BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
6ed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Adloniant
Matthew Rhys
Matthew Rhys

Ganwyd: Tachwedd 1974

Magwyd: Caerdydd

Addysg: Ysgol Gynradd Melin Gruffydd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.


Actor enwog o Gymru sy'n prysur wneud enw iddo'i hun yn Hollywood.

Cafodd ei fagu yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Melin Gruffydd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Fe ymunodd â Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru pan oedd yn 16 oed a dwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1993, fe symudodd i Lundain i ddilyn cwrs actio yn RADA.

Roedd yn llwyddiannus hyd yn oed cyn iddo raddio gan gymryd egwyl o'r coleg er mwyn actio yn y ffilm House of America a'r gyfres deledu Backup.

Fe ddychwelodd i Gaerdydd yn 1998 er mwyn actio yn y ffilm Bydd yn Wrol. Fe enillodd y ffilm y teitl 'Ffilm Orau' yn BAFTA Cymru ac enillodd Matthew y teitl o 'Actor Gorau'. Fe deithiodd i Seland Newydd i actio yn Green Stone ac i Rufain yn 1998 i chwarae rhan Demetrius yn y fersiwn ffilm o'r ddrama Titus Andronicus gan Shakespeare. Yn bell oddi cartref, ei gyd-actor oedd Cymro arall, Sir Anthony Hopkins.

Erbyn hyn, mae e'n hynod o brofiadol ac mae ganddo restr hir o ffilmiau i'w enw; Fakers (2004), Deathwatch (2002), The Abduction Club (2001), Peaches (2000), Shooters (2000) a Sorted (2000).

Ymysg y pentwr llwyddiannus o ffilmiau hyn, fe gymrodd ran hefyd yn y ffilm animeiddiedig Y Mabinogi sef addasiad o chwedlau mwyaf diwylliannol Cymru. Ef oedd llais y cymeriad Lleu. Fe actiodd hefyd yn y ffilm Dal Yma/Nawr (2004), sef ffilm a gynhyrchwyd ar gyfer S4C sydd yn cynnig gwedd newydd ar draddodiad barddol hynaf Ewrop. Ymhlith yr actorion eraill yn y ffilm hon mae Rhys Ifans, Ioan Gruffudd a Siân Phillips.

Nid yw Matthew Rhys yn ddiarth i'r theatr ychwaith, fe actiodd ochr yn ochr â Kathleen Turner yn The Graduate y cynhyrchiad cyntaf erioed o'r ddrama. Yn sicr yn gyfarwydd â'r West-End, mae o hefyd yn gyfarwydd â llwyfan cwmni RSC (Royal Shakespeare Company) ac mae o wedi chwarae rhannau Brenin Lear a Romeo.

Yn fwy diweddar, i nodi hanner canmlwyddiant ers marwolaeth Dylan Thomas, perfformiodd Matthew Rhys fel Llais Cyntaf yn y ddrama Under Milk Wood yn 2003, gan berfformio yn Abertawe - tref enedigol Dylan Thomas ac yn y New Theatre yng Nghaerdydd - yn y ddinas lle magwyd Matthew. Yn eironig, mae'n ddrama a chafodd ei phoblogeiddio gan Gymro arall, Richard Burton.

Roedd Matthew Rhys yn rhan o agoriad swyddogol Gwersyll newydd yr Urdd yng Nhanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd yn Nhachwedd 2004 gyda Bryn Terfel. I ddarllen mwy am hyn ac i edrych ar y lluniau - cliciwch yma.

Ym mis Mai 2007, roedd Matthew Rhys yn ffilmio The Edge of Love, y ffilm lle mae'n chwarae rhan y bardd Dylan Thomas. Bu ef a'r ddwy actores Keira Knightley a Sienna Miller yn ffilmio ar leoliad yng Nghei Newydd a Thalacharn, yng ngorllewin Cymru a bu sibrydion yn y wasg a'r cyfryngau bod Matthew Rhys a Sienna Miller yn cael perthynas.

  • Cliciwch i weld lluniau'r actorion yng Ngheredigion.

    Rhyddhawyd y ffilm hon yn y sinemau ar draws y Deyrnas Unedig ym Mehefin 2008.

  • Darllenwch adolygiad o'r ffilm
  • Holi Matthew Rhys

    Mae Matthew Rhys yn parhau i wneud enw iddo'i hun yn Los Angeles ac wedi sicrhau rhan yn actio ochr wrth ochr ag actorion mawr Hollywood fel Calista Flockhart a Rachel Griffiths mewn cyfres newydd Brothers and Sisters sydd ar y sgrin fach yn y Deyrnas Unedig.

    Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ym mis Awst 2008, cafodd yr actor ei anrhydeddu gan Orsedd y Beirdd i'r wisg wen. Cliciwch i ddarllen rhagor am y stori hon.

  • Cyfrannwch

    Bara o Llandyfriog
    Mae Matthew heb os nac onibai yn actor gwych ac yn ymroi i rhan Dylan Thomas yn llwyr. Yn ogystal a hyn mae wedi llwyddo i gadw ei draed ar lawr tra'n gweithio ochr yn ochr gyda'r mawrion.

    Beca o Gaerdydd
    Rydw i'n meddwl bod mae Matthew Rhys yn actor ardderchog a person hyfryd hefyd! Rydw i'n edrych ymlaen i weld y ffilmiau newydd 'Love and Other Disasters' a 'The Decameron: Angels and Virgins' blwyddyn nesa a dwi'n gwybod bydd Matthew yn gwych yn y ffilmiau! ((sorry if the Welsh isn't so good- I'm a learner!))


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy