BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
5ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Pamffled gig The Thrills Adolygiad o gig The Thrills
Ar y 15fed o fis Mawrth, gwelais fand neis yn Undeb y Myfyrwyr yng Nghaerdydd. Cyn y gig yma, nid oedd barn benodol gennyf am The Thrills ac nid oeddwn ar fy mhen fy hun.
Yr oedd y Neuadd Fawr yn llawn gyda dwy fath o bobl: ffans 'die hard' a ffyddlon a phobl fel fi, pobl a oedd yn mynd jyst am noson o gerddoriaeth neis.

Yr oedd llawer o egni gan y pumawd o Ddulyn efo'r canwr Conor Deasy yn symud o gwmpas y llwyfan yn gyflym ac yn chwifo stand y meicroffôn i annog brwdfrydedd y gynulleidfa. Amgylchwyd ei ffurf denau gan sioe oleuni argraffiadol o liwgar.

Ond nid oedd y gig yn gyffredinol yn arbennig o fywiog oherwydd natur harmonig a melodig y mwyafrif o'u caneuon, ond nid yw hynny yn beth drwg.

Tocyn y gigI fi, fel rhywun sy'n gwerthfawrogi eu cerddoriaeth ar lefel eitha syml, yr oedd y casgliad o ganeuon a gynygiwyd gan y gig braidd yn berffaith.

Yr oedd perfformiadau o'u caneuon poblogaidd megis 'Big Sur', 'Santa Cruz (You're Not That Far)' a 'Whatever Happened to Corey Haim?' a chawsom gyfle i glywed eu sengl newydd 'The Irish Keep Gatecrashing' sydd ar gael i brynu ar hyn o bryd, efo'u fersiwn eu hunain o 'Viva Las Vegas' ar ochr B y ddisg.

Y mae'r sengl newydd yn dod o'u ail albwm 'Let's Bottle Bohemia' sy'n brofiad mwy tywyll na'u halbwm cyntaf, o ran sŵn a lyrics y caneuon.

Fel y dywedwyd, dw i byth wedi bod yn ffan mawr o The Thrills, ond rhaid cyfaddef fy mod i wedi mwynhau'r gig yma ac os bydd y Gwyddel eisiau 'gatecrash-o' yr undeb yng Nghaerdydd unrhyw bryd yn y dyfodol agos, mae'n hollol iawn 'da fi!

Gan: Louise Andrewartha

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy