Gweler hefyd : Gwybodaeth BBC Cymru am arolwg gan y Bwrdd Rheoli am yr un cyfnod
Cynulleidfaoedd y BBC yng Nghymru yn dweud eu dweud
Dywedodd Janet Lewis-Jones, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru a Chadeirydd y Cyngor Cynulleidfa :
"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Cyngor Cynulleidfa Cymru wedi parhau i sicrhau bod barn pobl Cymru yn cael ei glywed yn glir yng ngwaith yr Ymddiriedolaeth sef corff sofran y BBC."
"Yn ystod 2008-09, tynnodd sylw Ymddiriedolaeth y BBC at nifer o faterion arwyddocaol :.
- Rhoddodd y Cyngor Cynulleidfa groeso cynnes i'r arolwg a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth y BBC ar adroddiadau Newyddion Rhwydwaith y BBC ynghylch digwyddiadau yng Nghymru yn cynnwys materion a ddatganolwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac ymrwymodd ei hun i barhau i gadw llygad barcud ar hyn.
- Parhaodd y Cyngor i dynnu sylw'r Ymddiriedolaeth at broblemau argaeledd DAB yng Nghymru, yn arbennig felly fod Radio Cymru a Radio Wales ddim ar gael ar DAB i hanner y boblogaeth ac o ddeutu 70% o siaradwyr Cymraeg yn methu derbyn Radio Cymru ar DAB
- Pwysleisiodd y Cyngor unwaith yn rhagor bwysigrwydd sicrhau fod y DU yn gweld a chlywed llawer yn rhagor o'r Gymru gyfoes ar allbwn Rhwydwaith y BBC a chomisiynodd ei waith ymchwil ei hun oddi wrth Brifysgol Morgannwg a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni dan y teitl, Screening the Nation: Wales and Landmark Television.
- Pwysleisiodd y Cyngor unwaith yn rhagor bwysigrwydd yr Arolwg Darparu'r Rhwydwaith ynghylch cynhyrchu rhaglenni teledu y tu allan i Llundain gan annog yr Ymddiriedolaeth i sicrhau fod y BBC yn cyflawni'r ymrwymiad i gynhyrchu canran uwch o raglenni teledu ar gyfer y Rhwydwaith yng Nghymru
- Cyfrannodd y Cyngor ei sylwadau i arolwg yr Ymddiriedolaeth ar wasanaethau'r Gorfforaeth ar gyfer cynulleidfaoedd iau, gan gynnal pedwar digwyddiad estyn allan gyda chynulleidfaoedd iau mewn rhannau gwahanol o Gymru er mwyn iddynt fedru cyfrannu at ei ymateb."
Rhydd yr Arolwg Blynyddol farn y Cyngor ynghylch perfformiad y BBC yng Nghymru yn ystod 2008-09 - gan gynnwys llwyddiannau rhaglenni radio a theledu megis Coal House at War a llwyddiant sylweddol nifer o raglenni BBC Cymru ar y Rhwydwaith megis Doctor Who, Torchwood a Young Musician of the Year.
Cafodd allbwn Cymraeg y BBC a ddarlledir ar S4C ei adolygu hefyd gan y Cyngor. Daeth y Cyngor i'r casgliad fod y BBC wedi cyflawni gofynion y Pwrpasau Cyhoeddus yn ystod y flwyddyn a adolygwyd (rhoddir y ddyletswydd i hyrwyddo'r chwe Phwrpas Cyhoeddus ar y BBC gan y Siarter Brenhinol). Mynegodd y Cyngor ei falchder hefyd fod Neuadd Hoddinott wedi ei agor ym mis Ionawr eleni gan ddarparu cartref newydd i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a mynegi'r farn y buasai'n cyfrannu'r gryf at Bwrpas y BBC o hyrwyddo rhagoriaeth diwylliannol.
Wrth gloi, dywedodd yr Ymddiriedolwr Cenedlaethol :
""Mae'n achos o falchder mawr i mi gael cadeirio Cyngor Cynulleidfa Cymru. Edrychaf yn ôl gydag edmygedd ar yr hyn a gyflawnodd y Cyngor yn ystod 2008-2009 ac edrychaf ymlaen at weld llwyddiannau pellach yn deillio o ffrwyth ei benderfyniad i sicrhau mai buddiannau cynulleidfaoedd yng Nghymru sydd wrth galon popeth a wna'r BBC."
Mae Cyngor Cynulleidfa Cymru, a sefydlwyd fel rhan o'r Siarter Frenhinol newydd, yn sicrhau bod barn gwylwyr, gwrandawyr a defnyddwyr gwasanaethau'r BBC yn cael eu clywed gan Ymddiriedolaeth y BBC. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cyfarfu'r Cyngor un ar ddeg o weithiau a chynnal saith cyfarfod cyhoeddus - ym Mlaenau Ffestiniog, Llanwnnen, Aberystwyth, dau gyfarfod (gyda chynulleidfaoedd o oedran gwahanol) ym Mangor, a dau hefyd yng Nghaerdydd. Adlewyrchodd y sylwadau a glywyd ganddo i Ymddiriedolaeth y BBC yn ei ymatebion i'r amrywiol ymgynghoriadau a gynhaliwyd ganddo.
Fel dogfen hanesyddol, nid yw'r Arolwg yn cael ei diweddaru ar ôl ei chyhoeddi.