BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
26ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Celfyddydau
J. K. Rowling
J. K. Rowling

Ganwyd: 31 Gorffennaf 1965

Magwyd: Swydd Gaerloyw

Addysg: Ysgol Wyedean


Awdur y gyfres o lyfrau poblogaidd Harry Potter

"Roeddan ni'n methu gwneud yr un fath â phlant y dref, felly roeddan ni allan yn gwneud pethau gwirion yn y caeau."

Wyddech chi? : Sylfaenwyd yr Athro Snape dieflig yn rhannol ar gyn athro gwyddoniaeth J K Rowling yn Ysgol Wyedean. Fe sylweddodolodd ei wraig hyn yn fuan ond fentrai hi ddim dweud wrtho!

Magwyd crwr y dewin ysgol Harry Potter ger Casgwent ac roedd hi wastad eisiau bod yn awdur.

Ond gorfu i Joanne Kathleen Rowling ymdrechu am flynyddoedd cyn profi llwyddiant a chyfoeth mawr fel awdur.

Fe'i ganwyd yn Chipping Sodbury ond pan oedd hi'n naw oed symudodd y teulu i Tutshill ger Casgwent.

Ar ôl gadael Ysgol Wyedean, astudiodd Rowling Ffrangeg a Chlasuron ym Mhrifysgol Exeter cyn cymryd swydd efo Amnest Rhyngwladol yn Llundain yn ymchwilio i achosion hawliau dynol.

Fe ddaeth y syniad am hogyn ysgol o ddewin i Rowling ar daith trên o Fanceinion i Lundain ac erbyn iddi hi gyrraedd Kings Cross roedd hi wedi dyfeisio'r cymeriadau a sylfaen y gyfres saith llyfr.

Gweithiodd Rowling ar y llinellau stori mewn tafarndai a chaffis gan ddal ati i ysgrifennu ar ôl symud i Bortiwgal i ddysgu Saesneg.

Yn dilyn priodas fer efo newyddiadurwr lleol, gadawodd Rowling Portiwgal yn fam sengl i ferch ifanc a symud i Gaeredin er mwyn cael bod yn nes at ei chwaer.

Yn dilyn ei hysgariad a hithau'n ddi-waith, treuliai ei hamser yn ysgrifennu yn y café lleol a'i merch fach yn cysgu wrth ei hochr.

Cafodd ysgoloriaeth gan Gyngor Celfyddydau yr Alban i'w galluogi i orffen ei llyfr cyntaf sef Harry Potter and the Philosopher's Stone

Bellach mae J. K. Rowling wedi cyhoeddi sawl llyfr yn y gyfres boblogaidd, a rhyddhawyd y trydydd o ffilmiau Harry Potter yn y sinema ym Mehefin 2004.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy