Daw'r wybodaeth ar y dudalen hon o wefan Hanes BBC Cymru: Hanes y Gymraeg.

Beth yw tarddiad yr iaith Gymraeg?

Credir bod yr iaith Gymraeg yn deillio mor bell yn ôl â 4,000 o flynyddoedd. Gelwir iaith y bobl gyntaf i fyw yn Ewrop yn Indo-Ewropeaidd, ac o'r iaith honno yr esblygodd y mwyafrif o'r ieithoedd Ewropeaidd, gan gynnwys y Gymraeg.

Cyn dyfod yr Ymerodraeth Rufeinig, yr oedd ieithoedd Celtaidd yn cael eu siarad ar draws Ewrop. Mae hyn i'w weld heddiw mewn enwau llefydd: mae yna gysylltiad Celtaidd â thref Bala yn Nhwrci a dinas Llundain yn Lloegr, felly hefyd afonydd y Rhôn a'r Rhein.

Yr ieithoedd Celtaidd a oroesodd oedd y rhai a ymfudodd o dir mawr Ewrop i ynysoedd gorllewinol Prydain ac Iwerddon. Fe'i gelwid yn Ynysig er mwyn gwahaniaethu rhyngddynt â ieithoedd Cyfandir Ewrop. Fe ddatblygodd dwy gangen o'r Gelteg ar yr ynysoedd gorllewinol hyn. Goedeleg ddaeth yn brif iaith Iwerddon, Celteg Q, oherwydd y sŵn kw nodweddiadol, gan arwain at yr Wyddeleg, Gaeleg yr Alban a'r Fanaweg.

Yn ôl y rhan fwyaf o haneswyr daeth yr iaith Geltaidd i Brydain tua 600 CC. O'r fersiwn yma o'r Gelteg y tarddodd Y Frythoneg, a'r iaith yma esgorodd yn ei thro ar y Gymraeg, y Gernyweg a'r Llydaweg.

Am fwy am hanes cynnar yr iaith - cliciwch yma.

Pa effaith gafodd y Rhufeiniaid?

Erbyn tua 70 OC yr oedd Prydain i gyd, ag eithrio gogledd yr Alban, o dan reolaeth y Rhufeiniaid. Y Rhufeiniaid ddaeth ac ysgrifennu i'r ynysoedd hyn a dechreuodd geiriau o'r Lladin ymddangos yn yr iaith Frythoneg. Lladin oedd yr iaith swyddogol a'r Frythoneg oedd iaith bywyd bob dydd.

Mae'r geiriau Lladin a ddaeth yn rhan o eirfa'r Brythoniaid i'w gweld hyd heddiw. Roedd llawer o'r geiriau benthyg yn cyfeirio at yr hyn ddaeth gyda'r goncwest Rufeinig, megis pont' (o'r Lladin pons'), bresych (brassica), eglwys' (ecclesia').

Am fwy am hanes oes y Rhufeiniaid - cliciwch yma.

Cymraeg Cynnar ac Oes y beirdd

Erbyn yr wythfed ganrif yr oedd y Frythoneg wedi datblygu'n sawl iaith gwahanol, oedd yn cynnwys Cymraeg Cynnar. Dyma'r Oes Arwrol ac oes y beirdd Cymreig cynharaf. Mae'r Cynfeirdd, Aneirin a Taliesin, yn cael eu cydnabod fel awduron barddoniaeth Gymreig gynharaf. Aneirin oedd bardd y Gododdin - cerdd sy'n adrodd ymgais drychinebus llwyth y Gododdin, pobl o dde'r Alban sy'n siarad Cymbrieg, i gipio Catraeth yn Sir Efrog o ddwylo llwyth Almaenig tua 595 OC. Lladdwyd bron pob un o'r 300 aeth i'r frwydr. Yr oedd Aneirin ymhlith yr ychydig a oroesodd. Marwnad i'r ymladdwyr yw'r gerdd.

Am fwy am Y Gododdin a gwaith y Cynfeirdd, cliciwch yma.

Beth oedd arwyddocad codi Clawdd Offa ar ddiwedd yr wythfed ganrif?

Ar ôl codi Clawdd Offa y dechreuodd y Gymraeg gael statws swyddogol yn nheyrnasoedd Cymru. Yr oedd Clawdd Offa yn rhoi i Gymru ffiniau daearyddol ac roedd yn drobwynt yn hanes Prydain gan nodi'r ffin rhwng y Brythoniaid yn y gorllewin (sef Cymru heddiw) a'r llwythau Ellmynig yn y dwyrain (sef Lloegr heddiw).

Am fwy am y cyfnod hwn - cliciwch yma.

Beth oedd dylanwad cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn yr unfed ganrif ar bymtheg?

Wedi'r Diwygiad Protestannaidd, Saesneg oedd iaith gwasanaethau crefyddol, ond fe basiodd Elizabeth I ddeddf yn dweud bod rhaid cael cyfieithiad Cymraeg o'r Beibl ym mhob plwyf yng Nghymru. Roedd hi am weld cyfieithiad Cymraeg o'r Llyfr Gweddi Gyffredin a'r Beibl yn holl eglwysi Cymru erbyn 1567.

Cyfieithwyd y Testament Newydd i'r Gymraeg gyntaf gan William Salesbury yn 1567. Wedyn daeth cyfiethiad y Beibl cyfan gan yr Esgob William Morgan yn 1588. Bob Sul, a hynny gyda sêl bendith frenhinol, fe fyddai cynulleidfaoedd Cymraeg yn clywed Cymraeg urddasol. Roedd hyn yn gyfraniad aruthrol i sicrhau parhad yr iaith.

Am fwy am y cyfnod hwn - cliciwch yma.

Pryd y cyhoeddwyd y llyfr Cymraeg cyntaf?

Ym 1546 y cyhoeddwyd y llyfr Cymraeg cyntaf, sef Yn y lhyvr hwnn (sef y frawddeg gyntaf yn y llyfr) gan Syr John Price. Erbyn 1660 yr oedd 108 o lyfrau wedi'u cyhoeddi yn y Gymraeg.

I ddarllen am y 17eg a'r 18fed ganrif - cliciwch yma.

Beth oedd y Welsh Not a pam y'i defnyddiwyd yn ysgolion Cymru?

Darn o bren oedd y Welsh Not a gai ei roi i unrhyw blentyn fyddai'n cael ei glywed yn siarad Cymraeg yn yr ysgol, i'w drosglwyddo i'r nesaf fyddai'n siarad yr iaith. Ar ddiwedd y wers, y plentyn oedd â'r Welsh Not fyddai'n cael ei gosbi. Digwyddai hyn yn ysgolion Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ni fu erioed yn bolisi'r llywodraeth ond roedd rhai ysgolion yn ei ddefnyddio.

I ddarllen am yr iaith ac addysg yn y 19eg ganrif - cliciwch yma.

Beth oedd effaith y Chwyldro Diwydiannol ar yr iaith Gymraeg?

Dechreuodd pobl heidio i Gymru yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, gan wanhau safle'r Gymraeg yn ystod y 19eg ganrif a blynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif.

Ar y dechrau, Cymry oedd mwyafrif y gweithwyr oedd yn ymfudo i'r Cymoedd o rannau eraill o Gymru. Cymraeg fyddai iaith bob dydd gweithwyr y ffwrnesi a'r pyllau glo. Yr oedd rhai siaradwyr Saesneg yn eu plith, ond gan fod llawer o'u cydweithwyr yn siarad dim ond Cymraeg yr oedd y mewnfudwyr yn tueddu i ddysgu'r iaith.

Yn ystod y 19eg ganrif daeth mwy o bobl i'r wlad o'r tu allan. Gan mai Saesneg oedd yr unig iaith swyddogol yng Nghymru, doedd dim rheidrwydd ar y mewnfudwyr i siarad Cymraeg, er i rai ddysgu'r iaith am resymau ymarferol neu'r awydd i integreiddio.

