Dylanwad tramor ar enwau lleoedd Cymru

top
Llychlynnwr

Dros y canrifoedd, mae nifer o ieithoedd tramor wedi gadael eu hôl ar enwau lleoedd Cymru. Cafwyd sawl cyfnod gwahanol pan fu carfannau estron yn ddigon cryf i sefydlu presenoldeb yng Nghymru. Yn sgil y presenoldeb hwnnw, datblygiad digon naturiol oedd iddynt roi enwau yn eu hieithoedd eu hunain ar y wlad o'u cwmpas. Mae rhai o'r enwau hynny wedi goroesi ar ryw ffurf neu'i gilydd hyd heddiw yn y Gymraeg ac yn y Saesneg.

Dylanwad Gwyddelig ar enwau lleoedd

Mae cof am bresenoldeb Gwyddelod ar lannau gorllewinol Cymru yn cael ei gadw yn yr enwau Llŷn a Dinllaen sy'n cyfeirio at y Laigin, sef llwyth a oedd yn byw yn ne-ddwyrain Iwerddon ar y pryd ac a ymsefydlodd ar arfordir Cymru. Mae'r un elfen yn para o hyd yn Iwerddon yn enw talaith Leinster, ac yn dangos sut y bu i lwythau Gwyddelig ymestyn eu tiriogaeth yn y canrifoedd yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain.

Cawn enghreifftiau eraill o lwythau Gwyddelig yn enw sir Gwynedd (o'r llwyth y Féni) a'r afon Desach (o'r llwyth Déisi).

Nid enwau llwythau yn unig sy'n dangos dylanwad y Gwyddelod. Mae'n fwy na thebyg bod yr elfen cnwc 'bryn', sydd i'w chael yng ngorllewin Cymru mewn enwau fel Pen y Cnwc ac Allt y Cnwc yn ymyl Caerfyrddin, yn tarddu o'r gair Gwyddeleg cnoc sydd hefyd yn golygu 'bryn'.

Roedd Nefyn yn enw personol Gwyddelig a daw'r elfen soch sydd â chysylltiad â'r gair hwch o'r Gweddeleg socc a welir yn afon Suck yn Connacht.

Dylanwad y Llychlynwyr

Y don nesaf o dramorwyr i groesi'r môr a dylanwadu ar enwau lleoedd Cymru oedd y Llychlynwyr. Ar eu hanterth rhwng y 9fed ganrif a'r 11eg ganrif, cipiodd y Llychlynwyr ddinas Dulyn yn ogystal ag Ynys Manaw, gan sefydlu teyrnasoedd Llychlynnaidd yno. Er na fu iddynt sefydlu teyrnasoedd ar dir Cymru, roeddent yn ymwelwyr rheolaidd â Chymru fel ysbeilwyr a masnachwyr.

Gadawsant eu hôl yn amlwg ar ei henwau lleoedd, yn enwedig ar hyd y glannau lle byddai nodweddion arfordirol amlwg megis ynysoedd yn gymorth pwysig i forwyr. Nid cyd-ddigwyddiad, felly, yw bod y ddwy elfen Norseg fwyaf cyffredin yn enwau lleoedd Cymru, sef ey a holmr, yn golygu 'ynys'. Tueddai holmr i gyfeirio at ynys lai ei maint nag ey, hynny yw 'ynysig' yn hytrach nag 'ynys'.

Ey

Mae ey i'w gael mewn cysylltiad ag enwau personol yn achos Bardsey (Ynys Enlli), sef 'ynys Bárðr'; Ramsey (Ynys Dewi), sef 'ynys Hrafn'; Swansea (Abertawe), sef 'ynys Sveinn'; ac Anglesey (Môn), sef 'ynys Öngull'. Yn groes i'r gred boblogaidd, felly, nid yw'r enw Anglesey yn gysylltiedig â'r Angliaid.

Nid enwau personol yn unig sy'n digwydd mewn enwau ynysoedd: ystyr Caldy (Ynys Bŷr) yw 'ynys oer', ac mae Skomer (Sgomer) yn dod yn wreiddiol o ffurf ar Skalmey, sef 'ynys hollt' - cyfeiriad, efallai, at y ddau fae sy'n torri i mewn i'r ynys o'r gogledd ac o'r de i ffurfio penrhyn dwyreiniol - sef 'The Neck'.

Holmr

Holmr yw'r ail elfen yn Priestholm (Ynys Seiriol), sef 'ynys yr offeiriaid'; Grassholm (Gwales), sef 'ynys y gwair'; Flatholm (Ynys Echni), sef 'ynys wastad'; a Gateholm, sef 'ynys y geifr'. Mae'r un gair wedi'i guddio yn enw Midland Island. Mae cofnod o ddechrau'r 14eg ganrif yn rhoi Middelholm, sef 'ynys ganol', yn enw arni, sy'n gweddu i'w safle rhwng Sgomer a'r tir mawr.

Elfen Norseg arall a geir nifer o weithiau yw stakkr, 'craig yn codi o'r môr'. Dyna'r gair a welir yn North Stack (Ynys Arw) a South Stack (Ynys Lawd) ym Môn, a Stack Rock yn Aberdaugleddau.

Nodweddion arfordirol eraill y mae dylanwad y Llychlynwyr i'w weld yn eu henwau yw Great Orme (Pen y Gogarth), sy'n cynnwys ormr 'sarff, draig', a Point of Ayr (Y Parlwr Du), sy'n cynnwys eryr 'bank tywod'.

Byddai Milford Haven (Aberdaugleddau) wedi bod yn arwyddocaol iddyn nhw fel lloches dda i nifer go lew o longau, ac mae Milford, mae'n debyg, yn cynnwys yr elfennau melr 'banc tywod' a fjorðr 'fiord', a'r elfen gyfatebol 'Haven' yn cael ei hychwanegu yn ddiweddarach wrth i ystyr fjorðr gael ei hanghofio.

Fiskigarðr yw tarddiad Fishguard (Abergwaun) sef 'lle caeedig i gadw pysgod'. O gyfieithu'r elfennau i'w helfennau cyfatebol mewn Saesneg modern sef 'fish yard' daw hi'n amlwg pam y mabwysiadodd y Saesneg y ffurfiau Norseg yn hytrach na'r enwau Cymraeg ar y lleoedd hyn.

Ffrangeg Normanaidd mewn enwau lleoedd

Erbyn diwedd yr 11eg ganrif, yr oedd dylanwad y Llychlynwyr yn cilio, ond gyda dyfodiad y Normaniaid i Gymru tua'r un adeg, dechreuodd iaith dramor arall adael ei hôl ar enwau lleoedd y wlad, sef Ffrangeg Normanaidd.

Mae nifer o'r enwau Normanaidd yn disgrifio safleoedd cestyll, gan mai un o weithredoedd cyntaf yr arglwyddi Normanaidd wedi iddyn nhw gipio tir oedd adeiladu cestyll er mwyn cryfhau eu gafael ar y diriogaeth a enillwyd.

Mae Grosmont (Y Grysmwnt) yn Sir Fynwy yn cyfeirio at y twmpath lle adeiladwyd y castell. Mae ystyr debyg i Mold (Yr Wyddgrug), sef Mont-hault, 'bryn uchel' sef cyfeiriad at Fryn Beili yng ngogledd y dref, safle'r castell Normanaidd. 'Cors brydferth' yw'r hyn sy'n cael ei disgrifio yn enw tref Biwmares (o'r elfennau beau a marais). Mae ynganiad Cymraeg enw'r dref wedi cadw'n nes at yr ynganiad Ffrangeg gwreiddiol na'r ynganiad Saesneg cyfoes.

Dechreuodd Edward I adeiladu'r castell yno yn 1294, ac er mai enw Ffrangeg a roddwyd i safle'r castell, diddorol sylwi mai enw Saesneg, sef Newborough (Niwbwrch), a roddwyd ar y fwrdeistref newydd a grëwyd i gartrefu'r trigolion a symudwyd er mwyn clirio lle iddo.

Mae'r ynganiad Cymraeg presennol, gyda'r ch caled ar ei ddiwedd, hefyd wedi cadw ynganiad Saesneg y cyfnod yn fyw i ni.

Dyna i ni enw Ffrangeg ac enw Saesneg gan yr un trefedigaethwyr nid nepell o'i gilydd. Efallai bod hyn yn enghraifft o'r Saesneg yn dechrau disodli'r Ffrangeg fel iaith y trefedigaethwyr Normanaidd yng Nghymru. Sefyllfa debyg a gafwyd yn ne sir Benfro, gyda'r gymuned Fflemeg ei hiaith yno yn graddol droi i'r Saesneg.

Dylanwad Fflemeg

Symudodd nifer sylweddol o bobl o Fflandrys i dde Penfro yn sgil y goresgyniad Normanaidd, ond Saesneg bellach yw llawer o'r enwau lleoedd yno, ac, ar wahân i ambell i enw personol, does dim tystiolaeth bendant am enwau Fflemeg yn yr ardal. Fodd bynnag, roedd Fflemeg a Saesneg yn perthyn yn agos i'w gilydd yn y cyfnod hwn, ac mae'n bosibl i enwau Fflemeg cynnar gael eu Seisnigo'n hawdd, fel y digwyddodd gyda rhai o'r enwau Norseg yng Nghymru.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2007 gan yr Athro Hywel Wyn Owen fel rhan o brosiect 'Beth sy' mewn enw?' gan edrych ar sut mae enwau lleoedd yn dehongli hanes, iaith a thirwedd Cymru.


Geiriadur

Help / Cymorth

Tafodiaith

Dynion

Geiriau unigryw

Rhestrau o eiriau tafodieithol o bob rhan o Gymru.

Adnoddau

Bysellfwrdd

Ar-lein

Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.