Yr iaith Saesneg ac enwau lleoedd Cymru

top
Arwydd Aberteifi

O gofio cymaint o ddylanwad mae Lloegr wedi'i gael ar Gymru dros y canrifoedd, dydi hi ddim yn annisgwyl bod yr iaith Saesneg yn amlwg iawn ym mhatrymwaith enwau lleoedd Cymru.

Ardaloedd a ddylanwadwyd arnynt fwyaf gan y Saeson

Yn naturiol, mae mwy o enwau lleoedd Saesneg yn yr ardaloedd lle mae'r Saesneg wedi bod ar ei chryfaf. Mae de Sir Benfro yn drwch o enwau uniaith Saesneg, fel y gellid ei ddisgwyl mewn ardal y bydd rhai yn ei hadnabod fel Lloegr Fach.

Mae hyd yn oed enw Cymraeg safonol fel Hwlffordd i'w olrhain i ffurf gynnar ar Haverfordwest, sef yr enw Saesneg cyfatebol. Ystyr Haverford yw 'rhyd y bychod gafr' ac mae'r enw i'w glywed ar lafar gwlad fel Harford. Yr oedd y 'West' wedi cael ei ychwanegu erbyn y 15fed ganrif - i bob golwg, er mwyn osgoi dryswch gyda Hereford yn Lloegr.

Mae Sir y Fflint yn ardal arall a oedd wedi dod o dan ddylanwad y Saesneg yn gynnar. Mae Llyfr Domesday, a gwblhawyd yn 1086, yn tystio i fodolaeth aneddiadau Saeson mor bell i'r gorllewin â Dyffryn Clwyd, ac yn cofnodi bod tiroedd sydd bellach yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn dod o dan awdurdod dinas Caer.

Ond, yn y rhan yma o'r wlad, yr oedd y Cymry wedi adennill y tir yn weddol fuan wedyn, gan fabwysiadu rhai o'r enwau lleoedd Saesneg a oedd ar ôl, efallai heb fod yn gwbl ymwybodol o'u hystyr, gan fod yr enwau hyn, ar y pryd, yn cyd-fynd yn ddigon didrafferth â theithi seinegol y Gymraeg.

Datblygiadau seinegol, sillafu a chynaniad

O ganlyniad, yr oedd datblygiad seinegol y Gymraeg wedi effeithio yn fwy ar yr enwau hynny na datblygiad seinegol y Saesneg. Er enghraifft, yn achos enwau Saesneg a oedd yn gorffen gyda'r elfen -tūn 'fferm, trigfan neu anheddiad' (a fyddai'n troi yn -ton wedyn o ddilyn datblygiad rheolaidd y Saesneg), yr oedd y terfyniad wedi mynd yn -tyn ar dafodau Cymry'r ardal o'i gymharu â -twn yn ne Cymru.

Yn yr un modd, cafodd y sain 'ch' a oedd i'w chael mewn Hen Saesneg a Saesneg Canol, ac sydd wedi diflannu o Saesneg safonol erbyn hyn, ei chadw mewn rhai enwau drwy ddylanwad y Gymraeg.

Mae'r cyfryw dueddiadau i'w gweld yn glir mewn enwau fel Sychdyn (Soughton) 'fferm y gors', Mostyn sydd hefyd yn golygu 'fferm y gors' a Prestatyn 'fferm yr offeriaid' a fyddai'n Preston oni bai am ddylanwad y Gymraeg.

Seisnigo

Wrth gwrs, mae dylanwad y Saesneg i'w weld mewn ardaloedd mwy diamwys o Gymraeg hefyd. Mae hyn ar ei fwyaf amlwg, efallai, pan fydd ymdrech wedi'i wneud i gymhwyso arferion orgraffyddol y Saesneg at gynrychioli enw Cymraeg.

Dyna oedd yn gyfrifol am sillafiadau fel Carnarvon, Llanelly, Conway ac Aberayron, wrth gwrs. Mae'r enghreifftiau hyn, a llawer tebyg iddyn nhw, wedi colli eu statws swyddogol erbyn hyn. Eto, mae ambell sillafiad Seisnigaidd, i bob golwg, yn fwy gwydn na'i gilydd. Mae'r sillafiadau Rhayader, Ruabon a Ruthin, er enghraifft, i gyd i'w gweld o hyd ar fapiau Arolwg Ordnans cyfredol.

Yn achos Aberdare ac Abercrave, fodd bynnag, camarweiniol fyddai sôn am sillafiad 'Seisnigaidd'. Mewn gwirionedd, mae'r ddwy ffurf yna yn cynrychioli cynaniad Cymraeg traddodiadol yr ardal yn fwy cywir na'r sillafiadau Cymraeg safonol, sef Aber-dâr ac Aber-craf. Nodwedd seinegol debyg sy'n peri bod Cardiff yn troi'n 'Cairdiff' yn nhafodiaith Saesneg y brifddinas.

Mae Ebbw Vale yn enghraifft arall o enw 'Seisnigaidd' sydd, ar un ystyr, yn adlewyrchu'r dafodiaith Gymraeg leol yn well na'r enw Cymraeg safonol, sef Glynebwy.

Ebwydd oedd enw'r afon ers talwm, ond trôdd hwn yn Ebwy, ac wedyn yn Ebw ar lafar gwlad - cymharer sut mae gair fel 'ofnadwy' yn troi'n 'ofnadw' mewn tafodieithoedd deheuol. Serch hynny, enw gwneud o'r 19eg ganrif yw Ebbw Vale, a chyfieithiad ohono yw Glynebwy. Pen-y-cae oedd yr enw gwreiddiol ar y dref a ddatblygodd o gwmpas y gweithfeydd haearn.

Mae Rhydaman (o Ammanford) a Bae Colwyn (o Colwyn Bay) yn ddwy enghraifft arall o ffurfiau Cymraeg safonol sydd yn gyfieithiadau o enwau Saesneg a grewyd yn ystod y 19eg ganrif - er bod Colwyn ac Aman yn enwau afonydd o dras Gymraeg.

Enwau 'Saesneg' twyllodrus

Mae hyd yn oed yr enwau lleoedd mwyaf Saesneg yr olwg yn gallu bod yn dwyllodrus. Hawdd meddwl, o ystyried lleoliad y dref, bod yr enw Barmouth yn enw Saesneg sy'n cynnwys cyfeiriad at geg yr afon gyfagos, sef Mawddach. Mewn gwirionedd, nid 'mouth' sydd yma o gwbl. Mawdd oedd yr hen enw ar yr afon, ac Abermawdd oedd yr enw Cymraeg ar y dref ers talwm cyn iddo ddatblygu yn Abermo (neu Y Bermo ar lafar). Cysgod hen ffurf Gymraeg yw Barmouth.

Mae Goostrey yn ymyl Llandrindod yn Sir Faesyfed yn enw arall sydd i'w weld yn dra Seisnigaidd, ond enw Cymraeg yw hwn mewn gwirionedd, sef Gwystre 'tre'r hychod'. Gair arall am hwch yw gwŷs. Mae pentref arall o'r enw Goostrey 'llwyn eithin' yng nghanol swydd Gaer, ac mae'r gororau yn ardal arall sy'n frith o enwau Saesneg.

Enwau lleoedd hybrid Cymraeg a Saesneg

Dyma gloi drwy ystyried math o enw lle sy'n ddigon prin yng Nghymru, sef y rhai cymysgryw sy'n cynnwys elfennau o'r Gymraeg a'r Saesneg ochr-yn-ochr â'i gilydd.

Llangrallo yw'r enw Cymraeg swyddogol ar bentref Coychurch, ond mae elfen Gymraeg i'w chael yn yr enw lle Saesneg hefyd, gan mai Coed-church oedd y ffurf arno yn wreiddiol. Ac, er mor ddiddorol yw'r traddodiadau ynghylch Gwrle Gawr sy'n gysylltiedig â Chaergwrle, mae'n ymddangos mai'r gwirionedd llai rhyfeddol yw bod yr elfen cwrle yn cyfateb i enwau Saesneg fel Coreley yn Swydd Amwythig - hynny yw, 'llannerch y garan'. Mae Camrose a Cortwn neu Corntown yn enghreifftiau eraill o hyn.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2007 gan yr Athro Hywel Wyn Owen fel rhan o brosiect 'Beth sy' mewn enw?' gan edrych ar sut mae enwau lleoedd yn dehongli hanes, iaith a thirwedd Cymru.


Geiriadur

Help / Cymorth

Tafodiaith

Dynion

Geiriau unigryw

Rhestrau o eiriau tafodieithol o bob rhan o Gymru.

Adnoddau

Bysellfwrdd

Ar-lein

Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.