BBC HomeExplore the BBC

SUL
15fed Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bywyd Cyhoeddus
Gwynfor Evans
Gwynfor Evans

Ganwyd: 1 Medi 1912

Magwyd: Y Bari


Troi Plaid Cymru yn rym gwleidyddol

"Mae Prydeindod yn gyfystyr â Seisnigrwydd sy'n ymestyn y diwylliant Seisnig dros yr Albanwyr, y Cymry a'r Gwyddelod."

Wyddech chi? : Er iddo hyfforddi'n gyfreithiwr, garddwr masnachol oedd Gwynfor Evans tan ei ymddeoliad.

Ychydig iawn o bobl sydd wedi gwneud mwy na Gwynfor Evans i hyrwyddo achos cenedlaetholdeb, yr iaith a'r diwylliant gan sicrhau eu goroesiad i'r 21ain ganrif.

Yn fab i siopwr mawr yn y Bari fe fagwyd Gwynfor Evans yn yr hen Sir Gaerfyrddin. Er hynny, roedd yn 18 oed cyn iddo ddechrau dysgu Cymraeg.

Dechreuodd ei weithgarwch gwleidyddol yn y coleg pan sefydlodd gangen o Blaid Cymru. Yn heddychwr a Christion o argyhoeddiad dwfn, gwrthododd ymuno â'r lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn 1945 etholwyd Dr Evans yn Llywydd Plaid Cymru a bu'n flaenllaw iawn yn ymgyrchoedd ei Blaid i geisio ennill llywodraeth i Gymru ac i rwystro cynlluniau Cyngor Lerpwl rhag boddi Capel Celyn a chreu cronfa ddŵr yno.

Er na lwyddodd i rwystro cynlluniau Bessie Bradock a'i chriw, roedd ei amlygrwydd yn gymorth iddo gael ei ddewis yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru pan enillodd sedd Caerfyrddin mewn is-etholiad yn 1966 er mawr syndod i lawer.

Roedd y canlyniad yn sioc enfawr i'r byd gwleidyddol a'r Llywodraeth Lafur yn arbennig a sylweddolodd fod twf cenedlaetholdeb yn fygythiad i'w grym nhw yng Nghymru.

Fe gollodd Gwynfor Evans ei sedd yn 1970 ond llwyddodd i adennill y sedd yn 1974 cyn colli eto yn 1979. Ond fe brofodd yn fuan iawn fod ganddo rym y tu allan i'r senedd.

Yn 1980, fe gododd ofn a dychryn ymhlith llawer pan addawodd y byddai'n ymprydio hyd at farwolaeth os na fyddai'r Llywodraeth Geidwadol newydd yn newid ei meddwl a sefydlu sianel Gymraeg newydd. Ond ar yr unfed awr ar ddeg, fe newidiodd Margaret Thatcher ei meddwl a rhoi caniatâd i sefydlu'r Sianel.

Rhoddodd Dr Evans y gorau i Lywyddiaeth Plaid Cymru yn 1981 a mynd ati i sgwennu, gan gynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg o'i hunangofiant.

Ar ei ben blwydd yn 90 oed yn 2002, derbyniodd deyrngedau lu gan gynnwys Llywydd Plaid Cymru ar y pryd, Ieuan Wyn Jones.

Roedd ysbrydoliaeth ac arweiniad Gwynfor ar hyd y blynyddoedd yn ei wneud yn un o'r Cymry mwyaf mewn unrhyw gyfnod o hanes Cymru.

Bu farw Gwynfor Evans yn 92 mlwydd oed ar Ebrill 21, 2005 yn ei gartref Talar-wen ym Mhencarreg.

Ei funud fawr: Ennill is-etholiad Caerfyrddin yn 1966 er roedd ei fygythiad i ymprydio hyd angau yn unigryw gan iddo orfodi Margaret Thatcher o bawb i newid ei meddwl!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy