Tafodiaith y de orllewin

top
Caerfyrddin

Rhestr o eiriau sy'n nodweddiadol i dde orllewin Cymru o Gaerfyrddin i Grymych, Llandysul i Rydaman.

Acha: ar. "Acha dydd Llun mae Lleisiau'n dechrau." Annibendod: blerwch. "Edrych ar yr annibendod 'ma." Becso: i boeni Bencyd neu Mencyd: Menthyg - to lend/borrow Bendramwnigol:popeth ben i waered Bigitan:cwympo mas/anghytuno Bita: cosi Bosh: sinc Blet sêr: meddw iawnBlino'n shwps: wedi blino llawer Brat: ffedog Brigot: brigyn, cangen bach, 'y derot yn canu ar y brigot' - yr aderyn yn canu ar y brigyn Bripsyn: tamaid bach Brochgau: marchogaeth Browlan: siarad fel pwll y môr Bwa'r Drindod: yr enfys Bwrw: taro rhywun. Gweler hefyd; clatshen, cliwten, colben, ffliwen, weret, whaden, whado Ca sgwâr: gwely. Mynd i'r ca' sgwâr - mynd i'r gwely Cachgi bwm: wasp i rai, bumble bee Cacs: cacennau Cadw dy bumps mas: cadw dy fysedd allan Caledu: eirio; gwneud dillad yn gynnes neu'n dwym. Crasu. Caledu crys. Os yw gwely yn galed nid yw'n golygu ei fod yn anghyfforddus o anghenraid ond yn eiri a chynnes Can: blawd / fflŵr Carcus: bod yn ofalus Ceintach: cwyno Cesel; ceser: cenllysg Cewyn: clwt babi Cernod: bwrw rhywun, bonclust Clatshen: taro rhywun ar ei wyneb. Peltan. Gweler hefyd; bwrw, clatshen, clwten, colben, ffliwen, weret, whaden Cleme: ffug bwysigrwydd. "Mae'n berson hyfryd, heb gleme o gwbl." Rhywun di-lol Cliwten:bwrw rhywun. Gweler hefyd; bwrw, clatshen, colben, ffliwen, weret, whaden. Cloi (yn gloi): Yn gyflym Clorwth: dyn neu fenyw fawr Cna: ffurf ar 'glanhau' yn enwedig y tŷ. Cnec:Chwalu / torri gwynt. Rhechen. Cnyw: ceffyl (hen air o Sir Gaerfyrddin) Coedo hi: [car] yn mynd yn gyflym iawn Coethan: cwympo Coglish: to tickle Colfen: coeden Colben: bwrw rhywun. Gweler hefyd; bwrw, clatshen, cliwten, ffliwen, weret, whaden. Comopo: rhoi stwr i rywun Conan:cwyno Cwato: cuddio Cwni: i godi o'r gwely / sefyll lan Cwtsio: cofleidio. "Dere cwtsh imi." Cymoni: tacluso Cyrcus: gofalus Dablen sêr: meddw iawn (hefyd gweler 'Blet sêr') Dal hâl: dal dig Danjerus: peryglus Dannod: edliw Danto: cael llond bola ar rywbeth. Derot:aderyn Diengyd:dianc Dim Clem: Dim syniad ar sut i wneud rhywbeth Dishgwl: edrych. "Dishgwl arno fe, dyna un pert." Dros ben llestri: "over the top" Dwbwl dapan: i wneud rhywbeth yn drafferthus Dwe: ddoe. Gweler hefyd Echdwe, echdoe. "Dw i ffili haru": dydw i ddim yn hoffi/ lico Dwymyn doben: clwy pennau. ('Mumps' yn Saesneg.) Dwyno: trochi, gwneud rhywbeth yn frwnt, e.e. "Paid dwyno dy ddillad newydd di!" Dyrsod: adar Echdwe: echdoe. Gweler hefyd, dwe - ddoe. Eibyn: Cyfarchiad: Hei bachan. "Eibyn, dere; ma." Ercyd: Cer i nôl. "Ercyd y shigidie 'na i mi." Erfyn:disgwyl Fale: afalau. Fel cyhuraeth: fel ysbryd Fflachgach: - dolur rhydd
Fel casgen:"bydda i fel casgen os wna wnaf i golli pwysau"
Fel twba: tew
Ffliwchan: bwrw eira.
Ffliwen: bwrw rhywun, taro rhywun, "rhoi ffliwen i rywun". Gweler hefyd; bwrw, clatshen, cliwten, colben, weret, whaden.
Galifantan: mynd am daith
Golwg Shibec: golwg welw
Golwg ddychwel: yn golygu fod golwg wan ar rywun
Gweud: dweud
Hwnco Mynco: hwnna draw fan 'na. "Honco mynco" - benywaidd!!
Ido: becso, poeni - "Soi'n ido"
Iweth: hefyd, weth.
Janglerins / Jinglarins:clustdlysau / pethau pert, bling
Jibet: menyw ffit, annymunol. hefyd "swigw", e.e. "Ma' honna'n riel hen swigw/jibet."
Lapswchan:cusanu
Losin: fferins, pethau da, sweets.
Llawn: disgwyl babi, beichiog.
Maldod:rhoi mwythau neu i 'sbwylio' rhywun.
Marced:marchnad
"Mae'n copri lan": Mae'r awyr yn tywyllu; mae'r dywediad hwn yn tarddu o'r amser pan oedd cymylau tywyll o fwg (o'r gweithfeydd copr) yn llygru'r awyr. Mae'r dywediad yn dal ar lafar i ddisgrifio'r tywydd.
Mela:cosi, cyffwrdd (ymhel â)
Moelad: "Mynd mas am foelad" - meddwi nes bo rhywun yn cwympo.
Moelyd: e.e. pan fyddo car â'i ben i waered
Moyn: Eisiau. Ymofyn. Sai'n moyn, dydw i ddim eisiau.
Mwlsyn: ffŵl.
Nished: cadach / hances boced
Oen swci: oen heb fam. Oen llywaeth
Oifad: nofio
Pacha: peidiwch â ... (ee. pacha wherthin - peidiwch â chwerthin!)
Panso: gwneud eich gorau. Cymryd amser dros rywbeth.
Pep / bach o bep: ishe / moyn mynd yn gynt
Pice, pics:cacennau.
Piffgwn / piffgwns / piffgwnen: Wasps a wasp
Popty ping:Meicrodon.
Pwdel: pwll o ddŵr brwnt.
Raca:cribyn wair.
Rhofio: palu
Rhud:hiccups Rhwto mâs: Dileu
Sai'n: Dydw i ddim, Sai'n moyn.
'Sgaldanu: llosgi
Sgleish:rhaw fechan
Sgrwps: madarch, myshrŵms.
Shiglo: i ysgwyd
Shigwdad: angen ysgwyd rhywun ar ddihun
Shimpil: golwg anniben, di rân
Shive lo: gogr glo.
Shwblachad: gwneud rhywbeth yn anniben. "Paid â shwblachad y dillad gore 'na.".
Siwrne:rhyw dro, neu yn gynt.
Smitw: Ynysmeudwy
Swmpo: codi rhywbeth trwm
Taclu: gwisgo
Taffen / Taffish: toffi / losin
Tampan: crac / blin iawn
Tato: tatws
Tegyl: tecell / tegell
Ti'n ecer:rwyt ti'n egr neu arw.
Toc: tost a thê
Toethan: dadlau.
Topi: pan bo anifail yn troi rhywun neu rywbeth drosodd.
Tryste: taranau.
Tychan: rwydro am anadl.
Tyle: allt / rhiw
Wben: llefain
Weret: bwrw rhywun, taro rhywun, "rhoi weret i rywun". Gweler hefyd; bwrw, clatshen, cliwten, colben, ffliwen, whaden.
Whaden: bwrw rhywun. Gweler hefyd; bwrw, clatshen, cliwten, colben, ffliwen, weret,
We(dd): oedd
Wedi ffwndo: wedi blino
Wejen / Sboner: cariad benywaidd/ gwrywaidd
Wes:oes
Weth: hefyd. Ac Iweth.
Whado: taro, bwrw rhywun. Gweler bwrw. Gall hefyd olygu "to beat" er enghraifft wrth goginio -"wado'r gymysgedd." Hefyd gall "wada bant" olygu "get on with it".
Waff: yn gyflym
Whilio: chwilio
Wilia: siarad
Wilibowan: gwneud dim o bwys
Whilibowan: troi yn ei unfan pan ddylid fynd ati i wneud rhywbeth
Wilmentan: chwlio. Gogledd, stwna
Wmed: wyneb.
Wncw mwncw / wnco mynco: Ef neu hi fan draw.
Wmolch: ymolchi.
Wpo: gwthio
Wys: fy ngwas i
Yfol:araf
Yn y man: cyn bo hir

Cyfrannwyd y sylwadau isod i wefan BBC Lleol y de orllewin rhwng 2004 a 2009

Arwyn Gittins, Salmon Arm, Canada
clecs - gossip, cario clecs - gossip monger, potch, potchan potch: tato wedi ei rhwygo

Bethan James o Felingwm Uchaf
Roedd mamgu fy nghŵr bob amser yn galw moron yn 'garetsh!'

Siw o Landeilo'n wreiddiol
Oes unrhywun yn gwbod ystyr i'r gair "Ffos" heblaw am gwter? Ydy e'n gallu meddwl Ffynnon hefyd?
Roedd "rwto mas" yn meddwl cael gwared o rhywbeth. Er enghraifft "dw i wedi cael staen ar fy nghot, gwell i fi rwto fe mas 'da clwtyn." Diddorol i weld "swmpo" yn meddwl i godi rhywbeth trwm. Dw i wastad wedi clywed ei ddefnyddio yn yr ystyr "i deimlo am rhywbeth gyda'ch dwylo". Hefyd beth am "golwg sha nôl" i feddwl rhywun yn edrych yn anniben neu welw. Roedd "tocyn" wastad yn golygu bara menyn i fi fel plentyn.

Deric gynt o Bontardulais
tapini - ta beth am hynny ("simo i'n mynd 'na tapini'")
wnco mynco - hwn acw man acw
onco mynco = hon acw man acw
shgwla - disgwylia' / edrycha - "shgwla ar onco mynco"
wilia - chwedleua - beth i ti'n wilia amboitu? 'hefyd' beth i ti'n wilia boitu'

Guto Prys o Ddyffryn Ceidrych, Llangadog
ansh - cnoiad
briwa - difa
bwlffacan - chwarae am bwyti (o boutu)
benni - gorffen
briwlan - pigo glaw
clatshen / colbo / crasu - dyrnod
clymhercan - cloffi
clopawelpedd - bratiog
clapian - cario clecs
coedo - mynd yn gyflym
cleren - slap
clyndarddan - swn mawr
clandariwns - bob-siap
colbocs - meddw gaib
ceit - twpsyn
dwyno - baeddu
ffusto - ennill
gwhwrad - gweryru
hercyd - mofyn
hwpo - gwthio
hŵre (acen ar yr w)/hwde - cymer
jengyd - dianc
jycos (acen ar yr o) - smala
jibets - yfflon
llech - person araf
llibyn - person lletchwith
myntwn i /mynte fe - meddwn i/ meddai ef
net - rhywbeth yn dda (ti'n gwybod 'na yn net)
oifad - nofio
penwan - crac / blin iawn
pledo - dadlau
pletu - plygu
pilso - dweud y drefn
rhwto - rhwbio
rhacs jibiders - yfflon
shabwcho - chwarae rhywiol
saco - rhoi
shwblachan - creu annibendod
snwchian - cusanu
shwc - jwg cario llaeth
shihoedan - galafantio
soga - menyw salw
tolach - maldod
trochi - baeddu
twmbarddan - creu annibendod
trangwls - rybish
whilmentan - chwarae am bwyti
wap - yn fuan
wado - taro/trechu
whilgryt - crwtyn drwg
wompen - mawr iawn
ymbo - nid wyf yn gwybod
ymbach - ychydig
ynta - bydde ni feddwl / siŵr o fod

Catrin Miles o Aberteifi
Nhad (yn enedigol o Gwm Gwaun, Sir Benfro) a adroddai'r rhigwm hwn am fysedd y dwylo, gan ddechrau 'da'r bys bawd:
"Twm tabwt, Beni lwdwt, Beni- Beni Cefnder i ni Bys bach truan gŵr, tynnu drain trwy'r dŵr, helpu Mam i facsu". Unrhyw un yn gyfarwydd a hwn?

Cerith Jones o Gwmgors (gwreiddiau yn y Waun)
Wpo - i ddodi
Cwni - i godi
Taclu - i wisgo
Oifad - i nofio
Taffis - melysion; losin
Acha - ar e.e. acha Ddydd Llun = on Monday
Colfen - coeden
Maldod - i rhoi 'fuss'
carcus - gofalus
coglish - goglais
Jinglarings - pethau pert
Ito - poeni e.e. sai'n ito - dwi ddim yn poeni
Dannedd Dodi - dannedd gosod

Marian o Gwmgors gynt
swmpo - codi er mwyn cael amcan o'r pwysau
fflwcs - pethau mân diwerth
delwi - sefyll yn stond yn yr unfan a'ch meddwl yn bell i ffwrdd
llwy gawl - llwy fawr / llwy fwrdd

Geraint (teulu o Benbre)
Atgofion am fy mamgu a tadcu:
Wi'n bregethan... - gofyn a gofyn (pregethu)
palodi'r ardd - palu'r ardd
ffwrcho'r dom - fforchio'r gwrtaith yn yr ardd
tano'r dryll dwblen - saethu'r gwn double barrel
catren - cartridge shot
ma'fe wedi trigo - wedi marw
Paid ti a warebiti a brigibowtan - chwarae o gwmpas a gwastraffu amser
cloffen gaws - brechdan gaws
sarnu clocsie" - maeddu esgidiau
sponer glandeg" - cariad smart

Gwawr , Rhydlewis
Bogel - botwm bol.
Woblyn - swigod yn y bath.

Helen - â gwreiddiau yn Resolfen
Ffowlyn - cyw iâr
Siarad fel y nant - siarad yn ddi-stop

Ian Jenkins o Abergwaun
moddion / moddion tŷ = dodrefn

Margaret, Tyddewi
'damshel ar' - sefyll ar
mae'n towlu (sef taflu) 'tân a trwsto' - disgrifio storm mellt a tharannau

Margaret Morris, Caerfyrddin
Mathor- shrew
dwlod - loft
cordyn ceit - rhywun tenau iawn

Eilir Owen gynt o Ystradgynlais
Fflwcs: bwydydd nad ydynt yn rhai iach
Taffish: losin yn gyffredinol, nid dim ond toffi
Piner: ffedog
Dwffod y golau: troi'r golau bant
Dannedd doti: dannedd gosod

Philip o Gaerfyrddin yn wreiddiol
Beth am y gair "rhynt" (neu o bosib "rynt") am 'rhwng', e.e "Mae Steven Jones yn cicio'r bél rhynt y pyst"

John, gynt o Godre'r Graig
erfyn - disgwyl
waff = yn gyflym
wys = fy ngwas i
Smitw = Ynysmeudwy
mae'n copri lan = mae'r awyr yn tywyllu; mae'r dywediad hwn yn tarddu o'r amser pan oedd cymylau tywyll o fwg (o'r gweithfeydd copr)yn llygru'r awyr. Mae'r dywediad yn dal ar lafar i ddisgrifio'r tywydd.

Dewi Owen o Glydach, Abertawe
Cwmpo ("Koom-Poh") - i ddisgyn, i fynd lawr yn sydyn heb rhoelaeth
Fisi ("Vee-Shee") = Prysur, llawer i wneud
Cwpla ("Koo-Plah!") = Gorffen, i gwbwlhau.

Gareth Rhys Williams o Cwmtawe Uchaf
'Wp tip cart lawr cwm' - rhwbeth meddodd fy hen Famgu o Sir Gâr. Am rhwbeth yn cwmpo a pethe yn mynd bobman. Sain siwr os di e dal yn gal eu weud ne beido.

Kay o Aberhonddu
Dwi'n dod yn wreiddiol o Gaerfyrddin, wedi bod yn byw yn Caerdydd a Dinbych y Pysgod hefyd. Mam wastad yn deud 'Awech' yn lle ieir am rhyw rheswm.

Aneirin Karadog, Abertawe
Simo i - Dydw i ddim

Sharon Dawson gynt o Sir Gaerfyrddin
Rhacs jibiders - rhywbeth wedi'i rwygo/chwalu yn ddarnau bach.
Bo bop - wedi gorffen (defnyddir pan yn siarad a babi neu blentyn ifanc iawn)
Cwpla - gorffen/cwblhau

Alan Richards o Bontarddulais
mae hi'n ufol - person sy' ddim yn cynhyrfu
motriwilen - budrchwilen, madfall
motriwilen glust - chwilenglust
myslaw - maes o law
fel sgimren fel rodni - person anniben
lardad - cweir, curfa
ware bêr

Peter Evans o Landysul
Croen ei din/ei thin ar ei dalcen/ei thalcen - dim hwyl ar y person
Dim bagal tano - methu sefyll
sothach - ee bwyta sothach/bwyta sbwriel
siarad lwtsh - siarad dwli/di-werth
Llaeth y fuwch ddu - stout (clywais gan hen ddyn o Gastell Newydd Emlyn)

Margaret Evans - yn wreiddiol o Llansamlet
Defnyddiai fy mamgu ag aelodau fy nheulu y geiriau canlynol: Sgelet am sosban, tecilter am tecyll, y beili oedd yr ardal o gwmpas y tŷ, Colfen am goeden, a chofiaf mamgu yn cyfeirio ataf fel 'sgenes' a oedd yn golygu geneth am wn i.

Sian Thomas o Alltwalis
Pwde - pwdu, ystyfnig neu anodd eich trin

Mair - Cwm Gwendraeth
Ido - becso, poeni - "Sai'n ido": Mae rhywbeth eitha heriog am yr ymadrodd, allen i feddwl taw o 'hidio' mae e'n dod.

Rhian ger Llanelli
Fel twba - tew

Deufryn Edwards, Llandysul
Cachgi bwm - wasp

Mathew Hywel, Llansaint
Dal hâl - dal dig
Mela - cosi, cyffwrdd (ymhel â)
Cernod - bwrw rhywun, bonclust
'Sgaldanu - llosgi
Dannod - edliw

Angharad o Sir Benfro
"Dw i ffili haru" - dydw i ddim yn hoffi/lico

Richard Hodges, Cwmtwrch
Clywais hon wrth my mamgu - disgrifiad o rywun sydd wedi newid ei acen er mwyn swyno'n fwy posh: "Wedi mynd i Lundain ac anghofio sut i ddweud Buwch."

Gareth o Gastellnedd (ond â'm calon yn y Gorllewin)
Beth am y rhain?
Dawnshgyl - sathru dan draed, "trample"
Toc - tost a thê
Brat - ffedog
Cnyw - ceffyl (hen air o Sir Gaerfyrddin)
Oifad - nofio

Cerys o Rydaman
bosh - sinc
pacha - peidiwch â ... (ee. pacha wherthin = peidiwch chwerthin!)

Huw Evans o Gastell Newydd Emlyn
Dwyno - trochi, gwneud rhywbeth yn frwnt, e.e. "Paid dwyno dy ddillad newydd di!"
Jibet - menyw ffit, annymunol. hefyd "swigw", e.e. "Ma' honna'n riel hen swigw/jibet."

Dafydd o Sir Benfro yn wreiddiol
Whilibowan - troi yn ei unfan pan ddylid fynd ati i wneud rhywbeth
Dim Clem - Dim syniad ar sut i wneud RHYWBETH - Defnyddir yn aml ar Bobol y Cwm yn anghywir yn fy marn i sef am rywun ddim yn gwybod rhywbeth, tra heb y gallu i wneud rhywbeth ddylai fod.

Rhys o Ystalyfera
Brigot - brigyn, cangen bach, "branch"- y derot yn canu ar y brigot- yr aderyn yn canu ar y brigyn.

Mari o Gaerfyrddin
Cyrcus - gofalus

Alex Jones o Ben-y-groes ger Crosshands
Bencyd neu Mencyd - Menthyg - to lend/borrow. Ma nifer o fy nheulu yn dweud y gair.

Gwenda gynt o Frynaman
Golwg ddychwel - yn golygu fod golwg wan ar rywun.
Cadw dy bumps mas - cadw dy fysedd allan.
Yfol - araf.
Fel cyhuraeth - fel ysbryd.
Dwbwl dapan - i wneud rhywbeth yn drafferthus.

James a Mared
Danjerus - peryglus

Catherine o Lanelli
Swmpo - codi rhywbeth trwm

Lowri Thomas, Cwm Gwendraeth
Golwg shibec - golwg welw.
Shimpil - golwg anniben, di-rân.
Tyle - allt/rhiw.

Eleri o Tyddewi
Blino swps - wedi blino llawer,
Wedi ffwndo - Wedi blino,
Dros ben llestri - "over the top"
Bendramwnigol - "everything upside down"
yn y fan - cyn bo hir;
becso - i boeni

Dewi Owen o Glydach, Abertawe
Wpo - Gwthio, (Gwrthwyneb o dynnu),
Shiglo - "to shake" yn Saesneg
Cwni = i godi o'r gwely/sefyll lan

Llinos o Landysul
Bigitan - cwympo mas / anghytuno. Bripsyn - tamaid bach. Browlan - siarad fel pwll y môr. Carcus - bod yn ofalus. Clorwth - dyn neu fenwy fawr, lletchwith. Coglish - to tickle. Comopo - rhoi stwr i rhywun. Danto - cael llond bola ar rhywbeth. Galifantan - mynd am daith. Lapswchan - cusanu. Panso - gwneud eich gorau. Shigwdad - angen ysgwyd rhywun ar ddihun. Tampan - crac iawn. Wejen / sboner - cariad benywaidd / gwrywaidd. Rhug - hiccups.

Nia Jenkins, Eglwyswrw
Mae pobol ffor' Crymych yn iwso "janglerins" yn lle clystlysau.

Bethan o Dreforys
Taclu - gwisgo.

Siân Roberts (o Bencader yn wreiddiol)
dyrsod - mwy nag un aderyn.

Lisa - yn wreiddiol o Lanelli
Ma "w(h)ado" hefyd yn gallu golygu "to beat" - rodd mam-gu yn ei ddefnyddio wrth neud cêcs, felly rodd hi'n gweud bo ishe "wado'r gymysgedd", ond odd hi hefyd yn dweud "wada bant" gan feddwl "pala mlân" "get on with it".

Cyfrannwyd y sylwadau uchod i wefan BBC Lleol y de orllewin rhwng 2004 a 2009


Geiriadur

Help / Cymorth

Beth sy' mewn enw?

Aberteifi

Enwau lleoedd

Edrych ar rai o'r prif ddylanwadau ar enwau lleoedd Cymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.