Nodweddion topograffaidd ac enwau lleoedd

top
Dyffryn Ogwen

Ar ddiwedd y 12fed ganrif, nododd Gerallt Gymro fod Cymru yn "wlad a amddiffynnir yn y modd cadarnaf gan fynyddoedd uchel, dyffrynnoedd dwfn iawn, coedydd eang, afonydd a chorsydd."

Yn ddigon naturiol, mae'r darlun yma yn cael ei adlewyrchu yn glir yn enwau lleoedd y wlad hyd heddiw, er gwaetha'r newidiadau i'r dirwedd yn y cyfamser.

Tirwedd mynyddig ac enwau lleoedd

Fel y gellid disgwyl yng Nghymru, mae amrywiaeth fawr o elfennau enwau lleoedd sy'n ymwneud â'r dirwedd fynyddig. Mae'r mwyaf cyffredin o'r rhain yn fyw iawn yn y Gymraeg o hyd. Mae mynydd, bryn, allt a rhiw) ac yn ddigon hawdd eu hadnabod a'u deall.

At hynny, mae geiriau bob dydd am rannau o'r corff yn cael eu defnyddio i ddisgrifio nodweddion tir uchel. Mae enghreifftiau niferus o cefn a braich yn cael eu defnyddio i gyfeirio at esgair o fynydd, ac mae esgair ei hun yn air hynafol am 'coes'. cest sef 'bol mawr' a geir yn yr enwau Moel y Gest a Borth-y-gest yn ymyl Porthmadog.

Mae elfennau eraill ychydig yn fwy tywyll eu hystyr erbyn hyn. Mae bre, er enghraifft, sy'n golygu 'bryn', i'w weld mewn enwau fel Pen-bre a Moelfre, yn ogystal â Maesglasau (sef Maesglasfre gynt) yn ardal Dinas Mawddwy.

ban, gair arall am 'mynydd' neu 'copa', yw'r elfen gyntaf yn 'Bannau Brycheiniog', a dyna a geir hefyd yn enwau'r mynyddoedd Pen y Fan, Tal-y-fan a'r Fan Fach (sy'n adnabyddus drwy'r chwedl am y forwyn a'r llyn), yn ogystal â'r enw Tryfan. Try gyda grym cryfhaol - fel yn 'trywanu' a 'trydan' - yw'r elfen gyntaf yn hwnnw, ac mae Syr Ifor Williams yn cynnig "mynydd sy'n codi'n uchel iawn, neu un sydd â blaen main iddo" fel ystyron posibl.

Gwelir yr elfen garth, sef cefnen o dir, mewn enwau megis Tre-garth, Talgarth a Phenarth. Gellid meddwl mai garth sydd i'w gael yn y gair gogarth fel yn yr enwau Trwyn y Gogarth a Phen y Gogarth yn ardal Llandudno, ond mae'n debyg mae gogerdd sef 'llethr' oedd y ffurf ar hwnnw yn wreiddiol - fel a geir yn Gogerddan 'llethr fach' yng Ngheredigion. Gair arall am gefnen o dir yw trum. Gweler enwau megis Trimsaran 'cefnen Saran' a Meidrim 'y gefnen ganol'.

I deithwyr, byddai bwlch neu adwy yn nodwedd bwysig yn y tiroedd uchel, ac mae'r ddwy elfen honno yn gyffredin iawn mewn enwau lleoedd ar draws y wlad. Mae'r elfen gysylltiedig drws yn ddiddorol yn hynny o beth. Peth sy'n cau mynedfa yw drws i ni erbyn hyn, ond ers talwm byddai'r gair yn cyfeirio at y fynedfa ei hun. Felly, mewn enwau fel Drws-y-coed a Bwlch Oerddrws, ffordd drwy'r mynyddoedd oedd y drws.

Ceir agwedd arall ar y dirwedd fynyddig mewn elfennau cyffredin megis cwm, dyffryn, glyn ac ystrad. Yr oedd ystyr debyg i nant ar un adeg, a gwelir hyn yn aml mewn enwau lleoedd. 'Cwm dwfn', felly, yw ystyr Dyfnant - Dunvant erbyn hyn yn ymyl Abertawe. Mae'r hen ystyr hwn i'w weld yn yr elfennau ceunant 'cwm cul a dwfn' a pennant 'pen uchaf dyffryn'. Gair gwrywaidd yw'r nant yma.

Cyfeiriad at ddŵr mewn enwau lleoedd

Wrth gwrs, 'afon fechan' yw nant y dyddiau yma, gair benywaidd, a gyda'r ystyr hwn, mae'n ymddangos mewn llawer iawn o enwau lleoedd. Weithiau mae hyn yn amlwg, er enghrafft Nantgarw a Gronant, ac weithiau yn llai felly - Nannerch 'nant fraith', Nannau 'nentydd'. Elfennau eraill sy'n cyfeirio at ddŵr rhedegog yw afon, ffrwd a glais.

Mae aber yn golygu man lle bydd afon yn llifo naill ai i'r môr (e.e. Abertawe, Aberystwyth, Aberdaron), neu lle mae afon lai'n llifo i afon fwy (e.e. Aberhonddu, Aberangell, Aberchwiler).

Cymer a ddefnyddir pan mae dwy afon yn cyfarfod, fel arfer. (e.e. Pontycymer, Rhydcymerau). Lle mae afon yn disgyn dros greigiau ceir pistyll neu rhaeadr neu, yn achos Pistyll Rhaeadr, y ddwy elfen gyda'i gilydd. Yn y De, defnyddir yr elfen sgwd i gyfeirio at yr un ffenomen, ac mae nifer o enghreifftiau adnabyddus, fel Sgwd yr Eira a Sgwd Einion Gam, ar Afonydd Pyrddin a Mellte.

Mae ystum yn cyfeirio at le bydd afon yn troi neu'n dolennu - fel yn Llanystumdwy ac Ystumtuen - a dyna hefyd yw ystyr camas. Ffurf luosog camas sydd i'w gweld yn yr enw Cemais ym Mhowys lle mae'n disgrifio cwrs nadreddog Afon Dyfi, ac ym Môn lle mae Afon Wygyr yn ymddolennu i'r môr. Mae'n debyg bod y sillafiad poblogaidd Cemaes wedi'i ddylanwadu gan y gair maes.

Mae'n debyg mai cors a gwern yw'r elfennau mwyaf amlwg sy'n cyfeirio at diroedd gwlyb. Elfen lai cyffredin sy'n disgrifio'r un math o dirwedd yw mign a dyna a geir yn yr enw Talymignedd yn Nyffryn Nantlle. Cyfuniad o mign a naint, sef hen ffurf luosog nant, sydd yn enw'r Migneint, y tir corsiog uchel rhwng Ffestiniog ac Ysbyty Ifan.

Corstir a ddisgrifir gan yr elfen llwng hefyd gyda'r ffurf fenywaidd llong. Mae pentref o'r enw Llong nid nepell o'r Wyddgrug. Camddeall y llong yna fel gair Cymraeg arall oedd wedi peri rhoi 'The Ship' yn enw ar dafarn leol.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2007 gan yr Athro Hywel Wyn Owen fel rhan o brosiect 'Beth sy' mewn enw?' gan edrych ar sut mae enwau lleoedd yn dehongli hanes, iaith a thirwedd Cymru.


Geiriadur

Help / Cymorth

Tafodiaith

Dynion

Geiriau unigryw

Rhestrau o eiriau tafodieithol o bob rhan o Gymru.

Adnoddau

Bysellfwrdd

Ar-lein

Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.