BBC HomeExplore the BBC

6 December 2009
Accessibility help
Text only
BBC Cymru Cyngor CynulleidfaBBC Cymru - Cyngor Cynulleidfa

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Cynulleidfa

Rôl a chylch gwaith Cyngor Cynulleidfa Cymru (CCC)

Dogfen PDF
Protocol y BBC :
Cynghorau Cynulleidfa
Mae rôl a chylch gwaith y Cynghorau Cynulleidfaoedd yn cael eu gosod yn Siarter Frenhinol newydd y BBC, a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2007. Mae hyn yn darparu'r sail a'r cyd-destun ar gyfer gwaith Cyngor Cynulleidfa Cymru ar ran cynulleidfaoedd y BBC yng Nghymru, a'i waith ar ran cynulleidfaoedd y BBC ar draws y Deyrnas Unedig ar y cyd â Chynghorau eraill yn Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Mae'r Cyngor Cynulleidfa yn dwyn y cyfrifoldebau sydd gan Gyngor Darlledu Cymru o dan y Siarter Frenhinol diwethaf.


Prif Gyfrifoldebau

Dau brif bwrpas sydd gan Gyngor Cynulleidfa Cymru yn bennaf :

Yn gyntaf, i archwilio perfformiad y BBC ar ran cynulleidfaoedd sy'n byw yng Nghymru, ac i gynghori'r Ymddiriedolaeth ar faterion yn ymwneud â chynulleidfaoedd a gwasanaethau'r BBC yng Nghymru ar bob lefel. Mae hyn yn hynod o bwysig yng nghyddestun datganoli. Mae'r Ymddiriedolwr Cenedlaethol a'r Cynghorau Darlledu mewn safle gref i ddeall anghenion, amgylchiadau a phryderon cynulleidfaoedd o fewn Cymru, ac i gynghori'r Ymddiriedolaeth ar faterion cyfoes.

Bydd y Cyngor yn darparu asesiad agos a pharhaol o raglenni a gwasanaethau'r BBC yng Nghymru ac i ba hyd mae allbwn rhwydwaith y BBC a gweithgareddau eraill yn adlewyrchu amrywiaeth y Deyrnas Unedig a'i wledydd, ei ranbarthau a'i gymunedau. Bydd y fath waith yn ymgorffori adnabyddiaeth o flaenoriaethau cynulleidfa ar gyfer gwasanaethau'r BBC (seiliedig ar adborth ac ymchwil yng Nghymru) ac asesiad o berfformiad y BBC yn erbyn ei Drwyddedau Gwasanaeth, Pwrpas Cyhoeddus a Datganiad blynyddol o Bolisïau Rhaglenni.

Yn ail, i gyfrannu at ddatblygiad a gweithrediad fframwaith perfformiad yr Ymddiriedolaeth, yn seiliedig ar raglen o weithgareddau estyn allan cynulleidfaol, ymchwil a chydweithio gan y Cynghorau ar ran cynulleidfaoedd ar draws y Deyrnas Unedig.

Bydd rhaglen waith y Cyngor Cynulleidfa yn cael ei gymhathu i gylch busnes yr Ymddiriedolaeth a'r Fframwaith Perfformiad a Threfn Lywodraethol newydd, ond yn ddigon hyblyg i ymateb i anghenion a phryderon cynulleidfaoedd yng Nghymru.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy