BBC HomeExplore the BBC

SUL
6ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Gareth Williams a cherflun o Caradog yn Aberdâr Cymru Gwlad y Gân
Mae'r Athro Gareth Williams o Brifysgol Morgannwg yn edrych yn ôl ar hanes canu corawl yng Nghymru mewn cyfres newydd ar S4C.
Bydd y gyfres newydd yn archwilio un o ystrydebau mwyaf cyfarwydd y genedl - y syniad o Gymru fel 'gwlad y gân'.

Yn Canu'r Cymoedd, bydd yr Athro Gareth Williams yn honni bod y ddelwedd hon o Gymru wedi dod i'r fei gyntaf oll yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er bod y Cymry yn gysylltiedig â cherddoriaeth ymhell cyn hynny.

"Mae'r ddelwedd hon o "Gymru, Gwlad y Gân" yn deillio o'r traddodiad corawl anrhydeddus a dyfodd yn ardaloedd diwydiannol y De yn y 1800au," eglura'r Athro Williams. "Yn wir, y tro cyntaf i 'dîm' o Gymru wynebu Lloegr oedd mewn cystadleuaeth gorawl fawreddog yn y Palas Crisial yn Llundain ym 1873."

Yn yr ornest hanesyddol hon roedd yn rhaid i'r 'Côr Mawr' brofi ei allu yn erbyn un o brif gorau Llundain. O dan arweiniad yr enwog Griffith Rhys Jones, bu'r Cymry'n fuddugoliaethus. "Roedd bri Jones gymaint nes ei fod yn cael ei adnabod gan ei ffugenw yn unig - Caradog," meddai Gareth.

Gareth Williams a'r cerflun"Ar draws Cymru, mae 'na gerfluniau o gadfridogion, gwleidyddion ac enwogion y meysydd chwarae, ond does ond un cerflun o arweinydd côr, sef y cerflun godidog o Caradog yn chwifio'i faton, sy'n sefyll yn sgwâr ei dref enedigol, Aberdâr."

Mae'r Athro Williams yn egluro paham fod tŵf y traddodiad newydd hwn wedi bod mor gryf yn y de.

"Bu i ddiwydiannau De Cymru dyfu'n gyflym ac fe ymgartrefodd niferoedd uchel o Gymry yn y trefi am y tro cyntaf mewn hanes. Gyda'r tŵf mewn poblogaeth a'r gwelliannau mewn trafnidiaeth, roedd yn bosibl i gorau mawr ddod at ei gilydd i ymarfer a pherfformio - yn aml yn y capeli newydd oedd yn cael eu hagor dros y wlad. Fe arweiniodd hyn at draddodiad y Corau Meibion Cymraeg," eglura Gareth, sydd yn aelod o Gôr Meibion Pendyrus yn y Rhondda.

Côr yn y cymoedd"I fi, mae sŵn y Corau Meibion yn rhywbeth arbennig. Mae'n gadarn, cyffrous ac yn gynnes hefyd. I nifer fawr o bobl, dyma sain sy'n nodweddiadol ohonom ni'r Cymry."

Fe wnaeth y corau ddenu cefnogaeth frwd. Ym 1893 fe aeth rhyw 15,000 o bobl i weld Cymru yn maeddu Lloegr mewn gêm rygbi ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, ond yn y mis Awst, roedd pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd dan ei sang gyda 20,000 o bobl yn gwylio'r brif gystadleuaeth gorawl.

Bydd Canu'r Cymoedd hefyd yn edrych ar ochr dywyllach cystadlaethau corawl oes Fictoria. Roedd yr awydd i ennill mor gryf nes i'r corau geisio pob math o driciau a chynllwynio i danseilio'u gwrthwynebwyr. Roedd y cystadlaethau mawr yn denu llu o gamblwyr, a phan nad oedd y gwylwyr yn hapus gyda'r dyfarniad, roedd y cefnogwyr anfodlon weithiau'n ymladd, a'r beirniaid yn gorfod ffoi am eu bywydau!

Canu'r Cymoedd. Yn dechrau ar Ddydd Calan, 8.45pm, S4C, gydag isdeitlau Saesneg.
Cynhyrchiad Boomerang i S4C mewn cydweithrediad ag ITV Wales.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy