Bydd y rownd nesaf o recriwtio i'r CCC yn ail-agor yn yr Hydref 2010.
Y broses recriwtio
Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn penodi , ar argymhelliad panel annibynnol, rhwng wyth a deuddeg aelod i Gyngor Cynulleidfa BBC Cymru. Penodir yn flynyddol er mwyn llenwi llefydd aelodau y mae eu tymor wedi dirwyn i ben. Ceisir ymgeiswyrdrwy hysbyseb agored a dilynir proses benodi agored yn unol a'r arfer gorau o ran penodiadau cyhoeddus.
Disgwylir i CCC fod yn gynrychioliadol o dalwyr ffi'r drwydded yng Nghymru, yn enwedig o ran daearyddiaeth, iaith, tarddiad ethnig, rhyw, oedran, anabledd a demograffeg. Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn sicrhau bod aelodaeth CCC yn cynnwys profiad o faterion eang all gynnwys materion anabledd, cymunedau lleiafrifol ethnig, credoau, cyfeiriadedd rhyw, a materion yn ymwneud ag oedran, sgiliau sylfaenol, a chymunedau trefol a gwledig.
Caiff aelodau CCC eu penodi am gyfnod gwreiddiol o dair blynedd gydag opsiwn o estyn y tymor am gyfnod ychwanegol o ddwy flynedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynteu'n dymuno ymgeisio i fod yn aelod ysgrifennwch at Bennaeth Llywodraethu ac Atebolrwydd Cymru :
Llywodraethu ac Atebolrwydd
Y Ganolfan Ddarlledu BBC Cymru
Llandaf
Caerdydd CF5 2YQ
Ynteu e-bostio ccc@bbc.co.uk.