Tafodiaith y canolbarth

top
Cerdded ger y môr yn Aberystwyth

Rhestr o eiriau sy'n nodweddiadol i Geredigion a Phowys. O Aberteifi i Fachynlleth, y Drenewydd i Dregaron.

Altro - newid
Bachan - bachgen
Bagio - sefyll ar rywbeth
Bech - bach
Bêt - tamaid o fwyd
Bigitan - poeni / bod yn boendod
Bigits - digs, fel yn 'gad dy figits'
Blaid - beudy
Blino'n swps - blino'n lân / wedi ymlâdd
Bobi un / Bobo un - un yr un
Bracso - trio rhywfodd rhywfodd fel yn 'bracso drwyddi'
Brat - ffedog
Bubus / Bibis - "mae'r babi yn fubus - llefain o hyd"; cwynfanllyd
Browlan - siarad / hel clecs
Browlan fel cawl pys / fel ffatri bupur - siarad yn ddi-stop
Byti/ bythti - bron
cacs - cacennau
Cachgu bwm - bumble bee
Ca' sgwâr - gwely
Ca' nos - gwely
Cerbyd - car
Cered - cerdded
Cial - cael
Cieth - cath
Cinebêns - kidney beans
Clatsho - ymladd
Cleme - gwneud cleme (neud siapse)
Clemio - Eisiau bwyd yn ofnadwy (rwy' biti clemio")
Clipsen - bonclust
Clotchen - "turf"
'Clowt / clowten / clowts - clatshen / "gei di gwpwl o glowts os na watchi di"!
Clwbin - rhywun sy'n dwp
Clwtyn - cadach/ lliain/ 'cloth' - clwtyn golchi llestri / clwtyn sychu llestri / clwtyn llawr
Cog, cogie - bachgen, bechgyn
Conan - cwyno
Conen - menyw sy'n cwyno'n gyson
Cosi - crafu
Crasfa - ffeit
Cusus - losin
Cwato- cuddio
Cwdyn plastig - bag plastig
Cwter - ffos
Danto - cael llond bol / rhoi fyny
Deche - yn iawn, cymeradwy (job ddeche, bachgen deche; lle deche)
Dim llefeleth - dim syniad
Drib drab neu dribs a drabs - bob yn dipyn (mae'r pethe'n dod drib drab)
Drotshen - math o glawdd
'Drycha - yn lle edrycha
Dwgyn/ dwgyd - to steal
Dwyno - to dirty
Feddw whîls / Feddw gocls - yn feddw gocls
Fel Crafu - poendod
Fel heddi a fory - yn araf
Whit wat - di ddal
Fel soga - fel 'drip', fel llipryn
Ffald - rhywbeth tebyg i 'clos' ee fferm
Ffardel - parsel bach o rywbeth neis
Ffest - cyflym
Ffili - methu
Fflŵr - blawd pobi. (Blawd = bwyd anifail)
Ffyle - ceffylau
Garetch - moron
Garetshin / carotsen - moronen
Geneth - merch
Gepian - dylyfu gên
Glei - ydw glei
Grefi - Grêfi
Gwenwyno - cwyno
Gwenwn - hwyliau gwael, hynny yw "ma gwenwn ar rywun'"
Gwenwnllyd - i fod â gwenwn
Gwenwngast - merch gwynfanllyd
Harin - casau
Harten - cael sioc
Heddiw - fel ag yn "Heddiw'r bore" / "Heddiw'r pnawn" yn hytrach na bore heddiw, pnawn heddiw. "Mi awn ni yno fory'r bore."
Hemad - bwrw rhywun
Hen gogie - llafnau ifainc
Hen Sgrafell - dynes annifyr
Hongian, shilts - wedi meddwi yn ofnadwy
Hwnco Fynco - hwnna draw fan yna
Iet - clwyd neu giat
Iou - iau / ifancach ("mae hi'n iou na fe" - mae hi yn ifancach nag e)
Jiawl - diawl
Jibinc - menyw wedi gwisgo'n smart
Jibs/ Shapse - gwneud stumiau, yn enwedig plentyn bach
Lapan - hel clecs. "Mae lap arni" (mae'r ddynes yn un am hel clecs.
Lib-lab - yn ddibaid. "Mae'n siarad lib-lab."
Lletwad - 'ladle'
Llywethyr - darn o gorden i atal dafad rhag mynd yn rhy gyflym oddi wrth yr oen
Lodes- merch
Macyn poced - hances boced
Matryd - Newid o ddillad dydd i ddillad nos i fynd i'r gwely
Mentyg / mencyd - benthyg
Moelyd neu Moilyd - troi drosodd, hynny yw 'moelyd y car'
Molead - meddwad
Mofyn - eisiau, ymofyn. "Mae'n moyn cweir."
Moyn - 'to fetch'
Mor dwp â stêm yn dwp iawn.
'Mroi - neud rhywbeth ar bwrpas
Mynd i'r cyhudd - mynd i gysgod yr haul
Myntei - medde hi
Panni - Pan fydd dilledyn gwlân wedi colli siâp
Panso - trio'n galed
Piffgwn / piffgwnen - picwn
Pinco - ymbincio / coluro
Pipo - edrych
Pipo glaw - glaw mân
Pipo yn y glass - edrych yn y drych
Pisho gwneud dŵr
Prifio - tyfu
Propor - tlws derbyniol (lodes bropor; mae'n edrych yn bropor)
Pwdel - mwd
Rip-rap - yr un peth na'r llall. Chwit chwat.
Rowtiau - olion olwyn cert
Rwto mâs -chwilio am rywbeth / dod o hyd i rywbeth. "Rwy wedi rwto fe mâs.
Sarnu - dau ystyr 1) amharu ar neu sbwylio rhywbeth hynny yw 'sarnu'r nosweth' 2) bwrw rhywbeth drosodd fel yn 'sarnu llaeth ar y carped'
Sbriws - bywiog
Sbrogian - 'to rummage'
Scrwb - pam mae'r cyhyrau yn dost ar ôl gwneud rhywfaint o ymarfer corff.
Sgiffin- haen denau o eira
Shiffalaffs - tato 'di ffrio (hynny yw gweddillion cinio dydd Sul i swper)
Shirobyn - aderyn (Roedd e'n dipyn o shirobyn = tipyn o dderyn)
Sidêt - ychydig bach yn well na'i gilydd
Sidro - ystyried (o cysidro)
Sietin - gwrych
Socsen dau ystyr, 1) hosan 2) 'taro' hynny yw "rhoi socsen i rywun"
Swclyn - Ebol
Swigw - Dynes gas
Swîts - losin
Switsen - un losiynen
Swmpo - e.e. 'Ma'n rhaid swmpo cad'er buwch cyn ei phrynu'
Stingoedd - gwrychoedd
Syco - rhoi
Sycar - anifail sy'n sugno
Syri - mewn cyfarchiad, "Sut mae hi Syri?"
Tacle - bois drwg
Tato - tatws
Tecil - tegell
Têd - tad
Tên - tân
Tew fel mwt - yn dew iawn
Trangwls - rhyw bethau sy'n hongian (yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r hyn sydd gan ddyn hefyd!)
Trigo - wedi marw
Tropas - huddygl (soot)
Twei-twei-twei (galw gwartheg) - cyfraniad gan Rosemary Tudor o Aberystwyth.
uffernol - ofnadwy
wado - bwrw
Wap - yn y man - "fyddai 'na wap"
Wban - llefain
Wedi 'laru - wedi cael llond bol
Wel y myn yffarn i! - Wel y jiw jiw!
Wes - oes
Whelpen - to whollop
Wheret / hergwd/wad - taro
Whilber - berfa
Whilibowan - 'to dilly dally'
Whitho - chwitho
'Whys drabŵd/'whys domen/ whys diferu / 'whys stecs - chwyslyd iawn
Wiced - giât fach, llidiart.
Wmed - wyneb
Wtra - ffordd gul

Cyfrannwyd y sylwadau isod i wefan BBC Lleol y Canolbarth rhwng 2004 a 2009

Rhodri Lewis o Ddyffryn Aeron
...yr yffarn, e.e "golwg yr yffarn" - edrych yn wael.

Robert Lewis gynt o Rhaeadr Gwy
Wnt - twrch daear, Sgythyn -haenan o eira

Tecwyn Owen, Dolgellau - gynt o Sir Fôn
Cymydog yn galw yng nghartre fy mhriod (Eurwen Glynaeron, Talsarn)yn Nyffryn Aeron ac wrth iddo ymadael yn hwyr y nos yn edrych yn syn arnaf wrth imi ei ddanfon at y drws ac wrth ffarwelio yn dweud "Wel, hwre rwan". Yr oedd yn amlwg nad oedd yn gyfarwydd â'r modd yma o ffarwelio!Cofiaf hefyd fod perthynas o bell i'm priod wrth fy nhyfarch yn fuan iawn wedi i mi briodi ac yn dymuno'n dda imi gyda'r geiriau "Priodas dda ichi a llawer ohonyn nhw"!!

Glenys Morgan, Penrhyncoch
Tatws: "Tatw" yn ardal Tregaron. "Tato" yn ardal Llanbed - 12 milltir rhyngddynt!!

Brynach Parri, Tregynter, Brycheiniog
Cwro - gwneud, paratoi: cwro bwyd i rywun, cwro'r gwely. Sglemo: cath yn dwyn bwyd o'r ford - Odi'ch cath chi'n sglemo?

Wyn Davies o Langynnwr
Gair gan mam sy'n byw yn Nyffryn Aeron: 'Clambar' - "mae'n ormod o glambar" - sef yn rhy fawr.

Joyce Magor nawr o Lundain
Saeson yn aros dros nos yn nhŷ fy ewyrth Alcwyn. Dim ond fe oedd yn y tŷ a dim rhyw lawer o siap arno. Rhoi cwpaned o de i'r ymwelwyr a anghofio y llwye a dweud "To turn your tea with" a rhoi strainer blawd i gael gwared ar y dail te. Bill Bailey oedd yr enw ar y rhain ar dop y cwpan. Roedd na ddyn yn byw yn y pentre o'r enw ac yr oedd ganddo globen o fwstash!"

Gwyneth o Landysul
'Panso' - cymeryd gofal i wneud rhywbeth. 'Cleren/clatshen jub' - pwdi. 'Cwato' - chwarae cuddio, 'cinabens' - runner beans, 'bigitian' - poeni yn ddi-ddiwedd, 'clwtyn llestri/llawr' - cloth, 'aeth yn ei hyd' - cwympo, 'moyn' - yn eisiau rhywbeth.

G. Price o Lanwrtyd
'Hyd y twret' - llawn i'r top. 'Hyd y styden' - wedi meddwi'n gaib.

Gwyneth o Landysul
'yn feddw shils', 'trontol' - dolen cwpan neu jwg, 'lletwad' - llwy i godi cawl, 'bracso' - rhoi traed yn nŵr y môr.

Lynwen Roberts, Llangadfan
"Ceth fech les yn y glew!"

Beryl Davies, Llanddewi Brefi
'Roedd Tad-cu Cwrt-Y-Cadno yn saer coed ar ystâd Dolaucothi, a Syr Hills Lloyd Johnes yn gofyn iddo, "What happened to your hand William?" Gallwch ddychmygu beth oedd cyfieithiad tad-cu am CACHGU BWM (yn ôl ei gydweithwyr) pan atebodd - "A Boom S--t pricked me Sir!"

Delyth, yn wreiddiol o Rhydlewis
'Sdim ots' - dim bwys.

Glenys Evans o Fydroilyn
'Swch' - y rhan o'r wyneb o gwmpas y geg a'r ên. Byddai Mam wastad yn dweud "Sych dy swch!"

Aled Jones o Benrhiw-Pâl
'sgyrnigo' - to winge, 'waildamsgen' - i droedio ar rywbeth, 'tishal' - i disian, 'chimo' - 'chi'n gwybod' 'clime' - 'cleme', 'gwneud ystumiau', 'mynd yn fagle i gyd' - mynd â'i wynt yn ei ddwrn , 'yn feddw caib', 'yn dablen (c)hwil','yn gorlacs', 'yn shils', 'yn gaib', 'yn feddw dwll glatsh'

Catrin Jones o Bwlch Llan
Roedden ni fel teulu yn dweud matryd neu matri am newid cyn mynd i'r gwely!

Ffion o Lambed
Gair i fi wastad yn defnyddio yw "stecs" -hynny yw, "yn lib stecs" (yn wlyb stecs - soaking wet)!

Mererid Williams o Dalybont
Dwi a fy nheulu yn defnyddio'r gair "moyn" gan feddwl "eisiau", yn ogystal a "fetch". h.y "fi rili moyn y ffrog 'na".

Lowri Jones o Synod
'Mynd yn i hyd' - rhywyn yn cwympo, 'hyd y twret' - bod rhywbeth yn llawn i'r top.

Natalie Moore o Lambed
'Twmo' sy'n fyr am 'ti'n gwbod'!
'Sai Mo' am 'Dw i ddim yn gwybod'!

John Davies, nawr o Gaerdydd
Ar Fynydd Bach, y gair am wasp yw piffgu

Dafydd Lewis o Aberystwyth ond yn wreiddiol o Ddyffryn Banw yn Sir Drefaldwyn
Ein gair ni am 'bet' oedd baet. Hefyd roedd gennym air am fodryb sef 'Bodo.' 'Ffebrins' wedyn oedd ein gair am Eirin Mair.

Elin yn wreiddiol o Geredigion
'Matryd' - newid i fynd i'r gwely, hynny yw newid i ddillad nos o ddillad dydd. Dw i ddim wedi clywed neb heblaw am fy nheulu yn ei ddefnyddio erioed!

Iwan Llywelyn o Aberaeron
'Pipo glan' - Glaw man

Yvonne o Geredigion
'Pipo yn y glass' - edrych yn y drych.

Garmon Ceiro o Dole, Bowstreet
'Harin' - casau

Elin o ddyffryn Aeron
'Garlibwns' - 'cwmpo yn garlibwns' yw 'syrthio bendramwnwgl'; 'ffrwcs' - e.e. mae lot o ffrwcs ar dy ddillad di (darnau o fflwff etc)

Wini Davies, Aberystwyth
De Meirionnydd: 'prifio' am tyfu ("mae'r cog bech wedi prifio'n ofnadwy"). Byddai nain (o Lanwrin ger Machynlleth) yn dweud 'macyn poced' am hances boced a 'moyn' am fetch. Geirau dwi ddim wedi eu clywed ers blynyddoedd ydy 'bagio' (sefyll ar rywbeth) a 'sbrogian' ('rummage'). Dwi ddim yn gwybod ble clywais i'r geirau yna gyntaf gan fy mod wedi byw yn Llanfairfechan, Llanarmon (ger Pwllheli) a Harlech dros y blynyddoedd, cyn symud yma.

N. Jones
'Ffardel' - parsel bach o rhywbeth neis; 'Hen Sgrafell' - menyw annifyr; 'Roedd e'n dipyn o shirobyn' - tipyn o dderyn; 'Mynd i'r cyhudd' - mynd i gysgod yr haul; 'Cusus' - losin; 'Plentyn yn fubus' - yn llefain o hyd; 'Llywethyr' - darn o gorden i atal dafad rhag mynd yn rhy gloi oddi wrth yr oen; 'Trangwls' - rhyw bethau sy'n hongian - yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r hyn sydd gan ddyn hefyd!; 'Dim llefeleth' - dim syniad.

Tom Thirgood o Dal y Bont ar Wysg
'Clwbin' - rhywun sy'n dwp.

Eluned o Dregaron
'Swigw' - Menyw gas, 'Swclyn' - Ebol, 'Clotchen' - "turf", 'Fel heddi a fory' - yn araf, 'Fel soga' - fel "drip", 'Panni' - Pan fydd dilledyn gwlân wedi mynd mas o shâp, 'Clemio' - eisiau bwyd yn ofnadwy.

Hal o Ledrod
'wado' - bwrw, 'clatsho' - ymladd, 'cered' - cerdded, 'syco' - rhoi.

Ieuan Evans o Gwm Cou
Rydym ni fel teulu wastad wedi defnyddio'r gair 'shiffalaffs' am dato 'di ffrio (hynny yw. gweddillion cinio Dydd Sul i swper).

Cyfrannwyd y sylwadau uchod i wefan BBC Lleol y canolbarth rhwng 2004 a 2009


Geiriadur

Help / Cymorth

Welsh word of the day

Huw Stephens

Arholiad. Means 'Exam'. Pronounced 'Are-hol-yad'.

Beth sy' mewn enw?

Aberteifi

Enwau lleoedd

Edrych ar rai o'r prif ddylanwadau ar enwau lleoedd Cymru.

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.