Tafodiaith Môn

top
Arwydd Ynys Môn

Hen sgidiau blêr neu 'fflachod'? Geiriau ac ymadroddion anghyffredin am bethau cyffredin ar Ynys Môn.

Baw teiliwr: rhywbeth brau, disylwedd. Dywedir; "Mae o mor frau a baw teiliwr."
Briblins: rhywbeth mân. "Mae'r peth a pheth cyn faned â briblins."
Byw brân: Byw yn fain. Gorfod byw heb lawer o arian. Cymharer â'r dywediad, "Fe fyddai pwy a phwy fyw lle byddai brân yn llwgu."
Calpio: Rhedeg yn wyllt o gwmpas y lle. O'r Saesneg 'gallop' mae'n debyg. "Paid a chalpio'n wirion o gwmpas y lle ma hogyn."
Cancar: Ebychiad yn cyfateb i 'diawl'. "Be gancar ti'n wneud rŵan? Pwy gancar di hwnna?
Ceffyl benthyg: neu ceffyl menthyg, yn wir. Wrth ddisgrifio rhywun sy'n bwyta'n awchus dywedir ei fod, "Yn byta fel ceffyl menthyg." Hynny yw, yn gwneud yn fawr o gael rhywbeth o groen rhywun arall.
Clio: Tynged plant drwg. Hen long hwyliau wedi ei hangori ar y Fenai oedd y Clio ar gyfer dod â ieuenctid at eu coed. Y bygythiad fyddai, "Os na fyddi di'n byhafio mi fyddai'n dy anfon di i'r Clio." Cymharer â "Llys Berffro."
Dinad man: lle anghysbell, pell o bobman, ydi lle dinad man neu ddinab man.
Fflachod: esgidiau salw ond cyfforddus sy'n syrthio'n ddarnau. "Welsoch chi hi, doedd ganddi hi ond rhyw hen fflachod am i thraed?" neu "Mi wnaiff yr hen fflachod ma'n iawn jyst i bicio i'r siop."
Golchi: curo rhywun, rhoi andros o gweir i rywun. Hawdd fyddai camddeall, "Mae o'n golchi'i wraig bob nos, a'r plant a'r ci hefyd."
Hogyn (lluosog = hogia): bachgen. Ond mewn rhannau o'r sir gall y lluosog olygu cymysgedd o fechgyn a merched. Pan yw mam yn dweud fod ganddi lond tŷ o hogia ni ellir bod yn sicr mai dim ond bechgyn sydd ganddi. Hogan ydi'r ffurf fenywaidd a lluosog arferol hwnnw ydi gennod.
Ledi'r India: llwyn tri lliw ar ddeg (hydrangea).
Llyffanta: cerdded o gwmpas heb wisgo'n ddigonol mewn oerni. Go debyg ei fod yn arfer sydd wedi peidio â bod y dyddiau hyn o dwymo canolog ond ar un adeg, pan fyddai plant yn chwarae mewn llofft heb wres ynddi yn hytrach na swatio dan y dillad yn eu gwelyau, byddent yn cael gorchymyn i "beidio â llyffanta". Fe'i defnyddir oherwydd bod llyffant yn greadur naturiol oer, mae'n debyg. Awgrym arall yw mai llygriad o'r Saesneg 'flaunt' ydi o ond mae'r fersiwn llyffant yn cyfleu gwell darlun.
Llys Berffro: pen y daith i droseddwyr! "Yn Llys Berffro fyddi di ar dy ben." Cof gwlad mai yma yr oedd llys hen dywysogion Gwynedd ar un adeg. Cymharer â Clio.
Pegan: cael pegan yw cael eich twyllo; eich 'conio' yn iaith heddiw. "Mi gafodd o gythral o began yn prynu'r car yna."
Picadili: ffrinj gwallt.
Picio: Does yna neb ym Môn byth yn mynd i le'n byd, dim ond picio i bobman. Galwad sydyn ydi'r ystyr o gymharu ag ymweliad hirach. Jyst mynd a dod. "Mi rydw i am bicio i dŷ fy chwaer" neu "Dwi'n meddwl y piciai i Fangor i wneud 'chydig o siopio." Gwahoddiad fyddai; "Piciwch draw acw rhyw bnawn."
Pitar ulw: Yn ofnadwy. "Roedd o wedi gwylltio'n bitar ulw."
Rhesal: mae'n ddywediad cyffredin o weld rhywun tew i ddweud "fod eisiau codi'r rhesal arno fo." Y rhesal oedd math o gawell i ddal gwair ar bared cwt anifeiliaid a'r ffordd o'u cael i fwyta neu sglaffio llai oedd codi'r rhesal o'u cyrraedd.
Saesnes: pladur.
Sian dunnall: merch dew.
Taflu dagrau: yn bwrw ond ychydig ddafnau ysbeidiol o wlaw. "Rhyw daflu dagrau mae hi ond mi ddaw yn law trwm cyn diwedd pnawn."

