|
1958, 1971
Carwyn James 'Diacon y sedd gefn.' Arwr y cae rygbi a'r Eisteddfod Yn athro, darlithydd, gwleidydd, a chwaraewr rygbi, fe anwyd Carwyn James (1929 - 1983) yng Nghefneithin, Cwm Gwendraeth. Roedd ei ddawn ar y cae rygbi fel chwaraewr ac fel hyfforddwr yn fyd-enwog. Chwaraeodd dros Gymru ddwy waith yn 1958, ond ei foment fawr oedd hyfforddi tîm Llanelli i fuddugoliaeth yn erbyn Seland Newydd yn 1972. Yn Gymro diwylliedig iawn, ac yn un o garedigion mawr yr iaith Gymraeg, 'roedd yr un mor gyfforddus ar lwyfan yr Eisteddfod ag yr oedd ar y cae rygbi. Cafodd ei adnabod wrth ei enw cyntaf gan bawb, ac wrth i'r newyddion am ei farwolaeth ledu, daeth teyrngedau twymgalon iddo o bob cwr o'r byd.
Clipiau perthnasol:
O Diacon y Sedd Gefn darlledwyd yn gyntaf 04/12/1985
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i wylio clipiau BBC arlein.
|