Enwau personol mewn enwau lleoedd

top
Arwydd Llandeilo

Enwau seintiau

Mae enwau rhai o'r Cristnogion cynnar a sefydlodd eu 'llannau' ar hyd a lled y wlad yn amlwg yn rhai o'n henwau lleoedd. Ceir enwau rhai o'n seintiau enwocaf mewn nifer ohonynt: Dewi - Llanddewi Brefi, Ceredigion ; Llanddewi Ystradenni, Powys a Ty Ddewi yn Sir Benfro; Teilo - Llandeilo, Sir Gaerfyrddin ; Llandeilo Graban, Powys a Llandeilo Bertholau yn Sir Fynwy a Padarn - Llanbadarn Fawr,Ceredigon a Llanbadarn Fynydd ym Mhowys.

Daeth nifer o'r seintiau amlycaf i boblogrwydd newydd ganrifoedd ar ôl eu marw, pan sefydlwyd sawl cwlt yn enw'r seintiau ar draws Cymru. Bu hyn yn fodd i wasgaru eu henwau cryn bellder o'r llan a gysylltwyd â hwy yn wreiddiol.

Does dim sicrwydd taw enw sant sy'n dilyn elfennau sydd â chysylltiad crefyddol fel llan, betws a chapel mewn ambell achos. Mae'n bosib taw enw person lleol oedd wedi rhoi'r tir at ddiben codi eglwys a geir. Mae'n debyg mai dyma a gawn yn Betws Bledrws, er enghraifft. Credir mai merch Cynan ab Owain Gwynedd o'r 13eg ganrif oedd y Gwerful Goch dan sylw yn yr enw Betws Gwerful Goch, sy'n dangos sut yr oedd y teuluoedd tywysogaidd yn ymddiddori yn y llannau a'r eglwysi.

Enwau diwydiannwyr

O fynd i'r eithaf, ystyriwch yr enw Llandarcy ger Abertawe, lle codwyd purfa olew fawr ar ddechrau'r 20fed ganrif. Nid sant yw'r Darcy a enwir, ond y Sais William Knox D'arcy a sefydlodd yr Anglo-Persian Oil Company a ddaeth i fod yn rhan o gwmni BP. A diwydiannwyr mawr o oes Fictoria roddodd eu henwau i Bort Talbot, Porthmadog a Dociau Bute, er enghraifft. Mwy ar enwau diwydiannwyr.

Enwau beiblaidd

Enwau seintiau Celtaidd (megis Tudno, Elli a Cybi) sydd ar nifer fawr o'r llannau ni, ond ar ôl dyfodiad y Normaniaid yn yr 11 ganrif dechreuwyd mabwysiadu arferiad eglwys Rufain, sef seintiau ag enwau beiblaidd megis Pedr, Mair a Mihangel. Yn aml, cyplysur enw nawddsant yr eglwys leol gydag enw arall, er enghraifft, Llanbedr Pont Steffan a Llanfair Caer Einion.

Mae sawl Llanfihangel i gael. Mihangel yw'r angel sy'n cario'r cleddyf - yr 'enforcer' dwyfol! Yn ôl y son, cafodd eglwysi sy'n dwyn enw Mihangel eu sefydlu mewn ardaloedd lle bu'r Cristnogion cynnar yn brwydro gyda'r paganiaid lleol i sefydlu eglwys.

Enwau'n cael eu llygru

Ceir blas o hyn yn y stori sy'n son am y gwrthdaro rhwng Dewi Sant a Gwyddel o'r enw Boia. Mae olion o'i enw o hyd yn Clegyr Boia ger Tŷ Ddewi. Gan fod pobl Sir Benfro'n tueddu i ynganu'r 'o' fel 'w' fe drodd yr enw yn 'Bwya' ac yna'n 'Clegyr Fwya(f)'. Ond Clegyr Boia ydoedd yn wreiddiol, ac mae'r enw hwnnw wedi cael ei adfer ar y map.

Darn mawr o graig fel ynys ar dir gwastad yw Clegyr Boia ac mae'n debyg taw disgrifiad o'r fath graig yw clegyr. Roedd bryngaer yno yn dyddio yn ôl filoedd o flynyddoedd.

Nid 'rhen Boia oedd yr unig un i golli ei enw dros y canrifoedd, wrth i bobol lygru enw lle ac anghofio'r ystyr gwreiddiol. Fe drodd Llanfihangel Iorwerth (neu Yorath) yn Llanfihangel-ar-arth, er enghraifft.

Ceredig

Enw digon dymunol ar dŷ ym mhentre Rhydargaeau ger Caerfyrddin yw 'Glyn Caredig' ond 'mae'n debyg taw 'Clun Ceredig' yw'r enw gwreiddiol. Ystyr clun yw 'gweirglodd' (meadow) fel yn enw Clunderwen, Sir Benfro.

Mae'n bosib taw'r un Ceredig yw hwn â'r tywysog a roddodd ei enw i Geredigion - Ceredig ap Cunedda Wledig. Goresgynodd un o'i linach, Seisyll ap Clydog, Ystrad Tywi tua'r flwyddyn 730, gan enwi'r wlad a orchfygodd yn Seisyllwg. Yn yr un ardal ceir Allt Ceredig a Nant Ceredig, sef Nantgaredig heddiw.

Terfyniadau sy'n dynodi perchnogaeth tir

Mae Ceredigion yn enghraifft o enw lle sy'n cynnwys enw personol a therfyniad sy'n dynodi perchnogaeth tir. Roedd mwy nag un ffordd o ddynodi perchnogaeth tywysog neu uchelwr dros eu diroedd. Ceir y terfyniad -wg ym Morgannwg, -i yn Arwystli a -iog yn Brycheiniog. Roedd y Brychan dan sylw yn yr enw Brycheiniog yn llywodraethu dros yr ardal yn y 5ed ganrif a dywed iddo fod yn dad ar nifer fawr iawn o blant.

Dyna Cydweli yn enghraifft arall - tir oedd yn eiddo i ddyn o'r enw Cadwal. Nid tref yn unig oedd Cydweli gynt ond ardal yn ymestyn o gyrion Llanelli hyd at Bensarn yn ymyl Caerfyrddin. Mewn oes oedd wedi hen anghofio Cadwal druan, ceisiodd pobl esbonio'r enw trwy ddweud bod y dre fach ar lan Bae Caerfyrddin wedi cael yr enw Cydweli o cyd a gwely am fod afonydd Gwendraeth Fawr a Gwendraeth Fach yn uno yno, Mae'r esboniad yn gwneud synnwyr, er taw sothach llwyr ydyw heb sail hanesyddol na ieithyddol.

Fel yn achos Cydweli, roedd yna ffasiwn rhamantaidd a gwirion yn oes Fictoria o ddyfeisio ystyron i enwau lleoedd.

Straeon rhamantus

Nid ymhell o Gydweli, yn ardal Gorslas ger Cross Hands, mae Llyn Llech Owain. Pan oeddwn i'n yr ysgol, un o farchogion y brenin Arthur oedd Owain, yn ôl yr athro. Ar ei ffordd yn ôl o frwydr ar brynhawn poeth o haf, arhosodd ger ffynnon i dorri syched. Roedd carreg (neu lechen) dros geg y ffynnon i rwystro'r dŵr rhag gorlifo. Ond, ar ôl yfed, aeth Owain i gysgu o dan goeden ar fryncyn cyfagos heb rhoi'r garreg yn ôl. Pan ddeffrodd, roedd dŵr y ffynnon wedi cronni'n llyn mawr.

Fodd bynnag, yn ôl pobl yr ardal heddiw, mae'r enw'n coffau Owain Lawgoch, milwr mawr fu'n ymladd am flynyddoedd gyda'r Ffrancod yn erbyn y Saeson. Roedd â'i fryd ar ryddhau Cymru o afael y Saeson ond cafodd ei ladd yn Ffrainc cyn cael cyfle i wireddu ei freuddwyd. O leiaf roedd yr Owain yma'n berson go iawn er mai rhamant arall yw'r ymdrech i briodoli enw Llyn Llech Owain iddo.

Mae'n bosibl taw 'Llyn Llwch y Waun' oedd yr enw gwreiddiol ar y llyn hwn ar y gweundir uchel uwch Gorslas. Ystyr llwch fel yn 'loch' yw llyn mewn lle corsog iawn. Yn wir, yn Llan-llwch sy'n agos iawn i Gae'r Sioe yng Nghaerfyrddin - lleoliad Eisteddfod yr Urdd 2007 - mae'r llyn wedi sychu'n llwyr. Wrth i bobol anghofio beth oedd ystyr yr elfen llwch yn Llwch y Waun dechreuon nhw alw'r lle yn Llyn Llwch y Waun. Bach iawn, iawn o newid oedd angen wedyn i'w droi'n Llyn Llech Owain.

Mae enwau lleoedd heddiw yn gallu ein twyllo ni.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2007 gan yr Athro Hywel Wyn Owen fel rhan o brosiect 'Beth sy' mewn enw?' gan edrych ar sut mae enwau lleoedd yn dehongli hanes, iaith a thirwedd Cymru.


Geiriadur

Help / Cymorth

Tafodiaith

Dynion

Geiriau unigryw

Rhestrau o eiriau tafodieithol o bob rhan o Gymru.

Adnoddau

Bysellfwrdd

Ar-lein

Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.