Actor llwyfan, dramodydd a chyfansoddwr chwedlonol
Diddanwr ydw i. Dydy seddau gwag ac adolygiadau da yn golygu dim imi.Wyddech chi? : I Novello mae'r diolch am y llinell anfarwol "Me Tarzan, you Jane" pan wnaeth gamgymeriad mewn ymarfer ar gyfer y sioe gerdd Tarzan!
Cysylltir Novello bellach â'r wobr o'r un enw ond roedd Novello ei hun yn llawer mwy na hynny.
Ganwyd ef yn 1893 yn Llwyn-yr-eos, Cowbridge Road East yng Nghaerdydd i'r casglwr trethi David Ivor Davies a Dame Clara Novello Davies. Fe gafodd ei enw proffesiynol gan fam-fedydd o'r Eidal.
Cafodd Novello wersi cerddoriaeth yn fuan iawn gan ei fam ac enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Gorawl Magdalen yn Rhydychen ac yno cafodd yr enw Welsh Prodigy yn fuan iawn am ei dalent ysgrifennu.
Ar ôl gadael yr ysgol, symudodd y teulu i Lundain. Ei lwyddiant mawr cyntaf oedd y gân 'Keep the Home Fires Burning' yn 1914 a oedd yn boblogaidd ymhlith y milwyr Prydeinig dramor. Arweiniodd hyn at lwyddiant fel diddanwr yn ystod y rhyfel ac enillodd £13,000 ac fe gafodd wahoddiad i sgorio nifer o sioeau cerdd yn Llundain.
Ar y daith long adref ar ôl pum mis yn Efrog Newydd yn 1919, derbyniodd Novello gebl yn ei wahodd i gymryd rhan yn y ffilm Call of the Blood. Yn fuan iawn, ef oedd seren ffilmiau mwyaf Prydain ac fe fu'n llwyddiannus yn ddiweddarach mewn ffilmiau sain hefyd.
Digon aflwyddiannus oedd ei symudiad i Hollywood am fod gan Novello hiraeth am Lundain a'r theatr. Yn ôl y sôn, roedd ganddo bresenoldeb llwyfan trydanol. Ysgrifennodd 24 o ddramâu ac ymddangos mewn 14 gan gynnwys Henry V.
Yn 1944 carcharwyd Novello am wyth wythnos am gamddefnyddio cŵpons petrol, trosedd ddifrifol yn ystod y rhyfel. Fe geisiodd lwgrwobrwyo'r heddwas oedd yn ei arestio a thalodd hynny ddim iddo.
Roedd hefyd yn wrywgydiwr a hynny a'r helynt cynharach a gostiodd deitl brenhinol iddo.
Fe ddaeth o Wormwood Scrubs mor boblogaidd ag erioed, gan ddiddanu'r lluoedd yn Ffrainc a Gwlad Belg a llwyddo unwaith eto efo'r gân 'We'll Gather Lilacs'.
Bu farw Novello ar 6 Mawrth 1951 yn ei fflat yn Aldwych rhai oriau yn unig ar ôl ymddangos ar y llwyfan. Sefydlwyd gwobrau Ivor Novello i anrhydeddu talentau awduron a chyfansoddwyr caneuon.
Gosodwyd arwydd glas i nodi man ei eni yn Nhreganna, Caerdydd.
Ei funud fawr: Yn 1935, dyfeisiodd, ysgrifennodd, cyfansoddodd a pherfformiodd Novello yn 'Glamorous Night' yn y Theatr Royal yn Drury Lane.