BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
14eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwaraeon
Guto Nyth Bran
Guto Nyth Bran

Ganwyd: 1700. Bu farw yn 1737

Magwyd: Llwyncelyn


Rhedwr o fri yn ras Nos Galan

Yn enwog am ei allu athletaidd, cofir llwyddiannau Guto bob blwyddyn yn ras Nos Galan, Aberpennar.

Mae Mike Rowlands yn rhannu mwy o'r hanes...
Roedd Guto, yn anedig Griffith Morgan, yn ffigwr arbennig iawn ym myd rhedeg. Fe'i anwyd yn Llwyncelyn yn y Rhondda yn 1700 ac ychydig wedi hyn fe symudodd ei rieni ac ef i Ffarm Nyth Bran ger Porth - dyma esbonio tarddiad ei lysenw.

Bu Guto yn helpu ei dad ar y ffarm o oedran ifanc, yn rhedeg ac yn cerdded am filltiroedd bob dydd, fel yr oedd llawer o bobl yn gwneud yn y 18fed ganrif. Daeth hi'n amlwg fod Guto yn redwr arbennig pan ddaliodd Sgwarnog tra'n casglu'r defaid at ei gilydd. Cyn hir roedd straeon yn lledu ei fod e wedi dal aderyn, ac hynny tra fod hwnnw yn hedfan!

Yn y diwedd fe gymerodd perchennog siop leol o'r enw Sian ef o dan ei hadain wedi iddi glywed ei fod wedi rhedeg o'i gartref i siopa ym Mhontypridd ac yn ôl (ychydig dros 7 milltir), cyn i'w fam fedru berwi'r tegell brecwast. Wedi hynny daeth Sian yn rheolwraig, ac yn hwyrach yn gariad iddo.

Y ras fawr gyntaf drefnodd Sian-y-Siop oedd yn erbyn capten Saesneg yng Nghaerfyrddin, oedd erioed wedi cael ei guro.

Y ras gyntaf
Rasiodd y ddau dros bedair milltir ar dir cyffredin Hirwaun. Rhyfeddodd pawb wrth weld mor rhwydd oedd buddugoliaeth Guto. Llongyfarchodd y capten ef ac fe gasglodd Sian £400 o wobr. Yn anffodus, fe ddaeth Guto i fod mor flaenllaw fel nad oedd neb yn fodlon cystadlu yn ei erbyn. Penderfynodd Guto ymddeol o'i yrfa athletaidd a throi unwaith yn rhagor at fywyd mwy syml.

Aeth blynyddoedd heibio a daeth dyn o'r enw Prince i'r amlwg fel raswr arall nad oedd wedi ei guro. Medrodd Sian berswadio Guto, oedd bellach yn 37, i ddechrau ymarfer ar gyfer ras fawr yn erbyn Prince. Roedd gwobr o ryw 1000 gini ac roedd y llwybr yn rhedeg o Eglwys St Woolo yng Nghasnewydd i Eglwys St Barrwg ym Medwas - 12 milltir o bellter.

Y ras fawr
Roedd y ras yn un gwefreiddiol. Cymerodd Prince y blaen yn gynnar iawn, ond reit ar y diwedd fe sbrintiodd Guto lan rhiw serth gan orffen y ras mewn 53 munud. Yn ei brwdfrydedd i'w longyfarch ar ei berfformiad anghygoel fe roddodd Sian slap mawr ar gefn Guto, ac fe syrthiodd yn gelain yn ei breichiau.

Cariwyd ei gorff gan ei gefnogwyr galarus, i'w fan gorffwys yn Eglwys Llanwonno. Mae carreg fedd newydd yno yn coffau ras olaf Griffith Morgan. Oddi tano gwelir y garreg fedd wreiddiol, â chalon wedi ei cherfio i mewn iddi yn symbol o gariad Guto a Sian.

Y ras yn parhau Mae cerflun o Guto i'w weld yn Aberpennar, lle y cynhelir ras bob Nos Galan er cof amdano. Mewn blynyddoedd diweddar mae'r digwyddiad wedi denu sawl rhedwr enwog megis Iwan Thomas, Jamie Baulch, Christian Malcolm a Darren Campbell yn ogystal â enwogion chwaraeon Cymraeg eraill fel Neil Jenkins a Robbie Regan.

Cliciwch yma i weld lluniau o Ras Nos Galan Aberpennar 2005


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy