Arwr y gweithwyr a grogwyd ar gam
Gofynnwch i unrhyw un pwy oedd Richard Lewis, a phrin y cewch
ateb. Gofynnwch wedyn pwy oedd Dic Penderyn ac mae'n stori
wahanol. Dau enw ar yr un dyn yw Richard Lewis a Dic Penderyn,
a'r un dyn hwnnw yn arwr gwerin a gaiff ei ystyried yn ferthyr cyntaf
y dosbarth gweithiol.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Merthyr Tudful oedd calon a
chanol y Chwyldro Diwydiannol, prifddinas y byd o ran y diwydiant
dur, lle'r oedd poblogaeth o 8,000 yn 1801 wedi tyfu i ymron 40,000
o fewn 30 mlynedd.
Ehangodd y dref yn rhy gyflym gyda'r canlyniad
fod yno brinder tai a d˘r a diffyg glanweithdra.
Roedd clefydau fel
colera yn rhemp yno a phlant yn marw wrth y dwsin bob dydd.
Perchennog gwaith dur Cyfarthfa oedd Richard Crawshay.
Roedd
Cyfarthfa'n un o bedwar gwaith tebyg yn yr ardal. Trigai Crawshay
yng Nghastell Cyfarthfa, sydd heddiw'n amgueddfa.
Tyrrodd dynion
ifanc a arferai weithio'r tir i'r gweithfeydd dur lle'r oedd y cyflog
deirgwaith yn uwch, ond erbyn 1829 roedd y gwaith yn dechrau
teimlo effaith dirwasgiad a barhaodd am dair blynedd.
Gwnaed
miloedd yn ddi-waith a dechreuwyd atafaelu eiddo'r rheiny oedd
mewn dyled.
Ceisiwyd yn ofer i basio'r Ddeddf Diwygio, ac o
ganlyniad unodd y dosbarth gweithiol.
Codi'r faner goch
Cynhaliwyd rali enfawr
uwchlaw'r dref ar 2 Mehefin 1831, rali a drodd yn wrthryfel o dan
gysgod baner goch a wnaed o gynfas wen wedi ei throchi mewn
gwaed llo.
Danfonwyd mintai o'r Argyll and Sutherland Highlanders a'r
Royal Glamorgan Light Infantry i geisio tawelu'r gwrthryfel.
Parhaodd y cynnwrf am wythnos, gyda'r gweithwyr yn trechu'r
milwyr ddwywaith.
Y tu allan i Dafarn y Castell y digwyddodd yr
helbul gwaethaf, lle wynebai torf o ddwy fil y rhengoedd milwyr, ac
yn y brwydro a ddilynodd lladdwyd dros ddwsin o'r gweithwyr.
O'r diwedd llwyddodd y milwyr i gael y gorau ar y gweithwyr ac
arestiwyd cynifer â 28 o'r gwrthryfelwyr.
Yn eu plith roedd Lewis
Lewis, neu Lewsyn yr Heliwr, a Richard Lewis, neu Dic Penderyn,
dau o'r prif arweinwyr.
Un o'r rhesymau dros y cythrwfl fu atafaelu
eiddo Lewsyn yr Heliwr yn erbyn dyled o ymron i £19.
Cyhuddwyd
Dic o drywanu milwr o'r enw Donald Black, aelod o'r Highlanders,
ac er na lwyddodd Black i adnabod y naill na'r llall ohonynt,
dedfrydwyd Lewsyn a Dic i'w crogi.
Cefndir Dic
Ganwyd Dic Penderyn yn 1808 yn fab i Lewis a Mary Lewis.
Roedd y fam, mae'n debyg, yn grydd.
Credir fod ganddo frawd a
losgai galch yng Nghefn Cribwr ac a gâi ei alw'n John y Calchwr.
Derbyniodd Dic ychydig addysg yn y capel lleol ac yna, yn 1819,
symudodd ef a'i deulu i Ferthyr Tudful lle cychwynnodd ef a'i dad
weithio fel glowyr.
Dechreuodd Dic frwydro dros hawliau'r
gweithwyr yn ifanc iawn. Collodd ei swydd o'r herwydd, ond erbyn
1831 roedd Dic yn ôl yng nghanol y frwydr a arweiniodd at ei dranc.
Diddymwyd y ddedfryd yn erbyn Lewsyn yr Heliwr a'i newid i un
o alltudiaeth am oes.
Un ffactor o'i blaid oedd iddo unwaith achub
bywyd cwnstabl arbennig yr ymosodwyd arno.
Roedd y dystiolaeth
yn erbyn Dic yn fratiog a dweud y lleiaf. Cyfaddefodd un tyst na
fedrai adrodd yr hyn a ddywedwyd gan Dic a rhai o'r lleill y tu allan
i Westy'r Castell ar y diwrnod tyngedfennol am na allai ddeall
Cymraeg.
Ymgais i'w achub rhag y crocbren
Cychwynnwyd ymgyrch i achub bywyd Dic.
Casglwyd 11,000 o
enwau ar ddeiseb ym Merthyr Tudful ac arweiniwyd yr ymgyrch gan
Joseph Tregelles Price - meistr dur ond gŵr a oedd hefyd yn Grynwr.
Bu ei ddadleuon mor effeithiol fel iddo hyd yn oed berswadio'r
Barnwr fod Dic yn ddieuog.
Serch hynny, gwrthododd y Gweinidog
Cartref, yr Arglwydd Melbourne, â newid y ddedfryd.
Cred haneswyr mai'r gwir reswm dros i Dic gael ei grogi oedd er
mwyn gwneud esiampl o benboethyn undebol, gan fod cyfrinfeydd
undebau llafur wedi eu sefydlu yn ne Cymru erbyn hynny a'r
gweithwyr wedi dechrau dangos eu dannedd.
Dim ond 23 mlwydd
oed oedd Dic pan wynebodd y grocbren.
Roedd yn ŵr priod, yn dad
ac roedd ei wraig yn feichiog.
Yn wir, dywed un hanesyn fod ei
wraig, erbyn dyddiad y dienyddio, wedi geni'r plentyn.
Dywedir iddi
gerdded ar noswyl y crogi yr holl ffordd i Gaerdydd yn cario'r baban,
ac i'r baban hwnnw farw cyn iddi gyrraedd.
Codwyd crocbren yn Stryd y Santes Fair yng Nghaerdydd a
chrogwyd Dic Penderyn ar 13 Awst.
Wrth wynebu'r rhaff, dywedir
iddo weiddi, 'Arglwydd, dyma gamwedd'. Dywedir hefyd i filoedd o
gefnogwyr a galarwyr gerdded gyda'r arch yn ôl i Aberafan.
Yno, yn
ôl yr hanes, disgynnodd colomen wen ar ei arch.
Arwr y gweithwyr
Nid dyna ddiwedd y stori. Yn 1874, adroddwyd gan y Western
Mail fod gŵr o'r enw Ieuan Parker wedi cyffesu ar ei wely angau yn
America mai ef oedd wedi trywanu Donald Black.
Yn Amgueddfa Heddlu De Cymru arddangosir crair sy'n atgof o
fywyd a marwolaeth Dic Penderyn.
Mewn cas gwydr yno, ceir
pastwn byr ac yn hwnnw y cariwyd y warant ar gyfer arestio Dic
Penderyn.
Mae'r geiriau 'Merthyr Tydfil' a'r dyddiad 1831 wedi eu
hysgythru ar y metel sy'n amgylchynu'r pastwn.
Does dim dadl i Dic Penderyn gael ei grogi ar gam.
Gwadodd dro
ar ôl tro y bu ganddo unrhyw ran yn yr ymosodiad ar y milwr, a
chadarnhawyd hyn gan y milwr ei hunan.
Y cyfan a ddywedodd
hwnnw yn y llys oedd iddo weld Dic yn sefyll gerllaw.
Hyd yn oed
yn ddiweddar bu ymgyrch i glirio'i enw, ond erys y ffaith i'r
awdurdodau, ac nid am y tro cyntaf, greu merthyr trwy grogi rhywun
ar gam.
Mae digwyddiadau 2 Mehefin a 13 Awst 1831 yn dal i atseinio hyd
heddiw.
Mudferwodd canlyniadau'r gwrthryfel a dienyddiad Dic
Penderyn am flynyddoedd ymysg rhengoedd y dosbarth gweithiol, a
hynny er mawr ofid i'r awdurdodau.
Crëwyd delwedd o Dic Penderyn fel dyn cyffredin a'i cafodd ei
hun mewn sefyllfa anghyffredin ac a ddienyddiwyd ar gam.
Daeth yn
destun cerdd a chân. Bu'n destun drama.
Mae wedi hawlio ei le ar
lwyfan y byd ochr yn ochr ag arwyr eraill y dosbarth gweithiol fel Joe
Hill a James Connolly.
Lyn Ebenezer