BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Adloniant
Huw Euron
Huw Euron

Magwyd: Caerffili

Addysg: Ysgol Gyfun Cwm Rhymni


Actor o Gaerffili sy'n chwarae rhan Darren yn Pobol y Cwm

Darren druan. Mae'n ysu i gael rheswm i roi gwên ar ei wyneb, i gael ei deulu o'i gwmpas a hapusrwydd yn ei fywyd, ond rhywsut 'dyw amgylchiadau diweddar un o gymeriadau mwyaf cyfarwydd Pobol y Cwm, Darren Howarth, ddim wedi rhoi'r cyfle hwnnw iddo.

Yn amlach na pheidio, mae rhychau o boen rhwng ei aeliau. Mae ei wir gariad filoedd o filltiroedd i ffwrdd yng Nghanada, mae ei hanner brawd yn cyd-fyw gyda'i gyn gariad ac mae'i fab bach, Wil, yn cael ei dynnu rhwng y ddau.

Yn ddiweddar fe ailymwelodd ei frawd Dwayne â'r Cwm ac er na fu'r berthynas rhwng y ddau frawd yn fêl i gyd, doedd Darren ddim yn dymuno cael gwared ohono mewn ffordd mor erchyll.

Bu farw Dwayne yn y garej ac mae Darren nawr yn cael ei amau o'i lofruddio ac, o'i ddefrydu'n euog, mae posibilrwydd gwirioneddol y gallai wynebu amser hir iawn mewn carchar.

Un sy'n dymuno ychydig o lwc i Darren yw Huw Euron, sy'n portreadu'r cymeriad yng nghyfres BBC Cymru ers deng mlynedd bellach.

O ddod i'w nabod dros gyfnod mor hir mewn pentref fel Cwmderi, mae'r cymeriad wedi datblygu llawer dros y blynyddoedd, a throeon yr yrfa wedi gadael eu hôl arno.

"Mae wedi newid lot fawr," meddai Huw Euron, o Gaerffili. "Roedd e'n foi mor ddiniwed, yn cael ei arwain mor hawdd ar y cychwyn. Ond mae sawl profiad wedi achosi iddo fe dyfu fyny - priodas, ysgariad, marwolaeth plentyn Lowri, oedd e'n ei gyfrif fel plentyn iddo fe'i hun. Ac wrth gwrs yr holl drafferthion gyda'r merched.

"Er yr helynt ar y funud, y cyhuddiadau yn ei erbyn, mae pethau'n mynd i fod yn fwy gobeithiol i Darren," datgela. "Mae'n bosib y byddwn ni yn gweld Katie yn dychwelyd i'r Cwm a gobeithio y gwelwn ni wen ar wyneb Darren wedyn! 'Darren depressed' 'yn ni'n ei alw ar y funud!"

Mae Huw Euron ei hun wedi dyweddïo â Meinir o Aberystwyth, ac yn edrych ymlaen at drefnu eu priodas. Tybed oes hapusrwydd tebyg o flaen y cymeriad?

"Gobeithio wir" meddai Huw. "Fe fyddwn i wrth fy modd i'w weld e'n hapus."

Pobol y Cwm: Dydd Llun-Dydd Gwener, BBC Cymru ar S4C, 8pm bbc.co.uk/pobolycwm

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy