BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
5ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Stondinau o flaen Canolfan y Mileniwm Y wlad yn dod i'r dref
Dathlodd Mudiad y Ffermwyr Ifanc yng Nghymru eu pen-blwydd yn 70 ym mae Caerdydd dros benwythnos Tachwedd 3 - 5.
Dudley yn coginio Lluniau o Ŵyl y Wlad yn y Dref - Oriel 1
Lluniau o Ŵyl y Wlad yn y Dref - Oriel 2

Cynhaliwyd Gŵyl y Wlad yn y Dref ym Mae Caerdydd o ddydd Gwener y 3ydd o Dachwedd nes dydd Sul y 5ed o Dachwedd. Roedd yn ŵyl fwyd ac yn ddathliad o gefn gwlad Cymru.

Cefn gwlad yn dod i Gaerdydd
Bwriad yr ŵyl oedd dod â chefn gwlad Cymru i mewn i ganol Caerdydd. Roedd tair ardal yn rhan o'r ŵyl gyda phob un ardal yn disgrifio'r gwahanol gamau o'r gadwyn fwyd. Cafwyd arddangosfa o dda byw a chynhyrchwyr bwyd yn bresennol ynghyd â gweithgareddau addysgiadol a gwledig ar gyfer y rhai a fu'n ymweld.

Hwyiaid o flaen Canolfan y MileniwmCafwyd perfformiadau byw gan y Sioe 'Sheeptacular' a 'Meirion Owen a'r Quack Pack' yn ystod y digwyddiad. Pwy a fyddai'n meddwl byddai defaid ac Indian Runner Ducks i'w gweld yn fyw ym Mae Caerdydd?

Roedd y cogydd Dudley yn bresennol ac yn gwneud arddangosfeydd coginio hefyd.

"Mae'n ddigwyddiad pwysig iawn i CFfI Cymru. Wrth ddod â'r 'Wlad i'r Dref', fe fyddwn yn medru addysgu ymwelwyr ynglŷn â gwahanol agweddau o gefn gwlad a gobeithir y bydd yr ŵyl yn codi proffil y mudiad yng Nghymru ac yn darparu'r cyfle i bobl ifanc i arddangos eu sgiliau mewn digwyddiad proffesiynol cyhoeddus." meddai Rhodri Evans, Cadeirydd y Mudiad cyn y penwythnos.

"Rhaid diolch i'n noddwyr sef Tesco a Hybu Cig Cymru ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru am eu cefnogaeth a'u harweiniad." ychwanegodd.

Gala yn uchafbwynt
Daeth y penwythnos arbennig hwn i ben gyda Gala ddathliadol a gynhaliwyd ar lwyfan ysblennydd Canolfan Mileniwm Cymru ar nos Sul y 5ed o Dachwedd gyda channoedd o aelodau'r mudiad yn cymryd rhan. Byddwn yn ychwanegu lluniau o'r gala ar y safle hwn yn fuan.

Mae'r mudiad wedi bod yn trefnu'r gala ar y cyd gyda S4C a Cwmni Da Tonfedd Eryri.

"Mae'r noson yn addo bod yn gampwaith o holl ddoniau aelodau'r mudiad ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weld y perfformiad. Mae'n gyfle arbennig i'r bobl ifanc i berfformio ar un o lwyfannau mwyaf y byd gan ddangos eu llu o dalentau. Yr ydym yn ffodus iawn o'r holl gefnogaeth yr ydym wedi derbyn dros y misoedd diwethaf gan bawb sydd ynghlwm yn y digwyddiad ac yr ydym yn hynod o ddiolchgar am hyn. Noddwyr y Gala yw Land Rover UK ac yr ydym yn ddiolchgar iddynt hwy hefyd am eu cefnogaeth hael," dywedodd Rhodri Evans wrth edrych ymlaen at y noson.

Dudley yn coginio Lluniau o Ŵyl y Wlad yn y Dref - Oriel 1
Lluniau o Ŵyl y Wlad yn y Dref - Oriel 2

  • Cliciwch yma i ddallen Dyddiadur Aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Banw, Maldwyn wrth iddyn nhw baratoi am y penwythnos mawr.


  • Llywydd newydd y Clwb, Eryl Williams yn edrych ymlaen at y dathlu.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy