'Stwnsh neu fwtrin?'

top
Tatws Llyn

Fyddwch chi'n defnyddio 'ffunan' neu 'hances boced'; yn bwyta 'stwnsh' neu 'fwtrin'? Yr Athro Peter Wynn Thomas o Brifysgol Caerdydd sy'n bwrw golwg dros iaith y gogledd orllewin.

"Cofiwch adael eich hances boced ar y tir mawr os ewch chi i Fôn. Ffunan bocad sydd ym Môn. A dim ond ar y tir mawr y cewch chi'ch poeni gan wybed (piwiad i rai). Chwiw sy'n tarfu ar bobl Môn.

Mae gan bobl Eifionydd ambell air lleol hefyd. Hel straeon fydd y rhan fwyaf o bobl y gogledd-orllewin ond straella fyddan nhw yn Eifionydd.

Ac yn lle gwneud rhesan neu rhesan wen wrth rannu eu gwallt, rhacan neu hacan fydd gan bobl Eifionydd.

Mae gan Lŷn hefyd ambell air unigryw. Er enghraifft, os cymysgwch chi datws a maip (neu sweds neu rwdins!) a'u pwnio'n fân yn Llŷn, y canlyniad fydd mwtrin. Stwnsh gewch chi yn y gweddill o'r ardal.

Dyw mwtrin ddim yn air byw yn y Saesneg heddiw. Ond roedd gair tebyg, sef mutter (ac, mae'n siŵr, muttering hefyd) yn air tafodieithol yn y Saesneg hyd yn ddiweddar. 'Briwsioni' oedd ystyr mutter, sy'n debyg i'r malurio sy'n digwydd wrth stwnsio.

Rhaid bod yn ofalus wrth hawlio bod geiriau'n perthyn i ardaloedd penodol. Un gair y gallai rhai o drigolion Llŷn ei hawlio yw'r gwaew a gân nhw yn y pen pan fydd pobl eraill yn cael cur. Ond bydd gwaew yn y pen gan frodorion o'r de-ddwyrain hefyd!

Mae'n bosibl mai math o ffosil ieithyddol yw gwaew yn y pen. Hynny yw, mae'n debyg y byddai gwaew yn y pen i'w glywed mewn ardal ehangach ar un adeg. Ond erbyn hyn mae wedi cilio i Lŷn a dwyrain Morgannwg.

At ei gilydd, eithriadau yw geiriau lleol iawn. Felly er bod gan Fôn, Llŷn ac Eifionydd ambell air hynod, mae'r ardaloedd hynny'n rhannu'r rhan fwyaf o'u geiriau ag ardaloedd eraill.

Un o'r geiriau sy'n perthyn i'r gogledd-orllewin yn gyffredinol yw deifio. Nid y deifio y byddwch chi'n ei wneud wrth nofio - gair benthyg yw hwnnw, o'r Saesneg dive. Deifio'r gogledd-orllewin yw'r llosgi a all ddigwydd i ddillad wrth eu smwddio. Gair Celtaidd yw'r deifio yma.

Ac os bydd plentyn yn glafoerio, fe fydd yn bwrw glafoerion y bydd yn y gogledd-orllewin.

Un o nodweddion amlycaf iaith y gogledd-orllewin yw defnyddio a mewn geiriau fel petha, mama a tada. Erbyn cyrraedd Dinbych a Rhuthun pethe, mame a tade a glywch chi. Pethe sydd yn sir Aberteifi a'r rhan fwyaf o sir Feirionnydd hefyd.

Â'r gogledd-orllewin y byddwn ni'n cysylltu petha fel rheol ond gallwch glywed petha ar hyd arfordir y Gogledd hefyd. Ac fe glywch petha hefyd yn y de-ddwyrain. Go brin, felly, y gall pobl y gogledd-orllewin hawlio bod yr a yn petha yn unigryw iddynt.

Mae gwaew yn y pen, felly, yn debyg i'r a yn petha: mae'n perthyn i'r gogledd-orllewin a'r de-ddwyrain. Nodweddion ieithyddol tebyg mewn dwy ardal begynol."

Yr awdur: Mae'r Athro Peter Wynn Thomas yn Athro yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac yn awdurdod ar hanes y Gymraeg a'i thafodieithoedd. Mae'n awdur nifer o gyhoeddiadau ar ramadeg a thafodiaith y Gymraeg ac un o'i brosiectau ymchwil ydy geiriadur o dafodieithoedd y Gymraeg.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2007 ar gyfer gwefan BBC Lleol y gogledd orllewin.


Geiriadur

Help / Cymorth

Beth sy' mewn enw?

Aberteifi

Enwau lleoedd

Edrych ar rai o'r prif ddylanwadau ar enwau lleoedd Cymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.