BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bywyd Cyhoeddus
Aneurin Bevan
Aneurin Bevan

Ganwyd: 1897

Magwyd: Tredegar


Sylfaenydd y wladwriaeth les gyfoes

Wyddech chi? : Defnyddiodd 'The Manic Street Preachers' eiriau o'i eiddo fel teitl i'w halbwm sef 'This Is My Truth, Tell me Yours'.

Yn fab i löwr o Dredegar, Nye Bevan oedd y gwleidydd Llafur arloesol a greodd yr NHS.

Trwy ei benderfyniad a'i ymdrech, fe ddeuai Bevan yn un o weinidogion llywodraeth mwyaf pwysig ei gyfnod, ac fe'i cydnabyddir bellach yn un o eiconau y Mudiad Llafur.

Roedd Bevan yn un o ddeg o blant ac yn 13 oed gadwodd yr ysgol ac aeth i weithio dan ddaear. Fe gafodd y rhan fwyaf o'i addysg yn ddiweddarach yn Institiwt lleol y Gweithwyr a llwyddodd i ennill ysgoloriaeth oddi yno i goleg yn Llundain. Amlygwyd ei ddawn i arwain dynion yn fuan iawn pan etholwyd ef yn Gadeirydd y Gyfrinfa leol o Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn 19 oed.

Yn sgîl hyn fe gollodd ei swydd am greu helynt y cyntaf o rwystrau y byddai'n rhaid iddo eu hwynebu ar hyd ei yrfa wleidyddol ond gyda chefnogaeth y Ffederasiwn gorfu i'w gyflogwyr ei ailgyflogi.

Yn Llundain, astudiodd Bevan wleidyddiaeth, econmeg a hanes am ddwy flynedd yn dysgu am Marks ac Engels cyn dychwelyd i Dredegar yn 1921. Bu'n ddi-waith am bron i dair blynedd ar wahân i un cyfnod byr yn ngwaith glo Bedwellte.

Daeth i amlygrwydd pellach yn 1926 pan apwyntiwyd ef yn swyddog undeb i Gyfrinfa'r Glowyr ac yn ystod y Streic Fawr yr un flwyddyn daeth Bevan yn un o arweinyddion glowyr De Cymru.

Credir gan rai iddo gael y syniad am yr NHS yn nes adref yn Nhredegar a hynny ar sail mudiad or enw 'The Workmen's Medical Aid Society' yn 1890au. Roedd niwmonia, y diciau ac afiechydon eraill yn rhemp yn y 19eg ganrif ac roedd aelodau'r gymdeithas yn talu 3 ceiniog yn y bunt yn dâl am wasanaethau meddygol.

Etholwyd Bevan yn un o gynghorwyr Mynwy yn 1928 ac yn aelod seneddol Glyn Ebwy y flwyddyn ganlynol. Yn dilyn buddugoliaeth ysgubol Llafur yn 1945, apwyntiwyd Bevan yn Weinidog Iechyd a chyflwynodd y ddeddf chwyldroadol ar Yswiriant Cenedlaethol yn 1946 ar Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Ar y cychwyn cyntaf, gwrthwynebwyd y cynllun chwyldroadol hwn oedd yn cynnig gwasanaeth yn rhad ac ddim. Pan holodd Cymdeithas Meddygol Prydain eu meddygon yn 1948, roedd 88% ohonynt yn gwrthwynebu'r cynllun gan eu bod ofn colli eu hannibyniaeth. Ond llwyddodd Bevan i'w hennill ac erbyn Gorffennaf 1948 roedd 90% ohonynt wedi ymuno ac fe gymerodd yr NHS drosodd ar draws Prydain. Darparwyd meddygon teulu hefyd.

Ymddiswyddodd Bevan yn 1951 pan godwyd tâl am ddannedd gosod a sbectol ond esgus oedd hyn a gwir sail ei benderfyniad oedd gwrthwynebiad i bolisïau tramor ac amddiffyn y llywodraeth.

Er hynny, fe barhaodd yn ffigwr amlwg ar lwyfan gwleidyddol Llafur a gweithredodd yn ddiweddarach fel Ysgrifennydd Tramor yn yr Wrthblaid ac yn ddirprwy arweinydd Llafur cyn marw o gancer yn 1960.

Codwyd cerflun er cof amdano yng nghanol dinas Caerdydd. Cadarnhawyd ei le mewn hanes ymhellach ar Fawrth 1af 2004, pan cafodd ei enwi fel Arwr mwya' Cymru erioed, mewn pleidlais ar-lein.

Ei funud fawr: Sylfaenu'r NHS, rhan ganolog o'r Wladwriaeth Lês gyfoes.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy