Derwydd, gwrthryfelwr, noethlymunwr a chorfflosgwr
Cyn bod sôn am yr un hipi'n credu mewn cariad dilyffethair, yn
addoli'r haul ac yn prancio'n noethlymun ymhlith y blodau, roedd
dyn hynod o Lantrisant yn tarfu ar drigolion parchus ei fro trwy fyw
bywyd a allai berthyn i Los Angeles dros ganrif yn ddiweddarach.
Roedd y Doctor William Price yn hipi o flaen ei amser.
Dyma
ddyn a geisiodd newid ein ffordd o fyw, ond dyma hefyd un a
geisiodd newid ein ffordd o farw, neu o leiaf ein ffordd o waredu â
chyrff marw.
Ganwyd William Price yn Rhydri ger Caerffili yn 1800.
Hyfforddwyd ef fel meddyg yng Nghaerffili ac yna yn Llundain cyn
iddo ddychwelyd i dde Cymru i wasanaethu'r cymunedau glofaol.
Roedd ganddo syniadau pendant am batrwm byw.
Roedd yn casáu'r
arfer o smygu, i'r graddau y gwrthodai drin unrhyw un oedd yn
sugno mwg sigarét, sigâr neu getyn.
Byddai'n paratoi ei foddion ei
hun ar gyfer gwahanol anhwylderau ac, er mwyn prysuro a hybu'r
feddyginiaeth, arferai lafarganu ymadroddion derwyddol uwchben y
claf.
Oedd, roedd William Price yn Archdderwydd yn ogystal â bod
yn ddoctor. Pwy a'i hurddodd yn Archdderwydd? Neb llai nag ef ei
hun, ac i William Price cwacs diwerth oedd meddygon eraill ei
gyfnod.
Yn ogystal ag ymddwyn yn anghyffredin, gwisgai'n wahanol
hefyd. Neu'n hytrach, dadwisgai.
Gwisgai het o groen llwynog ar ei
ben bob amser, ond o ddyddiau ei ieuenctid cynnar arferai grwydro'n
noeth ar fynydd Llantrisant.
Cefnogi'r tlodion
Serch hynny, roedd ochr ddifrifol i'r Doctor Price hefyd.
Credai'n
gryf yn achos y dyn cyffredin a choleddai syniadau'r Siartwyr. Yn
dilyn trafferthion Merthyr Tudful yn 1831, lledodd yr adwaith yn
erbyn cyfyngiadau Deddf Diwygio 1832 a'r modd y câi Deddf
Newydd y Tlodion 1834 ei gweithredu trwy weddill de Cymru.
Lledaenwyd yr alwad i godi yn erbyn yr awdurdodau gan Hugh
Williams, cyfreithiwr o Gaerfyrddin, ac ym mis Ebrill 1839 bu
terfysg yn Llanidloes fel ymateb i'r dirwasgiad yn y diwydiant
gwlân.
Bu'n rhaid danfon milwyr yno i dawelu'r ffrwgwd.
Yna
trefnwyd gwrthdystiad enfawr yng Nghasnewydd ar 3 a 4 Tachwedd.
Yn anffodus i'r Siartwyr, sef yr enw a roddwyd ar y protestwyr,
tarfodd storm ar y trefniadau, a bu hynny'n gymorth i'r awdurdodau.
Saethwyd deg o ddynion yn farw o flaen Gwesty'r Westgate yng
nghanol y dref.
O ganlyniad i'r terfysg alltudiwyd tri o arweinwyr y brotest, sef
John Frost, Zephaniah Williams a William Jones.
Mae'n rhaid bod
William Price ymhlith yr arweinwyr yn rhywle gan iddo orfod ffoi i
Baris am gyfnod, ond ni newidiodd hynny ei agwedd tuag at
berchenogion y gweithfeydd glo.
Ei agwedd at ferched
Ac yntau yn ei wythdegau, cyfarfu â merch ifanc, Gwenllian
Llewelyn.
Ni wnaeth y ddau briodi gan y credai Price fod priodas yn
caethiwo menywod, ac er gwaetha'i henaint ganwyd iddynt blentyn
pan oedd Price yn 83 mlwydd oed.
Bedyddiwyd eu mab yn Iesu
Grist, a chredir iddo enwi'r plentyn felly er mwyn cythruddo
Cristnogion parchus yr ardal.
Fel petai hynny ddim yn ddigon, pan fu
farw'r plentyn yn ei fabandod, penderfynodd Price ei gorfflosgi.
Ar
18 Ionawr 1884, ar ôl cyhoeddi ei fwriad i'r byd a'r betws, gosododd
gorff ei fab pum mis oed ar goelcerth o lo ar fryn uwchlaw
Llantrisant.
Daeth torf ynghyd i wylio'r seremoni tra safai Price
gerllaw'r goelcerth yn llafarganu'n dderwyddol.
Ond tarfwyd ar y
seremoni, tynnwyd y corff o'r tân ac arestiwyd Price a'i gyhuddo o
waredu corff yn anghyfreithlon.
Ym Mrawdlys Caerdydd, ymladdodd Price yr achos yn ei erbyn a
phenderfynodd y Barnwr nad oedd y doctor wedi gweithredu'n
anghyfreithlon wedi'r cyfan.
Mae'n debyg na allai'r weithred fod yn
anghyfreithlon o fewn cyfraith Lloegr a Chymru, a hynny gan nad
oedd yn waharddedig.
Gosododd hyn seiliau Deddf Corfflosgiad
1902.
Nid y cyntaf i gorfflosgi
Dadl Price dros gorfflosgi oedd bod claddu cyrff yn halogi'r
ddaear.
Roedd hyn yn rhan o'i gredo fel Archdderwydd, ac roedd
ganddo gynsail i'w gred gan fod corfflosgi'n arferiad a âi'n ôl mor
bell ag Oes y Cerrig.
Yn wir, roedd Cymdeithas Gorfflosgi Lloegr
wedi ei sefydlu yn 1874 a'r amlosgfeydd cyntaf yn Ewrop wedi eu
hadeiladu yn 1878 yn Woking ac yn Gotha yn yr Almaen.
Golyga
hyn nad Price oedd y cyntaf i weithredu corfflosgiad ym Mhrydain,
fel y dywed rhai haneswyr.
Bu William Price fyw nes yr oedd yn 93 mlwydd oed, a ganwyd
ail fab iddo ef a Gwenllian cyn ei farwolaeth.
Wrth gwrs, llosgwyd
corff William Price, yn yr union fan lle llosgwyd corff ei fab
flynyddoedd cyn hynny.
Dywedir i gymaint ag ugain mil o bobl ddod
i wylio'r olygfa ac adroddwyd yr hanes yn y Times y diwrnod
canlynol.
Adroddiad y wasg
Ceir pamffled yn cyhoeddi baled amdano ac yn disgrifio'i
gorfflosgiad o dan y pennawd 'Golygfa Ryfedd':
'Wedi hir oes o 93 mlynedd, bu farw yr enwog Archdderwydd
Doctor William Price, Llantrisant ar Nos Lun, Ionawr 23, 1893.
"Efe
oedd un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddus yng Nghymru, a bu yn
hysbys iawn o'i febyd. Bu yn un o'r Chartists mwyaf selog, a gorfu
iddo ffoi i Ffrainc oherwydd hynny rhag iddo gael ei ddal gan yr
awdurdodau.
"Daeth i gryn enwogrwydd drwy losgi corff ei blentyn
yn y flwyddyn 1884.
"Un o ddymuniadau pwysicaf y Doctor cyn iddo
farw oedd am i'w gorff gael ei losgi yn yr un modd, yn hytrach na
chael ei gladdu yn ôl yr arferiad cyffredin.
"Yn unol â hynny,
paratowyd goelcerth fawr o lo a choed ar gae o'r enw Caerlan, ger
Llantrisant, ac yn gynnar fore dydd Mawrth, Ionawr 31ain, cariwyd
allan y seremoni.
"Darllenwyd y gwasanaeth angladdol gan gurad y
lle, a rhoddwyd y corff, mewn arch haearn, ar ben y goelcerth.
Gosodwyd tân ynddo gan ei was Daniel Richards, a hen gyfaill o'r
enw Anderson, o Gaerfyrddin.
"Mewn byr amser yr oedd y pentwr yn
un fflam, a chadwyd y tân i fyny hyd tri o'r gloch y prynhawn.
"Erbyn
hynny gwelwyd fod y corff wedi ei losgi yn ulw mân. Ymgasglodd
torf fawr i weled yr olygfa, a bu nifer o heddgeidwaid yn bresennol i
gadw heddwch a threfn."
Lyn Ebenezer