wedi iddo drechu Mikkel Kessler yn Stadiwm y Mileniwm.
Wythnosau yn unig wedi'r ornest fe gafodd Calzaghe ei enwi fel Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol a'r trydydd tro yn ei yrfa.
Diwrnodau yn ddiweddarach fe gafodd y bocsiwr ei gydnabyddiaeth haeddiannol pan dderbyniodd wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ar ôl deng mlynedd ar y brig.
Ac yn ei ornest gyntaf yn yr UDA ar 19 Ebrill 2008 fe hawliodd y Cymro ei le ymhlith anfarwolion y byd bocsio drwy guro Bernard Hopkins wedi ornest ddramatig a dadleuol yn Las Vegas.
Ac ym mis Tachwedd 2008 fe barhaodd gyda'i record ddilychwin ar ôl iddo chwalu un o enwau mwyaf y gamp - Roy Jones Jr mewn gornest waedlyd yn Madison Square Garden.
Gwefan Chwaraeon BBC Cymru