Y môr-leidr enwocaf un
Hawdd credu mai dymuniad unrhyw forwr wedi iddo farw fyddai
cael ei gladdu yn nyfnder y môr. Gellid meddwl mai dyna oedd
dymuniad y môr-leidr enwocaf un, Capten Harri Morgan, ond bu'n
rhaid i'w gorff marw ddisgwyl dros dair blynedd cyn i'r freuddwyd
honno gael ei gwireddu.
Roedd Harri Morgan yn fôr-leidr o fri, gyda nifer o'i hynafiaid yn
enwog hefyd - cafodd un ohonynt ei ethol yn Is-lywodraethwr Ynys
Providence a daeth un arall yn Lefftenant-Lywodraethwr Jamaica.
Ganwyd Harri Morgan yn Llanrhymni, Sir Fynwy, tua 1635.
Pan oedd
tua ugain oed hwyliodd i'r Caribî gydag un o fyddinoedd Cromwell o dan
arweiniad yr Is-lyngesydd Penn, tad William Penn, sylfaenydd talaith
Pennsylvania.
Bu'n rhan o frwydrau ffyrnig yn erbyn y Sbaenwyr, a
gwnaeth y fath argraff ar y swyddogion fel y cafodd ei long ei hun.
Yn 1659 cipiodd long o Ffrainc a'i meddiannu gan ymosod yn
llwyddiannus ar Santiago del Hispaniola.
Arbedodd fywyd y
Llywodraethwr, nid oherwydd unrhyw sentiment ond yn hytrach am
lwgrwobr o 60,000 darn arian.
Ymhen tair blynedd, ymosododd yn
llwyddiannus ar Santiago del Cuba ac yna ymlaen ag ef i Campeache
lle dinistriodd lynges o 14 o longau'r gelyn. Y tro hwn llwyddodd i
gipio 150,000 o ddarnau arian.
Gorchestion morwrol a milwrol
Yn 1665 trodd ei sylw at Gulfor Mecsico a chael cymorth y
brodorion Indiaidd yno i ymosod ar Villa de Mosa.
Siwrnai seithug
fu honno gan nad oedd yno unrhyw beth gwerth ei gipio.
Yna, ar ôl
chwalu dros 300 o filwyr Sbaenaidd a fu'n ddigon ffôl i ymosod ar
yr ychydig dros gant o ddynion oedd gan Morgan, ymosododd ar
drefi Sbaenaidd ar hyd arfordir De America yn cynnwys dinas
Granada, eto gyda chymorth yr Indiaid lleol.
Dychwelodd Morgan i Jamaica i gael ei ddyrchafu'n Is-lyngesydd,
ac yntau ond yn 30 oed.
Erbyn 1668, ef oedd pennaeth herwlongwyr
y Caribî.
Pan gododd ofnau y byddai'r Sbaenwyr yn ymosod ar
Jamaica, dyrchafwyd ef yn Llyngesydd a chanddo lynges o ddwsin o
longau a 700 o longwyr.
Penderfynodd ymosod ar Puerto Principe, ail ddinas Ciwba, ac
oddi yno hwyliodd Morgan yn ei flaen am Hispaniola gan dderbyn
croeso mawr yn Port Royal.
Treuliodd y blynyddoedd nesaf yn
ymosod ar eiddo Sbaenaidd ar hyd arfordir Fflorida a Thecsas cyn
troi am Portobello.
Yno, lle'r oedd amddiffynfeydd cryfaf y
Sbaenwyr, y trefnodd Harri ei ymosodiad mwyaf eofn.
Cipiodd gaer
ar ôl caer.
Cymerodd dros bythefnos iddo ef a'i ddynion ysbeilio'r
porthladd a chredir iddo drechu dros dair mil o Sbaenwyr.
Dychwelodd Morgan i Port Royal gyda thomennydd o drysor ac
arian.
Cafodd gadw pump y cant o'r ysbail honno ond, wrth gwrs, y
Brenin a gâi'r ganran uchaf.
Dianc rhag y gelyn
Yn 1666 cafodd Morgan ddihangfa ffodus wrth i bowdwr ffrwydro'n
ddamweiniol tra oedd yn trefnu ymosodiad ar y Ffrancwyr yn
Cartagena.
Newidiodd Morgan ei feddwl ac ymosod yn hytrach ar
arfordir Feneswela, gan anelu am Maracaibo.
Ymlaen ag ef wedyn i
Gibraltar gerllaw.
Yn y fan honno, ymddangosai fel pe bai llwyddiant y
Capten Harri Morgan wedi dod i ben.
Caewyd llongau Morgan i mewn
gan warchae a grëwyd gan fflyd Sbaenaidd yn y culfor.
