Arwr rygbi Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad yn 2005.
Bywgraffiad:
Daeth y chwaraewr hyn yn enwog dros nos wedi iddo gymryd y gic gosb a sicrhaodd y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr - gan rhoi'r tîm cam yn agosach at ennill y Fuddugoliaeth Lawn yn nhwrnament y chwe gwlad yn 2005.
Ei gamau cyntaf ar y cae
Yn fab i gyn-brop Maesteg, Alan Henson, fe ddisgleiriodd Gavin yn ystod ei yrfa fel chwarewr ifanc cyn chwarae am y tro cyntaf i Abertawe yn y flwyddyn 2000. Y flwyddyn ganlynol fe enillodd ei gap cyntaf tra'n chwarae yn Japan, ac fe'i enwyd yn Chwarewr Ifanc y Flwyddyn y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol a Chymru.
Effeithiwyd datblygiad Henson yn y maes gyda dychweliad Iestyn Harris o'r Gynghrair Rygbi, er efallai fod amlbwrpasedd Henson hefyd wedi ei ddal yn ôl. Serch hyn, fe wnaeth ei berfformiad i'r Gweilch yn eu mynediad gwych i rygbi rhanbarthol ddod ag ef yn ôl i sylw'r cyhoedd.
Gwneud ei farc
Gwnaeth ei farc fel canolwr mewnol yn ystod gemau rhyngwladol Hydref 2004 a gynhaliwyd yn 2004. Gwnaeth hyn trwy dorri record newydd i Gymru gan sgorio 14 trosiad yn eu gêm yn erbyn Siapan.
Ers i'w berfformiad yng ngemau 2005 ei osod ar ganol llwyfan y byd rygbi, dydy e ddim wedi ei chael hi'n arbennig o rhwydd. Wedi tipyn o siom a rhwystredigaeth yn ystod daith y Llewod i Seland Newydd, fe berodd anaf iddo golli rhan helaeth o bencampwriaeth chwe gwlad 2006.
Beth nesaf?
Bydd Henson yn gobeithio dychwelyd i'w safon blaenorol gan sicrhau fod ei enwogrwydd yn parhau i fod yn ganlyniad o'i allu ar y cae, yn hytrach na'i berthynas â'r gantores enwog Charlotte Church.
Mae ef a Charlotte Church yn rhannu tŷ yng Nghaerdydd ac yn parhau i fod yn llygad y cyhoedd ac mae lluniau o'r pâr yn ymddangos mewn cylchgronau ac yn y wasg dabloid yn gyson.