Yn wahanol i focswyr enwog eraill o Gymru yn yr 20fed Ganrif, roedd Frederick Hall Thomas yn dod o gefndir cyfoethog.
Dechreuodd ddefnyddio yr enw 'Welsh' er mwyn cuddio o'i deulu y ffaith ei fod e'n focsiwr proffesiynol!
Yn fab i arwerthwr o Bontypridd, roedd Freddie yn blentyn sâl iawn ac felly fe'i anfonwyd i California er mwyn ceisio gwella ei iechyd. Dechreuodd focsio fel ffordd i gryfhau ei gorff ond yn fuan darganfu fod ganddo cryn dalent yn y maes. Dechreuodd wneud enw iddo'i hun yn Efrog Newydd.
Cafodd Welsh drafferth wrth ymgeisio i gael y Teitl Byd - nid oedd yn cael y gornestau cywir oherwydd roedd ei arddull o ymladd - osgoi a blino ei wrthwynebwr - yn amhoblogaidd.
Fe ddaeth ei gyfle yn Llundain, pythefnos cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, pan drechodd Willie Ritchie, Pencampwr Pwysau Ysgafn y Byd.
Dychwelodd Welsh i'r Unol Daleithau lle gafodd sawl gornest am arian mawr, ond roedd dadlau am ei fod yn manteisio ar y 'rheol dim dyfarniad' i'w helpu i gadw ei deitl.
Wedi gwneud ei ffortiwn ac ymddeol, fe gollodd Welsh y cyfan oedd ganddo ac fe'i ddarganfuwyd yn farw yn ei fflat yn Efrog Newydd yn 1927.