Cwestiynau cyffredin

Er gwybodaeth, nid ydym yn diweddaru'r wefan hon mwyach.

Ynglŷn â gwefannau nad ydynt yn cael eu diweddaru mwyach

  1. "Nid ydym yn diweddaru'r wefan hon mwyach" - Beth yw ystyr hyn?
  2. Pam nad ydych chi'n dileu'r gwefannau hyn ar ôl i'r rhaglen, digwyddiad neu brosiect ddod i ben?
  3. Pryd ydych chi'n dileu gwefannau oddi ar bbc.co.uk?

"Nid ydym yn diweddaru'r wefan hon mwyach" - Beth yw ystyr hyn?

Rydym ni'n mynd ati i sicrhau bod pob un o'r tudalennau rydym yn eu cyhoeddi ar bbc.co.uk mor gywir, dibynadwy a defnyddiol â phosibl. Pan fo cyfres radio neu deledu penodol neu ddigwyddiad arall y BBC wedi dod i ben bydd y wefan gysylltiedig yn parhau i fod ar-lein, rhan ofn y bydd hi o gymorth i ymwelwyr yn y dyfodol. Serch hynny, er mwyn osgoi dryswch rydym yn ychwanegu hysbysiad baner ar y wefan sy'n ei gwneud hi'n glir nad ydym yn diweddaru'r tudalennau mwyach.

Rydym yn gadael y gwefannau hyn ar-lein fel y gellir cyfeirio atynt, ond dylech gofio y gall y wybodaeth a ddarparwyd fod wedi dyddio neu fod yn anghywir erbyn hyn.

Nôl i'r brig

Pam nad ydych chi'n dileu'r gwefannau hyn ar ôl i'r rhaglen, digwyddiad neu brosiect ddod i ben?

Yn ein barn ni, mae'r gwefannau hyn fel arfer yn cynnwys llawer o wybodaeth ynglŷn â'r rhaglen neu'r digwyddiad a allai fod o ddiddordeb yn y dyfodol. Nid ydym am ddileu tudalennau y gallai defnyddwyr fod wedi eu nodi fel ffefrynnau neu sydd wedi'u cysylltu â nhw mewn ffyrdd eraill.

Mae hefyd yn golygu y gallwn ddiweddaru cynnwys y wefan a chael gwared ar yr hysbysiad baner yn gyflym iawn os bydd y gyfres o raglenni neu'r digwyddiad yn dychwelyd.

Nôl i'r brig

Pryd ydych chi'n dileu gwefannau oddi ar bbc.co.uk?

Yn gyffredinol ein polisi yw dileu gwefannau a thudalennau pan fydd y wybodaeth a ddarparwyd wedi dyddio cymaint fel y gall greu niwed neu ddifrod.

Nôl i'r brig

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.