Roedd twf y rheiffyrdd yn y cyfnod hefyd yn dod â phapurau newydd dyddiol Prydeinig i Gymru, a gwelwyd mai Saesneg oedd iaith cynnydd y cyfnod.

Dangosodd cyfrifiad 1911 fod y Gymraeg am y tro cyntaf ers tua 2000 o flynyddoedd yn iaith leiafrifol, yn cael ei siarad gan ddim ond 43.5% o'r boblogaeth.

Mwy am y Chwyldro Diwydiannol yn y 19eg ganrif - cliciwch yma.

Beth yw dylanwad Plaid Cymru, Saunders Lewis a Chymdeithas yr Iaith ar y Gymraeg?

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd roedd Cymru'n teimlo effaith dirwasgiad economaidd, ac roedd yr iaith Gymraeg yn dirywio. Ar y dechrau, pan sefydlwyd Plaid Cymru yn 1925 chafodd y Blaid fawr o sylw.

Ym 1936 aeth tri aelod blaenllaw, Saunders Lewis, D J Williams a Lewis Valentine, ati i losgi ysgol fomio y Llu Awyr ym Mhenyberth. Ar ôl dau achos llys, fe'u carcharwyd am naw mis.

Collodd Saunders Lewis ei swydd fel darlithydd ac ymddiswyddodd o lywyddiaeth Plaid Cymru.

Yn 1962 traddododd ddarlith 'Tynged yr Iaith' ar y radio, yn dweud y byddai'r Gymraeg farw oni byddai dulliau chwyldroadol yn cael eu defnyddio i'w hamddiffyn. Sbardunwyd nifer o bobl ifainc i ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a dechrau ymgyrchu am bethau fel arwyddion ffyrdd dwyieithog. Yn ystod y 1960au, y 70au a'r 80au carcharwyd cannoedd o gefnogwyr y Gymdeithas am dorri'r gyfraith gyda'u gweithredoedd uniongyrchol di-drais.

Mwy am y Gymraeg yn yr 20fed ganrif- cliciwch yma.

Pryd lansiwd S4C?

Lansiwyd S4C yn 1982, wedi i Gwynfor Evans gyhoeddi y byddai'n ymprydio hyd at farwolaeth oni byddai'r llywodraeth Geidwadol newydd yn cadw at yr addewid oedd yn ei maniffesto i sefydlu sianel Gymraeg annibynnol.

Pryd y sefydlwyd y Cynulliad Cenedlaethol a pha effaith gafodd hyn ar y Gymraeg?

Pleidleisiwyd o blaid y Cynulliad Cenedlaethol yn refferendwm 1997. Fe'i agorwyd yn swyddogol gan y Frenhines yn 1999. Trosglwyddwyd llawer o gyfrifoldebau'r Swyddfa Gymreig i'r Cynulliad, gan gynnwys addysg a'r celfyddydau, lle mae'r iaith yn fater amlwg.

Mae'r Gymraeg bellach yn iaith y llywodraeth yng Nghymru, ac mae'r Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn y Cynulliad Cenedlaethol, i'r graddau mae hynny'n ymarferol, yn holl fusnes y Cynulliad ac mae'r holl is-ddeddfwriaeth yn ddwyieithog.

Mwy am Ddatganoli a'r iaith - cliciwch yma.

Am hanes llawn yr iaith Gymraeg trwy'r Oesoedd, cliciwch ar y ffynonellau isod.

Gwefan BBC Cymru: Hanes y Gymraeg

Mwy am hanes y Gymraeg

Bwrdd yr Iaith Gymraeg (Mae'r wefan hon wedi ei harchifo.)

Wicipedia Cymraeg

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


Language help

This page is about the history of the Welsh language. For help with the Welsh, click on the BBC Vocab button above.

Geiriadur

Help / Cymorth

Tafodiaith

Dynion

Geiriau unigryw

Rhestrau o eiriau tafodieithol o bob rhan o Gymru.

Adnoddau

Bysellfwrdd

Ar-lein

Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.