BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
1af Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Adloniant
Gethin Jones
Gethin Jones

Ganwyd: 12 Chwefror 1978

Magwyd: Caerdydd

Addysg: Ysgol Gynradd Coed-y-Gof ac Ysgol Gyfun Glan Taf


Cyflwynydd Blue Peter ac un o gystadleuwyr Strictly Come Dancing 2007

Gethin Jones, un o gyflwynwyr y rhaglen Blue Peter ar CBBC oedd un o'r dawnswyr yn y gyfres Strictly Come Dancing ar BBC1 yn 2007.

Ganwyd Gethin Jones yng Nghaerdydd ar 12 Chwefror, 1978 a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Coed-y-Gof ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

Dechreuodd gyflwyno Blue Peter ar 26 Ebrill 2005, ond cyn hynny roedd yn wyneb cyfarwydd iawn ar S4C yn cyflwyno Uned 5, a rhaglen gerddoriaeth i blant, Popty ymhlith pethau eraill. Ymddangosodd fel Cyberman yn Doctor Who yn 2006.

Y mae'n cadw blog ar wefan Blue Peter ac mae'n amlwg yn falch iawn o'i Gymreictod. Ar ddydd Gŵyl Dewi 2007 paratodd fideo yn y Gymraeg yn dysgu brawddegau i ddefnyddwyr y wefan!

Graddiodd mewn Daearyddiaeth ac Economeg o Brifysgol Manceinion. Un o'i brif ddiddordebau yw rygbi ac roedd yn gapten ar dîm rygbi yn y Brifysgol. Yn ôl un cyfweliad papur newydd, mae'n meddwl weithiau tybed a fyddai wedi medru bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol, cymaint y mae'n mwynhau'r gêm

Mae ganddo ddiddordeb mewn chwaraeon eraill megis pêl-droed a chriced ac yn gerddor o fri. Mae wedi pasio arholiad Gradd 8 yn chwarae'r fiolín a Gradd 6 yn canu'r piano.

Daeth i amlygrwydd yn y wasg yn 2003 pan enillodd y teitl 'Bachelor of the Year' y cylchgrawn Company.

Camilla Dallerup oedd ei bartner dawnsio yn Strictly Come Dancing 2007 a chyrhaeddodd y rownd gyn derfynol, cyn gadael yn drydydd o'r gystadleuaeth.

  • Gwrandewch ar Dylan Wyn a Meinir Gwilym yn holi Gethin Jones o flaen y gyfres newydd o Strictly Come Dancing ar Radio Cymru.

  • Gwrandewch ar ddyddiadur Gethin Jones ar C2
  • Lluniau: Gethin yn dychwelyd i Ysgol Gyfun Glantaf

  • Y ddawns olaf i Gethin


  • Cyfrannwch

    lydia nightingale o bala
    mae gethin yn wych!!!!! cariad fawr lyds xxx


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy