BBC HomeExplore the BBC

LLUN
7fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bryn Terfel a Rhiannon Lewis Bryn yn agor gwersyll
Agorwyd Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn swyddogol gan y canwr byd-enwog Bryn Terfel ddydd Sadwrn, Tachwedd 27, 2004.
  • Lluniau o'r Agoriad Swyddogol yma

    Mae'r Gwersyll yn rhan o adeilad cyffrous Canolfan Mileniwm Cymru sydd yn agor ers Tachwedd 26 ym Mae Caerdydd.

    Mae lle i 153 o bobl i aros dros nos yn y Ganolfan mewn ystafelloedd en-suite, ac mae yno hefyd neuadd/ theatr, lolfeydd, ffreutur ac ystafelloedd dosbarth.

    Mae'r gwersyll newydd hwn yn ychwanegu at ddau wersyll yr Urdd arall, yng Nglan-llyn ger Y Bala ac yn Llangrannog yng Ngheredigion, sydd yn cynnig profiadau gwledig ac awyr agored i ieuenctid Cymru. Yn wahanol i hyn, bydd Gwersyll Caerdydd yn cynnig profiadau dinesig a chelfyddydol.

    Yn ôl Alun Owens, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Caerdydd,

    "Rydyn ni wrth ein boddau bod Bryn Terfel wedi cytuno i agor y gwersyll yma yng Nghanolfan y Mileniwm. Nid yn unig gan fod Bryn yn un o gantorion operatig gorau'r byd ond mae hefyd yn gefnogol tu hwnt i'r Urdd a'r cyfleoedd mae'r mudiad yn ei gynnig i ieuenctid Cymru."

    Bydd yr Urdd yn trefnu ymweliadau i bob math o lefydd yng Nghaerdydd a'r ardal, gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm, y Cynulliad, Techniquest, Sain Ffagan, Yr Amgueddfa Genedlaethol, y Pwll Mawr, Castell Coch, Castell Caerdydd a llawer mwy.

    Bydd modd i aelodau hefyd weld sioe, gêm bêl-droed, criced, rygbi neu hoci iâ ac mae prisiau arbennig i'r rhai sy'n aros yn y gwersyll i weld y ffilmiau diweddaraf, bowlio 10 a defnyddio holl gyfleusterau Pentref Hamdden Atlantic Wharf.

    Ewch i edrych ar luniau o'r agoriad swyddogol yn Nhachwedd 2004.

    Beth ydych chi'n ei feddwl o'r syniad am wersyll dinesig ym Mae Caerdydd? Dwedwch wrthon ni trwy lenwi'r ffurflen isod.


  • Cyfrannwch

    Courtney Hamilton o Gaerdydd
    Fi wedi bod yn y gwersyll a mae e'n hollol fab!

    James o Felinheli
    Rwyf wedi gweld y gwersyll yma ar y teledu pan roedd dynas yn ymarfer ei Chymraeg ar 'Welsh in a Week.' Mi roedd o'n edrych yn fodern ac yn gyfforddus iawn!

    Mari Rowlands
    Rwyf wedi bod yn aros yn y gwersyll ac yn meddwl ei fod yn hyfryd!


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy