Ioan Hefin fel Wallace

02 Chwefror 2012

Bu Glyn Evans yn gweld perfformiad o 'Dylech Ofyn i Wallace' yn Ysgol Tryfan Bangor, Chwefror 1, 2012

Mae'n debyg y gellir ystyried Alfred Russel Wallace fel Cymro a gafodd gam.

Er i'w gyfraniad gael ei gydnabod gan ei gyfoedion gyda phapur newydd yn yr America yn ei ddisgrifio, adeg ei farwolaeth, fel y gwyddonydd mwyaf clodwiw ar y blaned mae'n wir dweud mai ychydig yng Nghymru heddiw sy'n gwybod am ei gyfraniad.

Fe'i bwriwyd i'r cysgodion yn llwyr gan wyddonydd arall a oedd yn llafurio yn yr un maes ag ef yr un adeg ag ef, Charles Darwin.

Ond mae lle i gredu mai'r Cymro, o ran genedigaeth, a fraenarodd y tir cyn belled ag y mae damcaniaeth fawr Darwin yn y cwestiwn. Yn wir, ar y cyd, y cyhoeddwyd sylwadau cychwynnol y ddamcaniaeth fawr a Wallace yn sbardun.

Ac, yn ôl cynhyrchiad am Wallace gan Theatr na n'Óg fel "The Wallace Darwin Theory of Evolution" yr adnabyddir y ddamcaniaeth honno yn yr Unol Daleithiau hyd yn oed heddiw er mai enw Darwin yn unig a ymddengys yr ochr hon i'r Iwerydd.

Gwneud iawn

Sioe un dyn gryno a di-lol yw un Theatr na n'Óg sy'n gwneud iawn â'r cam a gafodd Wallace gyda Ioan Hefin yn portreadu Wallace yn dweud ei hanes ei hun wrth y gynulleidfa - ond heb gwyno am yr hyn ddigwyddodd. Dim ond gosod y ffeithiau gerbron.

Pwysleisir dau beth, ei gyfraniad aruthrol a'r ffaith ei fod yn Gymro gyda Wallace (Ioan Hefin) yn siarad yn annwyl iawn am ei fagwraeth ar lan Afon Wysg ac am ei ymlyniad i Gymru wedi hynny.

Mae'n gyflwyniad di-lol, cynnes a hoffus. Yn un sy'n gweddu'n well o ran ei agosatrwydd i gynulleidfa fach.

Ond y mae Wallace hefyd yn mentroi blith cynulleidfa fwy gan siarad yn uniongyrchol ag unigolion.

Hawl i holi

Wedi ei sgrifennu gan Geinor Styles, cyfarwyddwr artistig y cwmni, mae rhyw ddeugain munud o hyd gyda chyfle wedyn i'r gynulleidfa holi Wallace. Mae'r gwerth a geir o'r perfformiad yn dibynnu llawer, debygwn i, ar barodrwydd y gynulleidfa i holi a hyd yn oed ddadlau.

Dyfynnir Wallace ei hun yn dweud mai "dyn tlawd yw'r dyn heb gwestiynau"!

Bu fersiynau Cymraeg a saesneg o'r cynhyrchiad yn 'gwneud y rownds' ers rhai blynyddoedd gan ymffrostio yn y ffaith o fod y 'perfformiad' cyntaf yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain. Bu perfformiadau hefyd yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthe a'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

O ran 'gwerthu' Wallace y mae Ioan Hefin yn rhagorol o ran llais, ysbryd a phersonoliaeth.

Mae teitl y cynhyrchiad yn deillio o stori am Darwin yn methu'n lân â chanfod yr ateb i pam roedd rhai rhywogaethau yn bodoli yn eu ffurf bresennol ac yn cael yr awgrym gan rywun y "Dylech ofyn i Wallace".

Dweud y stori bywyd yn syml yw'r dull yn y cynhyrchiad a dangos sut y sbardunwyd Wallace i ddilyn y trywydd a wnaeth a dod i'w gasgliadau - chwyldroadol ar y pryd - o esblygiad y rhywogaethau.

Mae'n stori gwerth ymgyfarwyddo â hi.

Ymhlith y cant

Er na ddywedir hynny yn y cynhyrchiad wythfed ar hugain oedd Wallace ar restr o gant o arwyr Cymru a luniwyd ar sail pleidlais gyhoeddus gan Culturnet Cymru yn 2004 gyda 313 o bobl wedi pleidleisio dros y gŵr a anwyd ym Mrynbuga, Sir Fynwy.

Wedi gadael yr ysgol yn 13 oed fe'i prentisiwyd yn syrfëwr gan ymuno maes o law â chwmni ei frawd yng Nghastell-nedd lle dangosodd y fath ddiddordeb mewn materion gwyddonol y'i penodwyd yn guradur Amgueddfa Sefydliad Athronyddol a Llenyddol y dref.

Ymddiddorai yn fawr mewn pryfetach a thrychfilod ac yr oedd yn gasglwr brwd ac yn dilyn marwolaeth ei frawd yn ŵr ifanc yn 1845 teithiodd Wallace i Dde America er mwyn casglu samplau o'r Amazon.

Y dirgelwch a'i llethai oedd sut oedd rhywogaethau tebyg wedi datblygu mewn ffurf wahanol dros gyfnodau maith o amser - yr union faes yr enwogodd Darwin ei hun ynddo wrth gwrs.

Er yn llwyddiant mewn un ffordd bu'r ymweliad pedair blynedd â'r Amazon yn drychineb hefyd gyda'r llong yr hwyliai adref arni yn mynd ar dân yng nghanol yr Iwerydd ac ef ac eraill yn treulio deng niwrnod mewn cwch cyn cael eu hachub.

Collwyd ei holl gasgliadau, ei nodiadau a'i ddyddiaduron o'r hyn a ddisgrifiodd fel cyfnod hapusaf a mwyaf diddorol ei fywyd.

Mewn twymyn

Mentrodd wedyn i Indonesia ac yno, yn ystod twymyn, yn dioddef o falaria, y datblygodd ei ddamcaniaeth ynglŷn â dethol naturiol gan osod ar bapur sylfeini'r ddamcaniaeth a'u hanfon at Darwin i'w rhannu ag ef.

Bu sylweddoli fod Wallace mor agos at gyflawni'r hyn yr oedd ef ei hun yn anelu ato yn sbardun i Darwin gyhoeddi ei sylwadau ei hun rhag ildio'r ras i Wallace ond mae'n bwysig cofio mai ar y cyd y cyflwynwyd pigion o waith y ddau mewn papur i'r Linnean Society ym 1858.

Yn ddiweddarach wedyn y gwelodd On the Origin of Species Darwin olau dydd, un o'r gweithiau gwyddonol pwysicaf erioed.

Gwyddom oll y canlyniad, wrth gwrs, gyda Darwin yr enw sy'n cael ei gofio heddiw heb fawr grybwyll y Cymro, Wallace.

Ond yn ei ddydd yr oedd pobl yn llawer mwy gwerthfawrogol o'i gyfraniad arloesol yntau ac y mae cynhyrchiad Theatr na n'Óg yn gymwynas o'n hatgoffa ni o hynny.

  • Alfred Russel Wallace: Ionawr 8, 1823 - Tachwedd 7 1913


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn BBC Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.