Collodd drigain
o'i ddynion, ond profodd ei allu a'i gyfrwystra trwy dwyllo'r Sbaenwyr
ei fod am ymosod ar eu caerau o'r tir mawr.
Yn hytrach, yn nhywyllwch
nos, hwyliodd ef a'i lynges allan i'r môr mawr dan drwynau'r gelyn a
dychwelodd i Port Royal gyda 250,000 o ddarnau aur.
Doedd dim diwedd ar hyfdra na dewrder Morgan.
Ceisiodd ef a mil o'i
ddynion gipio Old Providence ac ildiodd y Llywodraethwr ar ei union,
heb i'r un gwn gael ei danio.
Ei ymosodiad mwyaf beiddgar
Ond ystyrir mai ei gamp fwyaf fu croesi
Penrhyn Panama i ymosod ar y ddinas o'r un enw gyda mil o filwyr a
morwyr ar droed.
Roedd 2,400 o filwyr Sbaenaidd yn disgwyl amdanynt
yn Ninas Panama.
Ymosododd Morgan ar 21 Ionawr 1671. Cipiwyd y
ddinas heb i'r Cymro golli ond pump o'i ddynion tra oedd y gelyn wedi
colli 400 o'u dynion hwy.
Unwaith eto, wedi iddo gyrraedd yn ôl i Port
Royal, derbyniodd Morgan ganran o'r ysbail, sef tua 7,500 darn o aur.
Yn anffodus i Morgan, yn ystod yr ymosodiad ar Banama, daeth
Prydain a Sbaen i gytundeb a chafwyd cadoediad.
Danfonwyd y Cymro
beiddgar i Lundain i wynebu llys barn.
Erbyn hyn roedd hanes ei
orchestion wedi ei droi yn destun chwedl.
Derbyniodd groeso
tywysogaidd wrth iddo ddisgwyl am ymron ddwy flynedd i'w achos
gael ei ddwyn gerbron y llys.
Pan ymddangosodd o flaen Siarl II ym mis
Tachwedd 1673 llwyddodd i ddadlau ei achos yn llwyddiannus.
Yn wir,
bu'r Capten Harri Morgan yn gyfrifol am lenwi pocedi'r Brenin, ac yn
hytrach na'i gosbi fe'i hurddwyd yn Farchog a'i wneud yn Is-lywydd
Jamaica.
Gadawodd Lundain am y Caribî ar ddechrau 1675.
Yn Jamaica enwodd un o'i blanhigfeydd yn Llanrhymni, er cof am
fan ei eni, ond bu ffrae rhyngddo â rhai o wŷr mawr yr ynys, yn
cynnwys y Llywodraethwr, a dygwyd ef unwaith eto o flaen llys ar
gyhuddiad o gynllwynio gyda'r Ffrancwyr.
Unwaith eto,
penderfynwyd nad oedd ganddo gyhuddiad i'w ateb a rhyddhawyd ef.
Y potsiar yn troi'n gipar
Yn 1680 fe'i dyrchafwyd yn Llywodraethwr Jamaica ac yna cafwyd
datblygiad annisgwyl.
Penderfynodd yr archysbeiliwr wahardd môrladrata
a chynigiodd bardwn i'r holl fôr-ladron dim ond iddynt dyngu
llw i roi'r gorau i ysbeilio.
Doedd ganddo ddim trugaredd at y rhai a
wrthododd y cynnig.
Dedfrydwyd y rheiny i'w crogi.
Erbyn diwedd ei oes credir fod Morgan wedi casglu cynifer â
miliwn o ddarnau aur, a hynny'n bennaf rhwng 1669 a 1671.
Er
hynny, roedd wedi gwario cymaint fel iddo fynd i ddyled.
Erbyn hyn,
roedd yn yfed yn drwm iawn hefyd.
Enwyd diod rym enwog ar ei ôl,
gyda'i lun yn ymddangos ar y label.
Bu farw Harri Morgan yn 1688 o'r dropsi - neu oedema - a gormod
o alcohol.
Yn ei angladd taniwyd pob gwn yn yr harbwr yn deyrnged
iddo wrth i fôr-leidr enwoca'r byd gael ei gladdu ar dir sych.
Ond, 'rhagluniaeth fawr y nef, mor rhyfedd yw'.
Ar 7 Mehefin
1692 bu daeargryn cryf a llusgwyd mynwent Port Royal i'r môr gan
don anferth - enghraifft gynnar o tsunami, mae'n debyg.
Llusgwyd
gweddillion Harri Morgan i'r eigion - tynged addas a chymwys i un
a fu'n teyrnasu'r tonnau am flynyddoedd.
Lyn Ebenezer