BBC HomeExplore the BBC

SUL
6ed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Gig Adolygiad o gig Drone, Brave Captain a Boom Bip
Adolygiad o gig Drone, Brave Captain a Boom Bip, Ebrill 16, 2005 yng Nghlwb Ifor Bach.
Noson o gerddoriaeth electronig, wahanol yng Nghlwb Ifor Bach oedd y gig yma.

Dechreuodd gyda band diddorol o'r enw Drone a oedd yn swnio tipyn bach fel Yo La Tengo oherwydd y gitarau acwstig, sain y synth efo beats electronig ac arddull gynnil y canwr.

Yr oedd ganddo bersonoliaeth hudolus, ddiddorol ac yr oedd geiriau'r caneuon yn dda ac yn wahanol. Sut bynnag, yr oeddynt yn eithaf ailadroddus ac nid oedd y caneuon yn ddigon catchy yn fy marn i. Ond, yr oedd y band yn swynol a phryfoclyd a byddaf yn awyddus i weld beth maen nhw'n gwneud yn y dyfodol.

Y mae'r dyn y tu ôl i Brave Captain yn dod o The Boo Radleys, band a oedd yn eithaf enwog yn y 1990au. Yr oedd ei gerddoriaeth yn debyg i rai o ganeuon y band yma, ond nid y caneuon amlwg, poblogaidd fel 'Wake up Boo'.

Y mae Brave Captain yn fwy arbrofol tra bod yn felodaidd ac yn fwy gloyw na Drone. Arweiniwyd agoriad ei sesiwn gan organ a oedd yn fy atgoffa o sŵn The Doors. Yr oedd sain electronig yn fwy pwysig nag oedd pan ei fod yn cefnogi Fourtet yng Nghaerdydd llynedd, ac ers y gig yna, mae Brave Captain wedi cael band i gyfoethogi ei sioe lwyfan.

Ar ôl i mi ddarllen am Boom Bip yn y wasg, yr oeddwn yn disgwyl electronica atmosfferig, tipyn bach fel Fourtet. Ond yr hyn a gefais oedd sŵn fwy rocky, efo gitarau, synth, bass a drymiau. Yr oedd eu harddull yn debyg i roc seicedelig fel y band Space Men 3 neu gyfnod 'Umma Gumma' Pink Floyd. Y brif broblem gyda'u sesiwn oedd y ffaith bod arddull gynnil eu cerddoriaeth yn agos iawn at ddiflannu trwy system sŵn Clwb Ifor Bach ac yr oedd rhyw fath o fur o sŵn yn ei lle.

Ond, yr oedd llawer o egni a brwdfrydedd gan Boom Bip a llwyddodd yn eu bwriad i wneud i bawb ddawnsio!

Gan: Louise Andrewartha


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy