BBC HomeExplore the BBC

6 January 2010
Accessibility help
Text only
BBC Cymru Cyngor CynulleidfaBBC Cymru - Cyngor Cynulleidfa

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Janet Lewis-Jones, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru a Chadeirydd y Cyngor Cynulleidfa

Arolwg Blynyddol

Croeso i Arolwg Blynyddol gan Cyngor Cynulleidfa Cymru o wasanaethau'r BBC yng Nghymru yn ystod 2007-08.

Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru a Chadeirydd y Cyngor Cynulleidfa :

"Llynedd gweddnewidiodd Siarter Frenhinol newydd y BBC y modd y caiff y BBC ei lywodraethu drwy sefydlu Ymddiriedolaeth y BBC a Chyngor Cynulleidfa Cymru.

"Yr Ymddiriedolaeth sy'n gosod cyfeiriad strategol cyffredinol y BBC gan arolygu ei waith ar ran talwyr ffi'r drwydded a'r Cyngor sy'n sicrhau bod barn pobl Cymru yn cael lle amlwg yng ngwaith yr Ymddiriedolaeth."

Dogfen PDF
Rhan 1 :
Asesiad
gan y
Cyngor

[1.2Mb]
Dogfen PDF
Rhan 2 :
Adroddiad
uchafbwyntiau
BBC Cymru

[4Mb]
Dogfen PDF
Rhan 3 :
Cysylltu
â CCC
a'r BBC

[555Kb]

Fersiwn
testun
plaen am
ddarllenwyr
sgrîn


Ffeil txt
Unicode

[123Kb]

Mae angen Acrobat Reader ar eich cyfriadur er m mwyn gweld yr Arolwg. Os nad yw hwn gyda chi, gweler y canllawiadau cam-wrth-gam WebWise sy'n esbonio sut i'w lawrlwytho.

Copïau ar bapur
Rhowch ganiad i 08703 500 700 i holi am gopi papur o'r Arolwg Blynyddol.

Hyd at 6c y funud yw cost galwadau o linell BT (gall amrywio gyda chwmniau eraill a ffonau symudol) a gellir eu recordio at ddibenion hyfforddiant.

"Yn ystod 2007-08, sef y flwyddyn lawn gyntaf ym modolaeth y Cyngor, mae wedi gweithio'n ddyfal er budd cynulleidfaoedd y BBC yng Nghymru. Mae wedi tynnu sylw'r Ymddiriedolaeth at nifer o faterion arwyddocaol :

  • Cefnogodd y Cyngor yn gryf sefydlu gwasanaeth teledu digidol Freesat ac fe lansiwyd y gwasanaeth newydd ym mis Mai eleni gan ddatrys rhai o'r problemau o dderbyn teledu digidol yng Nghymru
  • Lleisiodd y rhwystredigaeth a deimlir gan nifer yng Nghymru nad yw Newyddion Rhwydwaith y BBC bob tro yn adrodd yn briodol ar faterion yn ymwneud â'r Cynulliad Cenedlaethol. Esgorodd hyn ar gomisiynu arolwg amhleidioldeb gan Ymddiriedolaeth y BBC, adroddiad gan yr Athro Anthony King ac ymchwil annibynnol ar y pwnc - cyfran ohono wedi ei wneud gan Brifysgol Caerdydd.
  • Parhaodd y Cyngor i dynnu sylw'r Ymddiriedolaeth at broblem argaeledd DAB yng Nghymru, nad yw Radio Cymru a Radio Wales ar gael ar DAB i hanner y boblogaeth, a bod 70% o siaradwyr Cymraeg yn methu derbyn Radio Cymru.
  • Pwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau addysgol y BBC i Gymru yn y Gymraeg a'r Saesneg gan fynegi pryder fod BBC Jam wedi ei atal gan yr Ymddiriedolaeth ac argymell yn gryf iawn fod deunydd Jam a oedd yn agos at fod wedi ei gwblhau pan derfynwyd gwasanaeth Jam yn cael ei ryddhau cyn gynted â phosib.
  • Pwysleisiodd y Cyngor bwysigrwydd cael rhaglenni sy'n sicrhau bod y DU yn gweld a chlywed llawer mwy o'r Gymru fodern yng nghynnyrch rhwydwaith y BBC.

"Mae'r Arolwg Blynyddol yn rhoi gorolwg y Cyngor o berfformiad y BBC yng Nghymru yn ystod 2007-08 - gan gynnwys llwyddiannau teledu a radio megis Coal House a'r gyfres Clasuron ar Radio Cymru yn ogystal â llwyddiannau nodedig nifer o raglenni BBC Cymru ar y Rhwydwaith megis Doctor Who, Torchwood ac Across the Divide.

"Mae'n achos o falchder mawr i mi gael cadeirio Cyngor Cynulleidfa Cymru. Edrychaf yn ôl gydag edmygedd at yr hyn a gyflawnodd y Cyngor yn ystod 2007-2008 ac edrychaf ymlaen at weld llwyddiannau pellach yn deillio o ffrwyth ei benderfyniad i sicrhau mai buddiannau cynulleidfaoedd yng Nghymru sydd wrth galon popeth a wna'r BBC."

Mae Cyngor Cynulleidfa Cymru, a sefydlwyd fel rhan o'r Siarter Frenhinol newydd, yn sicrhau bod barn gwylwyr a gwrandawyr y BBC yn cael eu clywed gan Ymddiriedolaeth y BBC. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae wedi cynnal cyfarfodydd ar gyfer gwylwyr, gwrandawyr a defnyddwyr gwasanaethau'r BBC mewn sawl rhan o Gymru ac wedi trosglwyddo'r sylwadau a glywyd ganddo i Ymddiriedolaeth y BBC yn ei ymatebion i'r amrywiol ymgynghoriadau a gynhaliwyd ganddo.

Fel dogfen hanesyddol, nid yw'r Arolwg yn cael ei diweddaru ar ôl ei chyhoeddi.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy