Enwau Lleoedd Llŷn

top
Tatws Llŷn

Gwilym Jones o Dudweiliog yn trafod cof gwlad Pen Llŷn am enwau lleol fel rhan o brosiect 'Beth sy' mewn Enw?' BBC Cymru i weld faint mae enw'n gallu ei ddatgelu am le a'i hanes. Ysgrifennwyd yr erthygl yn wreiddiol yn 2007.

Mae enwau Llŷn yn cyfrannu at gymeriad yr ardal - maent i gyd yn enwau Cymraeg, ac yn aml mae ganddynt gysylltiadau hanesyddol.

Mae llawer yn enwau cyffredin a chyfarwydd y mae hi'n hawdd iawn eu dehongli - Glan yr Afon, tŷ wrth afon; Abersoch, genau'r afon Soch; Llaniestyn fel bron pob 'llan' arall wedi ei chysegru i sant.

Ond mae i wlad Llŷn fel ymhobman arall enwau anghyfarwydd sy'n anodd i'w dehongli yn aml gan eu bod wedi eu camsillafu gyda threiglad blynyddoedd a chais yn unig ar fy rhan i'w dadansoddi yw'r erthygl hon.

Enwau anghyfarwydd

Cymerwn Mynytho i ddechrau. Yn ôl rhai, mae'r enw hwn yn golygu Mân Nythod a cheir yn yr ardal annedd-dai bychan a fu unwaith yn fythynnod unnos yn britho degau o erwau o dir comin.

Heb unrhyw amheuaeth bu dylanwad hen deulu bendefigaidd Nanhoron ar enw'r bythynnod ar ôl iddynt eu hawlio amser cau y tiroedd comin: ystyriwn Alma, afon yn y Crimea lle y collwyd un o wehelyth Edwards Nanhoron ar faes y gâd ym 1854; cawn Aliwel, pentref yn yr India, lle bu brwydro ym 1846.

Gwelwn hefyd New York, California, Carmel, China a'r Aifft, enwau heb amheuaeth â chysylltiadau â morwyr yr ardal.

Tybiaf fod yr enw Cornwal ar dŷ'n gysylltiedig â'r gwaith plwm a fu yn Llanengan gan i liaws ymfudo o Gernyw i weithio ynddo.

Willings neu Wellington Terrace - dyma res o dai nad yw mwyach. Adeiladwyd y rhesdai yn wreiddiol gan fyddigion Nanhoron i gartrefu milwyr. Dengys hyn mor deyrngar oeddynt i'r frenhiniaeth. Enwyd y rhesdai er clod i Ddug Wellington ar ôl iddo drechu Napoleon yn Waterloo ym 1815.

Yn yr un ardal cawn fwthyn o'r enw Sodom.

Ychydig bellter o Mynytho saif pentref Llanbedrog. Bu yno ar un cyfnod fwthyn o'r enw Cockrwth, ond Cae Crwth ydyw'r enw cywir arno mae'n debyg.

Yno hefyd cawn Pickstryd, yn ôl yr hyn a ddywed y diweddar Myrddin Fardd, Pig Street yw'r enw cywir. Ar lethrau mynydd y Rhiw cawn Gimla neu i fod yn gywir Cimile. Ystyr 'cimi' oedd tir comin.

Pentref tawel bychan ydyw Rhydyclafdy sydd nepell o Bwllheli. Dywedir y bu yma ysbyty ar gyfer gwahanglwyfion yn yr oesoedd a aeth heibio. Os gwir yw hyn mae'r enw Rhyd-y-Clafdy'n gwneud synnwyr.

Yma hefyd saif Tyddyn Singrig. Ystyr 'Sin' yn ôl geiriadur Spurrell yw elusen felly tybiaf mai Tyddyn Elusen y Grug sydd yma gan fod eglwys hynafol Llanfihangel Bachellaeth bron ar drothwy'r drws.

Yn Uwchmynydd sydd ar derfyn eithaf Llŷn saif fferm y Cwrt, enw sy'n deillio o'r Saesneg Court. Yma y cynhelid llys barn yn yr oes a aeth heibio. Hwn oedd y Court of Bardsey Lordship gydag Abad Enlli yn teyrnasu. Wrth ymyl saif Secar neu Exchequer oedd hefyd yn gysylltiedig ar llys.

Yma hefyd ceir Bryn y Crogbren lle y dienyddid lladron defaid. Yng nghyffiniau'r uchod cawn fferm Llawenan a Ffrydiau Caswenan.

Yr olaf yn ôl y sôn yw'r enw cywir am y Swnt peryglus sydd yn rhedeg rhwng Ynys Enlli a'r tir mawr. Mae hanes i'r llestr Gwenan Gorn oedd yn eiddo i Madog ab Owain Gwynedd gael ei dryllio yma. Stori arall yw mai Gwenan oedd enw llong y Brenin Arthur ac iddi fynd yn ddrylliau yma.

Yn yr ardal yma ceir Stelig Bach a Stelig Fawr, talfyriad o Ystol Helyg medd rhai.

Os y teithiwn i gyfeiriad y gogledd cyrhaeddwn Tudweiliog.

Yn ôl chwedl daeth yr enw pan groesodd marchog o'r Iwerddon ar ei geffyl o'r enw Gweiliog. Oherwydd blinder gwrthododd y march symud modfedd ar ôl cyrraedd traeth Tywyn sydd islaw'r pentref. Rhoddodd ei droed yn gadarn ar graig a elwir hyd heddiw yn Garreg yr Ebol gan bod ôl troed y march yn dal i fod ar y garreg. Yn ôl y sôn ceisiodd y marchog gymell ei farch gan weiddi "Tyrd Gweiliog!"

Yn Nhudweiliog hefyd saif hen blasdy Cefn-Amwlch. Oherwydd bod mynydd bychan gyda bwlch ar ei gopa y tu cefn i'r plasdy yr enw cywir i'r lle yn ôl y gwybodusion yw Cefn-ar-Fwlch.

Ychydig bellter o Gefn-Amwlch saif plasdy arall o'r enw Brynodol neu Bryn-ar-Ddol a fferm a elwir yn Pwllgwd. Pwll coed medd rhai yw'r enw cywir ond yn ôl hen ddogfennau Pyllau Cydach sydd yn gywir. Daw y Cydach o Cyd. Tir cyd neu dir comin yw ystyr hyn gyda'r terfyniad -ach sy'n golygu gerllaw. Felly cawn yr ystyr Pyllau Tir Cyd gerllaw.

Traeth arall yn yr ardal yw Porthysglaig ond Porth yr Haig ddylai hwn fod mae'n debyg gan y bu ar un cyfnod ddiwydiant pysgota penwaig yno - haig o benwaig.

Nepell o Gefnamwlch mae cyffordd a elwir Beudy Bigin. Bu yno unwaith feudy a dywed mai'r enw gwreiddiol oedd Beudy Bing. Ystyr Bing yn Saesneg yw 'alley in a cowhouse'.

Ym Morfa Nefyn ar draeth Porthdinllaen saif craig sydd ond yn weladwy pan fydd y môr ar drai. Gelwir y graig hon yn Maen Bridin er mai Brudyn sy'n gywir ac sy'n golygu maen y Seryddwyr.

Yma ar wyneb llyfn y maen y byddai'r derwyddon yn amcanu amseroedd y trai a'r llanw a dyddiau y flwyddyn.

Mae'r enw Dinllaen neu Dinlleyn ynddo'i hunan yn nodi Din - Dinas neu amddiffynfa a lleyn yn wreiddiol o Leinster yn yr Iwerddon.

Dywedir bod olion o hen amddiffynfa yn weladwy ar y clogwyn uwchben y Berth.

Brenhines Llŷn ydyw Carn Fadrun, y dywedir mae hen enw Cymraeg a'r cadno yw Madrun felly cawn Garn y Cadno.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon a'r cyfraniadau isod yn wreiddiol yn 2007 fel rhan o brosiect BBC Cymru, 'Beth sy' mewn enw?'

Duncan Brown o Waunfawr

Gallt y Sil ger Caernarfon. 'Sil' efallai yn golygu pysgod mân (ac mae'r Afon Seiont gerllaw - cofier silidons = sil y don, ar lafa yn arfon am minnows). Ond tybiaf mai'r ystyr mwyaf tebygol yw 'yr allt lle bu'r silod mân neu'r eisin yn cael eu chwythu o Felin Peblig gynt ar ôl silio, gan wyntoedd y de orllewin gan orchuddio'r allt dan sylw i gyfeiriad Caernarfon, ac esgor ar yr enw disgrifiadol hwn o'i gyfnod?'

Ianto Glan Tawe, Abertawe gynt Parthed yr enw Tyddynsingrig (Penrhyn Llŷn): Geiriadur Prifysgol Cymru, tudalen 1199. Eisingrug, singrug (eisin + crug; caed y ffurf singrig drwy golli'r sillaf gyntaf ddiacen.) Tomen o eisin a welid yn gyffredin gynt ar lecyn agored gerllaw melin lle y nithid yr eisin oddi wrth y grawn ar ôl silio. Digwydd yn gyffredin yn y ffurf Singrug fel enw ar fythynnod a chaeau drwy Gymru.


Geiriadur

Help / Cymorth

Tafodiaith

Dynion

Geiriau unigryw

Rhestrau o eiriau tafodieithol o bob rhan o Gymru.

Adnoddau

Bysellfwrdd

Ar-lein

Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.