Geiriaduron ar-lein

Geiriadur BBC Cymru Wales
Geiriadur Prifysgol Llanbedr Pont Steffan - geiriadur.netGeiriadur Prifysgol Cymru Geiriadur yr Academi (Saesneg - Cymraeg)

Geiriadur Termau

Mae sawl geiriadur Termau hefyd i'w cael ar-lein, a gellir cael mynediad at y rhan fwyaf ohonynt drwy Termau.org ond mae TermCymru sef cronfa derminoleg a gedwir gan gyfieithwyr y Cynulliad, hefyd yn ddefnyddiol.

Gallwch chi hefyd gael geiriadur ar eich ffôn symudol drwy lawrlwytho Geiryn iddo. Nid yw hwn yn gweithio ar ffônau sydd ddim yn rhedeg Java.

Cysgliad

Os ydych yn ddefnyddiwr Mac gallwch lawrlwytho'r pecyn meddalwedd gwirio sillafu a geiriaduron Cysgliad am ddim.

Os ydych yn defnyddio Windows gallwch brynu pecyn Cysgliad.

Cysill

Gallwch hefyd ddefnyddio'r gwirydd sillafu Cysill sydd yn rhan o'r pecyn yn rhad ac am ddim ar-lein.

Cyfieithydd

Os ydych yn chwilio am gyfieithydd peirianyddol yna mae Google Translate nawr yn cynnig Cymraeg fel iaith gyfieithu. Mae hyn yn golygu y gallwch gyfieithu testun neu wefan un ai o'r Gymraeg i sawl iaith arall, neu o iaith arall i'r Gymraeg. Mae tueddiad i'r cyfieithydd weithio orau wrth drosi o'r Gymraeg i'r Saesneg ond mae'n parhau i fod â gwallau sylweddol.

Gallwch hefyd ddefnyddio Geriaoueg neu Apertium i roi cyfieithiad bras o'r Gymraeg i'r Saesneg.

To bach

Mae'r meddalwedd To Bach yn ei gwneud hi'n hawdd rhoi toeon bach ar eich llafariaid. Does dim ond rhaid lawrlwytho'r feddalwedd, ac yna drwy wasgu ALT GR + llafariaid' cewch do bach (bron) bob tro.

Wrth ddefnyddio Apple Mac gallwch gael to bach drwy newid iaith y cyfrifiadur i'r Gymraeg fel nodir uchod, yna defnyddio "alt/option + llafariad."

Rhodri ap Dyfrig. Tachwedd 2009

Blaenorol: Adnoddau technegol Cymraeg
Nesaf: Blogio, trydar a negesfyrddau


Language help

This page is about Welsh language resources available, such as spell checking websites and online dictionaries. For help with the Welsh, click on the BBC Vocab button above.

Geiriadur

Help / Cymorth

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.