Wats Llangefni: wats dda. "Mae'n cadw amser fel wats Llangefni."

Cyfrannwyd y sylwadau isod i wefan BBBC Lleol Gogledd Orllewin rhwng 2004 a 2008

John Arthur Owen o Langaffo
Mae gennyf gof y byddai mam a phobl o'i chenhedlaeth yn ardal Niwbwrch yn dweud y gair :'narith', a'r gair hwnnw cyn belled ac y gwn i yn golygu fod ganddynt 'rhyw syniad', megis a geir mewn brawddeg fel a ganlyn :"mae gennyf narith mai ef ddaeth i fyw gyntaf i'r ardal".

Tecwyn Owen - Niwbwrch gynt
"Gweld y Werddon"= wedi cynddeiriogi i'r fath raddau a neidio i fyny ac i lawr mor uchel fel y gellir gweld y Werddon, eto o Niwbwrch: "Haf bach Mari Pant" am "Haf bach Mihangel". Pan fyddai merched Niwbwrch wrthi yn brysur yn cynaeafa moresg ar gyfer gwneud matiau a basgedi ac ati, byddai Mari yn diogi gartre a phan rybuddid hi mai gwell fyddai iddi fynd at y moresg dyna yn wastad fyddai ei hymateb "Wel, fe ddaw ha' bach i Mari eto." Ei chartre oedd Y Pant."

Olwen o Fôn yn wreiddiol
Ydy'r gair fflaw - am splinter yn cael ei ddefnyddio tu allan i Fôn? Y Cofi dwi hefo fo ddim yn adnabod y gair o gwbl. Bydd Mam yn gwneud slapan - rhywbeth tebyg i deisan gri ond yn llond y badall ac yn bur drwchus, ei thorri yn ei hanner a rhoi menyn arni. Mmmm!

Elin o Landegfan
Twca - cyllell torri bara, styrgajo...byta lot o sothach.

Olwen Evans o Rhostryfan, cynt o Fôn
Galipiwirion am fadfall. Mwcog am rosehips. Byddaf yn defnyddio fflachod am hen sgidiau bler.

Ian Parri o Lanystumdwy
Na nid gair o Fôn yn unig ydi 'hulpan'. Defnyddir o hefyd yn Arfon, yn wrthgyferbyniad i'r gair 'jadan'. Golyga 'jadan' ferch gas, tra mai merch ffol ydi 'hulpan'. Mae 'sguthan' bron yn cael ei ystyried yn reg, ac mae'n golygu merch heb fawr o rinweddau iddi.

Wyn Owen o Amlwch
Bochjochio - stwffio sothach i'ch ceg fel pethau da ayyb. Byddai Mam yn dweud "Does dim rhyfedd bo chdi ddim yn llwglyd a chditha di bod yn bochjochio cyn dy fwyd!

Dafydd Williams o Arfon ( rwan!)
hogia - mae'n dod o'r bonyn 'hog', oedd yn golygu 'plentyn'. Un gwrywaidd yw Hog-yn, a'r un fenywaidd yw 'hog-en' ( > -an ), sy'n ddau derfyniad arferol i ddynodi rhyw, e.e. merlyn, merlen. Mae'r lluosog yn naturiol yn 'hogia(u)', sy'n golygu 'plant'.

Mae'r un gair yn 'hoglanciau', sef crymffastia ifanc. Môn sydd wedi cadw'r ffurf cywir, felly, gan fod 'hogiau' yn golygu 'plant' yn wreiddiol.

Ond mi fuo raid inni fynd un cam ymhellach, a sôn am hogia-genod! 'Chwiws' - 'gwybed', cler, 'piwiad' (yn Sir Gaernarfon). Does na fawr neb ochr y tir mawr i Afon Borth yn gwybod be ydy 'chwiws', ac yn sicr wyddan nhw ddim be ydy chwiwsan. Dilyn y gair hwn mae 'sgriwsan', hefyd, sef unigol 'sgriws'.

Anwen Evans o Fryngwran, Ynys Môn
Fydda nhad bob amser yn dweud 'hen hulpan wirion' os fyddai eisiau fy ngheryddu. Mae'n rhaid imi ddweud nad wyf wedi dod ar draws y gair hulpan mewn unrhyw beth swyddogol, felly dwi'n cymryd mai iaith Sir Fôn ydy o!

Cyfrannwyd y sylwadau uchod i wefan BBC Lleol Gogledd Orllewin rhwng 2004 a 2008.


Geiriadur

Help / Cymorth

Beth sy' mewn enw?

Aberteifi

Enwau lleoedd

Edrych ar rai o'r prif ddylanwadau ar enwau lleoedd Cymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.