BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
2il Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Celfyddydau
Laura Ashley
Laura Ashley

Ganwyd: 1925

Magwyd: Dowlais, Merthyr Tudful

Addysg: Llundain


Cynllunydd ffasiwn a defnyddiau enwog ar draws y byd

Wyddech chi? : Enw'r cwmni yn wreiddiol oedd 'Ashley Mountney' cyn i Bernard sylweddoli y byddai defnyddio enw llawn ei wraig yn masnachu'r cwmni yn well.

Cynllunydd dillad a defnyddiau tŷ dylanwadol iawn yn ei chyfnod a lansiodd rwydwaith o siopau Laura Ashley.

Ganwyd Laura Mountney yn Nowlais, Merthyr Tudful a'i magwyd mewn teulu o weision sifil o Fedyddwyr cryf. Cafodd ei haddysg yn Llundain ond daeth yn ôl i Gymru cyn yr Ail Ryfel Byd yn 1938 am flwyddyn cyn dychwelyd i'r ddinas. Cyfarfu â Bernard Ashley mewn clwb ieuenctid yn Wallinton ac fe briododd y ddau yn 1949.

Dechreuodd Laura gynllunio ar fwrdd eu cegin ym Mhimlico gan gynhyrchu ddefnyddiau wedyn ar sgrin sidan Bernard. Gwerthwyd y sgarffiau yn ddiweddarach i siopau mawr Llundain megis John Lewis. Rhoddodd Bernard y gorau i'w waith yn y ddinas yn fuan iawn er mwyn canolbwyntio ar y busnes.

Roedd Laura o'r cychwyn cyntaf yn defnyddio cynlluniau gweledig, rhamantaidd a blodeuog ar gyfer ei defnyddiau a gellid eu prynu drwy'r post hefyd. Ail leolwyd y busnes i Gaint yn 1955 ond bu bron iddynt golli popeth pan orlifodd yr afon Darent dair blynedd yn ddiweddarach a llifo drwy eu hadeiladau.

Roedd Laura yn awyddus iawn i ddychwelyd i Gymru sef ysbrydoliaeth ei gwaith cynllunio. Yn sgil y llwyddiant, agorwyd ffatrïoedd ar draws gogledd a chanolbarth Cymru i gyflenwi'r holl angen.

Agorodd y siop Laura Ashley gyntaf yn Stryd Pelham, De Kensington yn 1968 a sefydlwyd pencadlys y busnes yng Ngharno ger y Drenewydd.

Yn ôl rhai, ymateb benywaidd i ffasiwn 'secsist' y chwedegau ydy ei gwaith hi ond fe brofodd lwyddiant mawr ar draws y byd. Erbyn 1981 roedd yna 5,000 o siopau yn gwerthu'r cynnyrch ac yn y flwyddyn honno fe agorodd ei siop gyntaf yng Nghaerdydd a gwireddu dymuniad.

Ond bu farw yn ddiweddarach yn 1985 deng niwrnod yn unig ar ôl cwympo lawr y grisiau yng nghartref ei merch ar ei phen blwydd yn 60 oed.

Dan arweiniad Bernard, fe roddwyd y cwmni ar y farchnad stoc prin ddeufis yn ddiweddarach ac amcangyfrifwyd gwerth y cwmni yn £200 miliwn.

Ond, roedd ffasiwn a chwaeth yn newid a gwneuthurwyr ym Mhrydain yn ddrud a chwmnïau cynhyrchu ar fin symud i'r Dwyrain pell.

Yn dilyn problemau ariannol, fe geisiwyd newid hynt y cwmni yn y 1990au ond heb fawr o lwyddiant.

Fe achubwyd y cwmni i bob pwrpas yn 1998 gan Malayan United Industries a brynodd 40% o werth y cwmni. Ar waethaf yr holl drafferthion diweddar, mae enw Laura Ashley yn enwog ar draws y byd a'r cynllunydd o Ferthyr wedi gwneud enw go fawr ar sail cynllunio ar fwrdd cegin.

Ei munud mawr : Agor y siop gyntaf yn Ne Kensington yn 1968.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy