Advertisement

Gwasanaethau symudol

Dyma'r hyn allwch ei gael trwy gyswllt y we ar eich ffôn symudol:

  • Newyddion
  • Tywydd
  • Radio Cymru: amserlen rhaglenni heddiw
  • Big Welsh Challenge: termau Cymraeg i ddysgwyr
  • Erthyglau blogiau BBC Cymru (i ddod cyn hir)

Sut mae'n gweithio?

  1. Tecstiwch CYMRU i 81010. Bydd y BBC yn danfon neges destun yn ôl atoch chi gyda linc i bbc.co.uk/symudol. Bydd hwn yn ymddangos fel neges yn cynnwys linc, 'WAP push', neu 'service message inbox'.
  2. Agorwch y neges er mwyn mynd at y linc a llwytho'r tudalen. Byddwch chi'n cysylltu â'r we symudol ac yn cyrraedd gwefan symudol arbrofol BBC Cymru.
  3. Cofiwch ychwanegu nod tudalen ('bookmark') ar gyfer hafanddalen bbc.co.uk/symudol.

Er gwybodaeth

Mae cost pob neges destun rhwng 10c-15c yn dibynnu ar eich darparwr. Nid yw'r BBC yn codi tâl am gynnwys symudol ond fe fydd eich darparwr yn codi tâl. Fe all darparwyr godi am y cyfnod y byddwch yn edrych ar y we neu am y data a lawr lwythir. Cysylltwch â'ch darparwr er mwyn cael gwybodaeth am yr union gostau.

Ni all y BBC sicrhau y bydd y neges WAP hon yn gweithio ar eich ffôn chi. Hyd ag y mae'r gyfraith yn caniatau mae'r BBC yn ymwrthod ag unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.